Y Salmau 74 - William Morgan Bible with Apocrypha, 1959 Edition

SALM 74Maschil Asaff.

1Paham, DDUW, y’n bwriaist heibio yn dragywydd, ac y myga dy ddigofaint yn erbyn defaid dy borfa?

2Cofia dy gynulleidfa, yr hon a brynaist gynt; a llwyth dy etifeddiaeth, yr hwn a waredaist; mynydd Seion hwn, y preswyli ynddo.

3Dyrcha dy draed at anrhaith dragwyddol; sef at yr holl ddrwg a wnaeth y gelyn yn y cysegr.

4Dy elynion a ruasant yng nghanol dy gynulleidfaoedd; gosodasant eu banerau yn arwyddion.

5Hynod oedd gŵr, fel y codasai fwyeill mewn drysgoed.

6Ond yn awr y maent yn dryllio ei cherfiadau ar unwaith â bwyeill ac â morthwylion.

7Bwriasant dy gysegroedd yn tân; hyd lawr yr halogasant breswylfa dy enw.

8Dywedasant yn eu calonnau, Cydanrheithiwn hwynt: llosgasant holl synagogau DUW yn y tir.

9Ni welwn ein harwyddion: nid oes broffwyd mwy, nid oes gennym a ŵyr pa hyd.

10Pa hyd, DDUW, y gwarthrudda y gwrthwynebwr? a gabla y gelyn dy enw yn dragywydd?

11Paham y tynni yn ei hôl dy law, sef dy ddeheulaw? tyn hi allan o ganol dy fynwes.

12Canys DUW yw fy Mrenin o’r dechreuad, gwneuthurwr iachawdwriaeth o fewn y tir.

13Ti yn dy nerth a berthaist y môr: drylliaist bennau dreigiau yn y dyfroedd.

14Ti a ddrylliaist ben lefiathan; rhoddaist ef yn fwyd i’r bobl yn yr anialwch.

15Ti a holltaist y ffynnon a’r afon; ti a ddihysbyddaist afonydd cryfion.

16Y dydd sydd eiddot ti, y nos hefyd sydd eiddot ti: ti a baratoaist oleuni a haul.

17Ti a osodaist holl derfynau y ddaear: ti a luniaist haf a gaeaf.

18Cofia hyn, i’r gelyn gablu, O ARGLWYDD, ac i’r bobl ynfyd ddifenwi dy enw.

19Na ddyro enaid dy durtur i gynulleidfa y gelynion: nac anghofia gynulleidfa dy drueiniaid byth.

20Edrych ar y cyfamod: canys llawn yw tywyll leoedd y ddaear o drigfannau trawster.

21Na ddychweled y tlawd yn waradwyddus: molianned y truan a’r anghenus dy enw.

22Cyfod, O DDUW, dadlau dy ddadl: cofia dy waradwydd gan yr ynfyd beunydd.

23Nac anghofia lais dy elynion: dadwrdd y rhai a godant i’th erbyn sydd yn dringo yn wastadol.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help