1A Jonathan a welodd fod yr amser yn gwasanaethu iddo ef, ac a etholodd wŷr, ac a anfonodd i Rufain i wneuthur ac i adnewyddu cyfeillach â hwynt.
2At y Spartiaid hefyd, ac i leoedd eraill, yr anfonodd efe lythyrau ar yr un testun.
3A hwy a aethant i Rufain, ac a ddaethant i’r cynghordy, ac a ddywedasant, Jonathan yr archoffeiriad, a chenedl yr Iddewon, a’n hanfonodd ni atoch i adnewyddu y gyfeillach a’r gydymdeithas a fu o’r blaen.
4A’r Rhufeinwyr a roddasant iddynt lythyrau at y bobl o le i le, ar fod iddynt eu hanfon hwy i dir Jwdea yn heddychlon.
5Dyma hefyd gopi o’r llythyr a sgrifennodd Jonathan at y Spartiaid.
6Jonathan yr archoffeiriad, a henuriaid y genedl, a’r offeiriaid, a’r rhan arall o bobl yr Iddewon, yn cyfarch gwell i’r brodyr y Spartiaid:
7Cyn hyn yr anfonwyd llythyrau at yr archoffeiriad Oneias oddi wrth Dareius, yr hwn oedd yn frenin arnoch chwi, mai ein brodyr ni ydych chwi, fel y mae y copi isod yn cynnwys.
8Ac Oneias a dderbyniodd y gŵr a anfonasid, yn anrhydeddus; ac a dderbyniodd y llythyrau yn y rhai yr hysbysasid am gyfeillach a chydymdeithas.
9Felly ninnau, er nad yw raid i ni wrth hyn, am fod gennym yn gysur y llyfrau sanctaidd sydd yn ein dwylo,
10A dybiasom yn dda anfon atoch i adnewyddu brawdoliaeth a chyfeillach, rhag i ni fyned yn ddieithr i chwi: oblegid llawer o amser a aeth heibio er pan anfonasoch atom.
11Am hynny yr ydym ni bob amser yn ddi-baid, ar y gwyliau a’r dyddiau cymwys eraill, yn eich cofio chwi yn yr aberthau yr ydym yn eu hoffrymu, ac yn ein gweddïau, megis y mae yn weddaidd ac yn gymwys cofio brodyr;
12Ac yr ydym ni yn llawen am eich anrhydedd chwi.
13Amdanom ni, llawer o drallod, a rhyfeloedd lawer, a’n hamgylchynasant, a’r brenhinoedd o’n hamgylch a ryfelasant i’n herbyn.
14Nid oeddem ni er hynny yn ewyllysio eich blino chwi yn y rhyfeloedd hyn, na’n cydymdeithion a’n cyfeill ion eraill:
15Oherwydd y mae gennym ni gymorth o’r nef, yr hwn sydd yn eid cymorth; ac ni a waredwyd oddi wrth ein gelynion, a’n gelynion a ostyngwyd.
16Am hynny ni a etholasom Numenius fab Antiochus, ac Antipater fab Jason, ac a’u hanfonasom at y Rhufeiniaid, i adnewyddu â hwynt y gyfeillach a’r gymdeithas a fuasai o’r blaen.
17Felly y gorchmynasom iddynt hefyd ddyfod atoch chwithau, a’ch cyfarch, a rhoddi i chwi ein llythyrau ni am adnewyddu ein brawdoliaeth.
18Ac yr awr hon chwi a wnewch yn dda ar ateb i ni am hyn.
19A dyma gopi y llythyrau a anfonodd Oniares:
20Areus brenin y Spartiaid yn cyfarch gwell i Oneias yr archoffeiriad:
21Yr ydys yn cael mewn ysgrifen am y Spartiaid a’r Iddewon, mai brodyr ydynt hwy, a’u bod o genedl Abraham.
22Ac yn awr, gan i ni wybod hyn, da y gwnewch ysgrifennu atom am eich heddwch.
23Yr ydym ninnau yn ysgrifennu atoch chwithau, eich anifeiliaid chwi a’ch golud sydd eiddom ni, a’r eiddom ninnau yn eiddoch chwi: ac yr ydym yn gorchymyn i’n cenhadon, ar iddynt fynegi i chwi fel hyn.
24A Jonathan a glybu ddychwelyd tywysogion Demetrius â llu mwy na’r cyntaf, i ryfela yn ei erbyn ef;
25Ac efe a aeth allan o Jerwsalem, ac a aeth i gyfarfod â hwynt i wlad Amathis: ac ni roddes efe iddynt ysbaid i ddyfod i’w wlad ef.
26Ac efe a anfonodd ysbïwyr i’w gwersyll hwynt; a hwy a ddychwelasant, ac a fynegasant iddo eu bod hwy yn amcanu rhuthro arnynt liw nos.
27A Jonathan, pan fachludodd haul, a archodd i’r rhai oedd gydag ef wylied, a bod mewn arfau, i fod yn barod i ryfel ar hyd y nos; ac efe a osododd ragwylwyr o amgylch y gwersyll.
28A’r gwrthwynebwyr a glywsant fod Jonathan a’r rhai oedd gydag ef yn barod i ryfel, ac a ofnasant, ac a ddychrynasant yn eu calon, ac a gyneuasant dân yn eu gwersyll.
29Ond Jonathan a’r rhai oedd gydag ef ni wybuant hyd y bore: oblegid hwy a welent dân yn llosgi.
30A Jonathan a ymlidiodd ar eu hôl hwynt, ac nis goddiweddodd hwynt; oblegid hwy a aethent dros yr afon Eleutherus.
31Yna y trodd Jonathan yn erbyn yr Arabiaid, y rhai a elwid y Sabadiaid, ac a’u trawodd hwynt, ac a gymerodd eu hysbail hwynt.
32Ac efe a fudodd, ac a ddaeth i Damascus, ac a rodiodd trwy’r holl wlad.
33Simon hefyd a aeth allan, ac a dramwyodd trwy’r wlad hyd Ascalon, a’r cestyll oedd gyfagos, ac a drodd i Jope, ac a’i henillodd hi:
34Oherwydd efe a glywsai eu bod hwy yn amcanu rhoddi’r castell i fyny i’r rhai oedd o du Demetrius; ac efe a osododd yno warcheidwaid i’w gadw ef.
35A Jonathan a ddychwelodd, ac a gasglodd henuriaid y bobl, ac a ymgynghorodd â hwynt am adeiladu cestyll yn Jwdea,
36Ac am godi caerau Jerwsalem, a chodi uchder mawr rhwng y tŵr a’r ddinas, i wahanu rhyngddo ef a’r ddinas, i fod ohono o’r neilltu, fel na phrynent ac na werthent yno.
37A phan ddaethant hwy ynghyd i adeiladu’r ddinas, efe a aeth i’r mur nesaf i’r aber o du’r dwyrain: a hwy a adeiladasant yr hyn a elwir Caffenatha.
38A Simon a adeiladodd Adida yn Seffela, ac a’i cadarnhaodd â phyrth ac â barrau.
39Tryffon hefyd a geisiodd deyrnasu yn Asia, a gwisgo’r goron, ac estyn ei law yn erbyn y brenin Antiochus.
40Ond efe a ofnodd na adawai Jonathan; a rhag iddo ryfela yn ei erbyn ef, efe a geisiodd ffordd i’w ddal ef i’w ddifetha: am hynny efe a gododd, ac a aeth i Bethsan.
41A Jonathan a aeth allan i gyfarfod ag ef â deugain mil o wŷr wedi eu dethol i ryfel, ac a ddaeth i Bethsan.
42A phan welodd Tryffon ei ddyfod ef â llu mawr, efe a ofnodd estyn ei law yn ei erbyn ef.
43Am hynny efe a’i derbyniodd ef yn anrhydeddus, ac a’i canmolodd ef wrth ei holl garedigion, ac a roddes iddo roddion, ac a archodd i’w holl garedigion ufuddhau iddo ef megis iddo yntau ei hun.
44Ac efe a ddywedodd wrth Jonathan, I ba beth y blinaist ti y bobl hyn oll, heb fod rhyfel rhyngom ni?
45Yr awron gan hynny anfon y rhai hyn i’w tai, ac ethol i ti ychydig wŷr, y rhai a fyddant gyda thi, a thyred gyda myfi i Ptolemais; ac mi a’i rhoddaf hi i ti, a’r cestyll eraill, a’r lluoedd eraill, a’r swyddogion; a mi a ddychwelaf, ac a af ymaith: canys o achos hyn y deuthum i yma.
46Yntau yn ei gredu ef, a wnaeth fel y dywedodd efe, ac a anfonodd ymaith ei lu; a hwy a aethant i dir Jwdea.
47Ac efe a adawodd gydag ef dair mil o wŷr, o ba rai efe a adawodd ddwy fil yn Galilea, a mil a aeth gydag ef.
48Er cynted y daeth Jonathan i Ptolemais, y Ptolemaiaid a gaeasant y pyrth, ac a’i daliasant ef, ac a laddasant â’r cleddyf y rhai oll a ddaethai i mewn gydag ef.
49Yna yr anfonodd Tryffon lu a gwŷr meirch i dir Galilea, ac i’r maes mawr, i ddifetha y rhai oedd ar du Jonathan.
50Eithr pan wybuant hwy ei ddal ef, a difetha y rhai oedd gydag ef, hwy a ymgysurasant, ac a aethant ynghyd, yn barod i ryfel.
51Felly pan welodd y rhai oedd yn canlyn arnynt eu bod hwy yn barod i ymladd am eu heinioes, hwy a ddychwelasant.
52Hwythau a ddaethant oll i wlad Jwdea yn ddihangol, ac a alarasant am Jonathan, a’r rhai oedd gydag ef; a hwy a ofnasant yn ddirfawr: ac Israel oll a alarasant alar mawr.
53A’r holl genhedloedd o amgylch a geisiasant eu difetha hwynt: canys hwy a ddywedasant, Nid oes ganddynt na thywysog na neb i’w helpu; am hynny rhyfelwn yn eu herbyn hwynt yn awr, a dilëwn eu coffadwriaeth o blith dynion.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.