Amos 7 - William Morgan Bible with Apocrypha, 1959 Edition

1Fel hyn y dangosodd yr ARGLWYDD i mi; ac wele ef yn ffurfio ceiliogod rhedyn pan ddechreuodd yr adladd godi; ac wele, adladd wedi lladd gwair y brenin oedd.

2A phan ddarfu iddynt fwyta glaswellt y tir, yna y dywedais, Arbed, ARGLWYDD, atolwg: pwy a gyfyd Jacob? canys bychan yw.

3Edifarhaodd yr ARGLWYDD am hyn: Ni bydd hyn, eb yr ARGLWYDD.

4Fel hyn y dangosodd yr ARGLWYDD DDUW i mi: ac wele yr ARGLWYDD DDUW yn galw i farn trwy dân; a difaodd y tân y dyfnder mawr, ac a ysodd beth.

5Yna y dywedais, ARGLWYDD DDUW, paid, atolwg: pwy a gyfyd Jacob? canys bychan yw.

6Edifarhaodd yr ARGLWYDD am hyn: Ni bydd hyn chwaith, eb yr ARGLWYDD DDUW.

7Fel hyn y dangosodd efe i mi: ac wele yr ARGLWYDD yn sefyll ar gaer a wnaethpwyd wrth linyn, ac yn ei law linyn.

8A’r ARGLWYDD a ddywedodd wrthyf, Beth a weli di, Amos? a mi a ddywedais, Llinyn. A’r ARGLWYDD a ddywedodd, Wele, gosodaf linyn yng nghanol fy mhobl Israel, ac ni chwanegaf fyned heibio iddynt mwyach.

9Uchelfeydd Isaac hefyd a wneir yn anghyfannedd, a chysegrau Israel a ddifethir; a mi a gyfodaf yn erbyn tŷ Jeroboam â’r cleddyf.

10Yna Amaseia offeiriad Bethel a anfonodd at Jeroboam brenin Israel, gan ddywedyd, Cydfwriadodd Amos i’th erbyn yng nghanol tŷ Israel: ni ddichon y tir ddwyn ei holl eiriau ef.

11Canys fel hyn y dywed Amos, Jeroboam a fydd farw trwy y cleddyf, ac Israel a gaethgludir yn llwyr allan o’i wlad.

12Dywedodd Amaseia hefyd wrth Amos, Ti weledydd, dos, ffo ymaith i wlad Jwda; a bwyta fara yno, a phroffwyda yno:

13Na chwanega broffwydo yn Bethel mwy: canys capel y brenin a llys y brenin yw.

14Yna Amos a atebodd ac a ddywedodd wrth Amaseia, Nid proffwyd oeddwn i, ac nid mab i broffwyd oeddwn i: namyn bugail oeddwn i, a chasglydd ffigys gwylltion:

15A’r ARGLWYDD a’m cymerodd oddi ar ôl y praidd; a’r ARGLWYDD a ddywedodd wrthyf, Dos, a phroffwyda i’m pobl Israel.

16Yr awr hon gan hynny gwrando air yr ARGLWYDD; Ti a ddywedi, Na phroffwyda yn erbyn Israel, ac nac yngan yn erbyn tŷ Isaac.

17Am hynny fel hyn y dywed yr ARGLWYDD; Dy wraig a buteinia yn y ddinas, dy feibion a’th ferched a syrthiant gan y cleddyf, a’th dir a rennir wrth linyn; a thithau a fyddi farw mewn tir halogedig, a chan gaethgludo y caethgludir Israel allan o’i wlad.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help