Galatiaid 2 - William Morgan Bible with Apocrypha, 1959 Edition

1Yna wedi pedair blynedd ar ddeg yr euthum drachefn i fyny i Jerwsalem gyda Barnabas, gan gymryd Titus hefyd gyda mi.

2Ac mi a euthum i fyny yn ôl datguddiad, ac a fynegais iddynt yr efengyl yr hon yr wyf yn ei phregethu ymhlith y Cenhedloedd; ond o’r neilltu i’r rhai cyfrifol, rhag mewn un modd fy mod yn rhedeg yn ofer, neu ddarfod i mi redeg.

3Eithr Titus, yr hwn oedd gyda mi, er ei fod yn Roegwr, ni chymhellwyd chwaith i enwaedu arno:

4A hynny oherwydd y gau frodyr a ddygasid i mewn, y rhai a ddaethant i mewn i ysbïo ein rhyddid ni yr hon sydd gennym yng Nghrist Iesu, fel y’n caethiwent ni:

5I ba rai nid ymroesom trwy ddarostyngiad, naddo dros awr; fel yr arhosai gwirionedd yr efengyl gyda chwi.

6A chan y rhai a dybid eu bod yn rhywbeth, (pa fath gynt oeddynt, nid yw ddim i mi; nid yw Duw yn derbyn wyneb dyn;) canys y rhai cyfrifol ni chwanegasant ddim i mi:

7Eithr yn y gwrthwyneb, pan welsant ddarfod ymddiried i mi am efengyl y dienwaediad, megis am efengyl yr enwaediad i Pedr:

8(Canys yr hwn oedd yn gweithredu yn nerthol yn Pedr i apostoliaeth yr enwaediad, a nerthol weithredodd ynof finnau hefyd tuag at y Cenhedloedd:)

9A phan wybu Iago, a Cheffas, ac Ioan, y rhai a dybid eu bod yn golofnau, y gras a roddwyd i mi, hwy a roddasant i mi ac i Barnabas ddeau-ddwylo cymdeithas; fel yr elem ni at y Cenhedloedd, a hwythau at yr enwaediad.

10Yn unig ar fod i ni gofio’r tlodion; yr hyn hefyd y bûm i ddiwyd i’w wneuthur.

11A phan ddaeth Pedr i Antiochia, mi a’i gwrthwynebais yn ei wyneb, am ei fod i’w feio.

12Oblegid cyn dyfod rhai oddi wrth Iago, efe a fwytaodd gyda’r Cenhedloedd: ond wedi iddynt ddyfod, efe a giliodd, ac a’i neilltuodd ei hun oddi wrthynt, gan ofni’r rhai oedd o’r enwaediad.

13A’r Iddewon eraill hefyd a gyd-ragrithiasant ag ef; yn gymaint ag y dygwyd Barnabas hefyd i’w rhagrith hwy.

14Eithr pan welais i nad oeddynt yn iawn droedio at wirionedd yr efengyl, mi a ddywedais wrth Pedr yn eu gŵydd hwy oll, Os wyt ti, a thi yn Iddew, yn byw fel y Cenhedloedd, ac nid fel yr Iddewon, paham yr wyt ti yn cymell y Cenhedloedd i fyw yn Iddewaidd?

15Nyni, y rhai wrth naturiaeth ydym Iddewon, ac nid o’r Cenhedloedd yn bechaduriaid,

16Yn gwybod nad ydys yn cyfiawnhau dyn trwy weithredoedd y ddeddf, ond trwy ffydd Iesu Grist, ninnau hefyd a gredasom yng Nghrist Iesu, fel y’n cyfiawnhaer trwy ffydd Crist, ac nid trwy weithredoedd y ddeddf: oblegid ni chyfiawnheir un cnawd trwy weithredoedd y ddeddf.

17Ac os, wrth geisio ein cyfiawnhau yng Nghrist, y’n caed ninnau hefyd yn bechaduriaid, a ydyw Crist am hynny yn weinidog pechod? Na ato Duw.

18Canys os wyf fi yn adeiladu drachefn y pethau a ddistrywiais, yr wyf yn fy ngwneuthur fy hun yn droseddwr.

19Canys yr wyf fi trwy’r ddeddf wedi marw i’r ddeddf, fel y byddwn fyw i Dduw.

20Mi a groeshoeliwyd gyda Christ: eithr byw ydwyf; eto nid myfi, ond Crist sydd yn byw ynof fi: a’r hyn yr ydwyf yr awron yn ei fyw yn y cnawd, ei fyw yr ydwyf trwy ffydd Mab Duw, yr hwn a’m carodd, ac a’i dodes ei hun drosof fi.

21Nid wyf yn dirymu gras Duw: canys os o’r ddeddf y mae cyfiawnder, yna y bu Crist farw yn ofer.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help