Job 35 - William Morgan Bible with Apocrypha, 1959 Edition

1Ac Elihu a lefarodd ac a ddywedodd,

2A gyfrifaist di yn uniawn ddywedyd ohonot, Y mae fy nghyfiawnder i yn fwy na’r eiddo DUW?

3Canys dywedaist, Pa les a wna hynny i ti? pa beth a enillaf, er fy nglanhau oddi wrth fy mhechod?

4Myfi a atebaf i ti, ac i’th gyfeillion gyda thi.

5Edrych ar y nefoedd, a gwêl; ac edrych ar y cymylau, y rhai sydd uwch na thi.

6Os pechi, pa niwed a wnei di iddo ef? os aml fydd dy anwireddau, pa beth yr wyt yn ei wneuthur iddo ef?

7Os cyfiawn fyddi, pa beth yr wyt yn ei roddi iddo ef? neu pa beth y mae efe yn ei gael ar dy law di?

8I ŵr fel tydi, dy annuwioldeb, ac i fab dyn, dy gyfiawnder, a all ryw beth.

9Gan faint y gorthrymder, hwy a wnânt i’r gorthrymedig lefain: hwy a floeddiant rhag braich y cedyrn.

10Ond ni ddywed neb, Pa le y mae DUW, yr hwn a’m gwnaeth i; yr hwn sydd yn rhoddi achosion i ganu y nos?

11Yr hwn sydd yn ein dysgu yn fwy nag anifeiliaid y ddaear, ac yn ein gwneuthur yn ddoethach nag ehediaid y nefoedd.

12Yna hwy a waeddant rhag balchder y rhai drwg, ac ni chlyw efe.

13Diau na wrendy DUW oferedd, ac nad edrych yr Hollalluog arno.

14Er dywedyd ohonot na weli ef, eto y mae barn ger ei fron ef: disgwyl dithau wrtho.

15Ac yn awr, am nad yw felly, efe a ymwelodd yn ei ddigofaint; eto ni ŵyr efe mewn dirfawr galedi:

16Am hynny y lleda Job ei safn yn ofer; ac yr amlha eiriau heb wybodaeth.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help