1Ti, O DDUW, yw fy NUW i; yn fore y’th geisiaf: sychedodd fy enaid amdanat, hiraethodd fy nghnawd amdanat, mewn tir cras a sychedig heb ddwfr;
2I weled dy nerth a’th ogoniant, fel y’th welais yn y cysegr.
3Canys gwell yw dy drugaredd di na’r bywyd: fy ngwefusau a’th foliannant.
4Fel hyn y’th glodforaf yn fy mywyd: dyrchafaf fy nwylo yn dy enw.
5Megis â mer ac â braster y digonir fy enaid; a’m genau a’th fawl â gwefusau llafar:
6Pan y’th gofiwyf ar fy ngwely, myfyriaf amdanat yng ngwyliadwriaethau y nos.
7Canys buost gynhorthwy i mi; am hynny yng nghysgod dy adenydd y gorfoleddaf.
8Fy enaid a lŷn wrthyt: dy ddeheulaw a’m cynnal.
9Ond y rhai a geisiant fy enaid i ddistryw, a ânt i iselderau y ddaear.
10Syrthiant ar fin y cleddyf: rhan llwynogod fyddant.
11Ond y Brenin a lawenycha yn NUW: gorfoledda pob un a dyngo iddo ef: eithr caeir genau y rhai a ddywedant gelwydd.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.
