1Fy mab, os derbynni di fy ngeiriau, ac os cuddi fy ngorchmynion gyda thi;
2Fel y parech i’th glust wrando ar ddoethineb, ac y gogwyddech dy galon at ddeall;
3Ie, os gwaeddi ar ôl gwybodaeth, os cyfodi dy lef am ddeall;
4Os ceisi hi fel arian, os chwili amdani fel am drysorau cuddiedig;
5Yna y cei ddeall ofn yr ARGLWYDD, ac y cei wybodaeth o DDUW.
6Canys yr ARGLWYDD sydd yn rhoi doethineb: allan o’i enau ef y mae gwybodaeth a deall yn dyfod.
7Y mae ganddo ynghadw i’r rhai uniawn wir ddoethineb: tarian yw efe i’r sawl a rodiant yn uniawn.
8Y mae efe yn cadw llwybrau barn, ac yn cadw ffordd ei saint.
9Yna y cei di ddeall cyfiawnder, a barn, ac uniondeb, a phob llwybr daionus.
10Pan ddelo doethineb i mewn i’th galon, a phan fyddo hyfryd gan dy enaid wybodaeth;
11Yna cyngor a’th gynnal, a synnwyr a’th geidw:
12I’th achub oddi wrth y ffordd ddrwg, ac oddi wrth y dyn a lefaro drawsedd;
13Y rhai a ymadawant â llwybrau uniondeb, i rodio mewn ffyrdd tywyllwch;
14Y rhai a ymlawenychant i wneuthur drwg, ac a ymddigrifant yn anwiredd y drygionus;
15Y rhai sydd â’u ffyrdd yn geimion, ac yn gildyn yn eu llwybrau:
16I’th wared oddi wrth y fenyw estronaidd, oddi wrth y ddieithr wenieithus ei geiriau;
17Yr hon a ymedy â llywodraethwr ei hieuenctid, ac a ollwng dros gof gyfamod ei DUW.
18Canys y mae ei thŷ yn gŵyro at angau, a’i llwybrau at y meirw.
19Pwy bynnag a elo i mewn ati hi, ni ddychwelant, ac nid ymafaelant yn llwybrau y bywyd.
20Fel y rhodiech di ar hyd ffordd gwŷr da, a chadw llwybrau y cyfiawn.
21Canys y gwŷr cyfiawn a breswyliant y ddaear, a’r rhai perffaith a gânt aros ynddi.
22Ond yr annuwiolion a dorrir oddi ar y ddaear, a’r troseddwyr a ddiwreiddir allan ohoni.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.
