Esther 4 - William Morgan Bible with Apocrypha, 1959 Edition

1Pan wybu Mordecai yr hyn oll a wnaethid, Mordecai a rwygodd ei ddillad, ac a wisgodd sachliain a lludw, ac a aeth allan i ganol y ddinas, ac a waeddodd â chwerw lef uchel.

2Ac efe a ddaeth hyd o flaen porth y brenin: ond ni cheid dyfod i borth y brenin mewn gwisg o sach.

3Ac ym mhob talaith a lle a’r y daethai gair y brenin a’i orchymyn iddo, yr oedd galar mawr gan yr Iddewon, ac ympryd, ac wylofain, ac oernad; a llawer a orweddent mewn sachliain a lludw.

4Yna llancesau Esther a’i hystafellyddion hi a ddaethant ac a fynegasant hynny iddi hi. A’r frenhines a dristaodd yn ddirfawr; a hi a ddanfonodd wisgoedd i ddilladu Mordecai, ac i dynnu ymaith ei sachliain ef oddi amdano; ond ni chymerai efe hwynt.

5Am hynny Esther a alwodd ar Hathach, un o ystafellyddion y brenin, yr hwn a osodasai efe i wasanaethu o’i blaen hi; a hi a orchmynnodd iddo am Mordecai, fynnu gwybod pa beth oedd hyn, ac am ba beth yr ydoedd hyn.

6Yna Hathach a aeth allan at Mordecai i heol y ddinas yr hon sydd o flaen porth y brenin.

7A Mordecai a fynegodd iddo yr hyn oll a ddigwyddasai iddo; a swm yr arian y rhai a adawsai Haman eu talu i drysorau y brenin am yr Iddewon, i’w difetha hwynt.

8Ac efe a roddodd iddo destun ysgrifen y gorchymyn a osodasid yn Susan i’w dinistrio hwynt, i’w ddangos i Esther, ac i’w fynegi iddi, ac i orchymyn iddi fyned i mewn at y brenin, i ymbil ag ef, ac i ymnhedd o’i flaen ef dros ei phobl.

9A Hathach a ddaeth ac a fynegodd i Esther eiriau Mordecai.

10Ac Esther a ddywedodd wrth Hathach, ac a orchmynnodd iddo ddywedyd wrth Mordecai;

11Holl weision y brenin, a phobl taleithiau y brenin, ydynt yn gwybod, mai pa ŵr bynnag, neu wraig, a ddelo i mewn at y brenin i’r cyntedd nesaf i mewn, heb ei alw, un o’i gyfreithiau ef yw ei farwolaethu ef, oddieithr yr hwn yr estynno y brenin y deyrnwialen aur iddo, fel y byddo byw: ac ni’m galwyd i ddyfod i mewn at y brenin, bellach er ys deng niwrnod ar hugain.

12A hwy a fynegasant i Mordecai eiriau Esther.

13Yna Mordecai a ddywedodd am iddynt ateb Esther, Na feddwl yn dy galon y dihengi yn nhŷ y brenin rhagor yr holl Iddewon.

14Oherwydd os tewi â sôn a wnei di y pryd hwn, esmwythdra ac ymwared a gyfyd i’r Iddewon o le arall, tithau a thŷ dy dad a gyfrgollir: a phwy sydd yn gwybod ai oherwydd y fath amser â hwn y daethost ti i’r frenhiniaeth?

15Yna Esther a ddywedodd am ateb Mordecai fel hyn:

16Dos, a chasgl yr holl Iddewon a gaffer yn Susan, ac ymprydiwch drosof fi, na fwytewch hefyd ac nac yfwch dros dridiau, nos na dydd: a minnau a’m llancesau a ymprydiaf felly: ac felly yr af i mewn at y brenin, yr hwn beth nid yw gyfreithlon: ac o derfydd amdanaf, darfydded.

17Felly Mordecai a aeth ymaith, ac a wnaeth yn ôl yr hyn oll a orchmynasai Esther iddo.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help