Y Salmau 122 - William Morgan Bible with Apocrypha, 1959 Edition

SALM 122Caniad y graddau, o’r eiddo Dafydd.

1Llawenychais pan ddywedent wrthyf, Awn i dŷ yr ARGLWYDD.

2Ein traed a safant o fewn dy byrth di, O Jerwsalem.

3Jerwsalem a adeiladwyd fel dinas wedi ei chydgysylltu ynddi ei hun.

4Yno yr esgyn y llwythau, llwythau yr ARGLWYDD, yn dystiolaeth i Israel, i foliannu enw yr ARGLWYDD.

5Canys yno y gosodwyd gorseddfeinciau barn, gorseddfeinciau tŷ Dafydd.

6Dymunwch heddwch Jerwsalem: llwydded y rhai a’th hoffant.

7Heddwch fyddo o fewn dy ragfur, a ffyniant yn dy balasau.

8Er mwyn fy mrodyr a’m cyfeillion y dywedaf yn awr, Heddwch fyddo i ti.

9Er mwyn tŷ yr ARGLWYDD ein DUW, y ceisiaf i ti ddaioni.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help