Job 40 - William Morgan Bible with Apocrypha, 1959 Edition

1Yr ARGLWYDD hefyd a atebodd Job, ac a ddywedodd,

2Ai dysgeidiaeth yw ymryson â’r Hollalluog? a argyhoeddo DDUW, atebed i hynny.

3A Job a atebodd yr ARGLWYDD, ac a ddywedodd,

4Wele, gwael ydwyf; pa beth a atebaf i ti? mi a osodaf fy llaw ar fy ngenau.

5Dywedais unwaith; ond nid atebaf: ie, ddwywaith; ond ni chwanegaf.

6A’r ARGLWYDD a atebodd Job allan o’r corwynt, ac a ddywedodd,

7Gwregysa yn awr dy lwynau fel gŵr; a myfi a ofynnaf i ti, mynega dithau i mi.

8A wnei di fy marn i yn ofer? a ferni di fi yn anghyfiawn, i’th gyfiawnhau dy hun?

9A oes i ti fraich fel i DDUW? neu a wnei di daranau â’th lais fel yntau?

10Ymdrwsia yn awr â mawredd ac â godidowgrwydd, ac ymwisg â gogoniant ac â phrydferthwch.

11Gwasgar gynddaredd dy ddigofaint; ac edrych ar bob balch, a thafl ef i lawr.

12Edrych ar bob balch, a gostwng ef; a mathra yr annuwiol yn eu lle.

13Cuddia hwynt ynghyd yn y pridd, a rhwym eu hwynebau hwynt mewn lle cuddiedig.

14Yna hefyd myfi a addefaf i ti, y gall dy ddeheulaw dy achub.

15Yn awr wele y behemoth, yr hwn a wneuthum gyda thi; glaswellt a fwyty efe fel ych.

16Wele yn awr, ei gryfder ef sydd yn ei lwynau, a’i nerth ym mogel ei fol.

17Efe a gyfyd ei gynffon fel cedrwydden: gewynnau ei arennau ef sydd blethedig.

18Pibellau pres ydyw ei esgyrn ef: ei esgyrn sydd fel ffyn heyrn.

19Pennaf o ffyrdd DUW ydyw efe: yr hwn a’i gwnaeth a all beri i’w gleddyf nesáu ato ef.

20Y mynyddoedd yn ddiau a ddygant laswellt iddo: ac yno y chwery holl anifeiliaid y maes.

21Efe a orwedd dan goedydd cysgodfawr, mewn lloches o gyrs a siglennydd.

22Coed cysgodfawr a’i gorchuddiant â’u cysgod: helyg yr afon a’i hamgylchant.

23Wele, efe a yf yr afon, ac ni phrysura: efe a obeithiai y tynnai efe’r Iorddonen i’w safn.

24A ddeil neb ef o flaen ei lygaid? a dylla neb ei drwyn ef â bachau?

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help