1Y mae anwiredd yr annuwiol yn dywedyd o fewn fy nghalon, nad oes ofn DUW o flaen ei lygaid ef.
2Oherwydd ymwenieithio y mae efe iddo ei hun yn ei olwg ei hunan, nes cael ei anwiredd yn atgas.
3Geiriau ei enau ydynt anwiredd a thwyll: peidiodd â bod yn gall i wneuthur daioni.
4Anwiredd a ddychymyg efe ar ei wely: efe a’i gesyd ei hun ar ffordd nid yw dda; nid ffiaidd ganddo ddrygioni.
5Dy drugaredd, ARGLWYDD, sydd hyd y nefoedd, a’th wirionedd hyd y cymylau.
6Fel mynyddoedd cedyrn y mae dy gyfiawnder; dyfnder mawr yw dy farnedigaethau: dyn ac anifail a gedwi di, ARGLWYDD.
7Mor werthfawr yw dy drugaredd, O DDUW! am hynny yr ymddiried meibion dynion dan gysgod dy adenydd.
8Llawn ddigonir hwynt â braster dy dŷ; ac ag afon dy hyfrydwch y diodi hwynt.
9Canys gyda thi y mae ffynnon y bywyd: yn dy oleuni di y gwelwn oleuni.
10Estyn dy drugaredd i’r rhai a’th adwaenant, a’th gyfiawnder i’r rhai uniawn o galon.
11Na ddeued troed balchder i’m herbyn: na syfled llaw yr annuwiol fi.
12Yno y syrthiodd gweithwyr anwiredd: gwthiwyd hwynt i lawr, ac ni allant gyfodi.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.
