Barnwyr 19 - William Morgan Bible with Apocrypha, 1959 Edition

1Ac yn y dyddiau hynny, pan nad oedd frenin yn Israel, yr oedd rhyw Lefiad yn aros yn ystlysau mynydd Effraim, ac efe a gymerodd iddo ordderchwraig o Bethlehem Jwda.

2A’i ordderchwraig a buteiniodd yn ei erbyn ef, ac a aeth ymaith oddi wrtho ef i dŷ ei thad, i Bethlehem Jwda; ac yno y bu hi bedwar mis o ddyddiau.

3A’i gŵr hi a gyfododd, ac a aeth ar ei hôl, i ddywedyd yn deg wrthi hi, ac i’w throi adref; a’i lanc oedd gydag ef, a chwpl o asynnod. A hi a’i dug ef i mewn i dŷ ei thad: a phan welodd tad y llances ef, bu lawen ganddo gyfarfod ag ef.

4A’i chwegrwn ef, tad y llances, a’i daliodd ef yno; ac efe a dariodd gydag ef dridiau. Felly bwytasant ac yfasant, a lletyasant yno.

5A’r pedwerydd dydd y cyfodasant yn fore; yntau a gyfododd i fyned ymaith. A thad y llances a ddywedodd wrth ei ddaw, Nertha dy galon â thamaid o fara, ac wedi hynny ewch ymaith.

6A hwy a eisteddasant, ac a fwytasant ill dau ynghyd, ac a yfasant. A thad y llances a ddywedodd wrth y gŵr, Bydd fodlon, atolwg, ac aros dros nos, a llawenyched dy galon.

7A phan gyfododd y gŵr i fyned ymaith, ei chwegrwn a fu daer arno: am hynny efe a drodd ac a letyodd yno.

8Ac efe a gyfododd yn fore y pumed dydd i fyned ymaith. A thad y llances a ddywedodd, Cysura dy galon, atolwg. A hwy a drigasant hyd brynhawn, ac a fwytasant ill dau.

9A phan gyfododd y gŵr i fyned ymaith, efe a’i ordderch, a’i lanc; ei chwegrwn, tad y llances, a ddywedodd wrtho, Wele, yn awr, y dydd a laesodd i hwyrhau; arhoswch dros nos, atolwg: wele yr haul yn machludo; trig yma, fel y llawenycho dy galon: a chodwch yn fore yfory i’ch taith, fel yr elych i’th babell.

10A’r gŵr ni fynnai aros dros nos; eithr cyfododd, ac a aeth ymaith: a daeth hyd ar gyfer Jebus, hon yw Jerwsalem, a chydag ef gwpl o asynnod llwythog, a’i ordderchwraig gydag ef.

11A phan oeddynt hwy wrth Jebus, yr oedd y dydd ar ddarfod: a’r llanc a ddywedodd wrth ei feistr, Tyred, atolwg, trown i ddinas hon y Jebusiaid, a lletywn ynddi.

12A’i feistr a ddywedodd wrtho, Ni thrown ni i ddinas estron nid yw o feibion Israel; eithr nyni a awn hyd Gibea.

13Ac efe a ddywedodd wrth ei lanc, Tyred, a nesawn i un o’r lleoedd hyn, i letya dros nos, yn Gibea, neu Rama.

14Felly y cerddasant, ac yr aethant: a’r haul a fachludodd arnynt wrth Gibea eiddo Benjamin.

15A hwy a droesant yno, i fyned i mewn i letya i Gibea. Ac efe a ddaeth i mewn, ac a eisteddodd yn heol y ddinas: canys nid oedd neb a’u cymerai hwynt i’w dŷ i letya.

16Ac wele ŵr hen yn dyfod o’i waith o’r maes yn yr hwyr; a’r gŵr oedd o fynydd Effraim, ond ei fod ef yn ymdaith yn Gibea; a gwŷr y lle hwnnw oedd feibion Jemini.

17Ac efe a ddyrchafodd ei lygaid, ac a ganfu ŵr yn ymdaith yn heol y ddinas: a’r hen ŵr a ddywedodd, I ba le yr ei di? ac o ba le y daethost?

18Yntau a ddywedodd wrtho, Tramwyo yr ydym ni o Bethlehem Jwda, i ystlys mynydd Effraim, o’r lle yr hanwyf: a mi a euthum hyd Bethlehem Jwda, a myned yr ydwyf i dŷ yr ARGLWYDD; ac nid oes neb a’m derbyn i dŷ.

19Y mae gennym ni wellt ac ebran hefyd i’n hasynnod; a bara hefyd a gwin i mi ac i’th lawforwyn, ac i’r llanc sydd gyda’th weision: nid oes eisiau dim.

20A’r hen ŵr a ddywedodd, Tangnefedd i ti: bydded dy holl eisiau arnaf fi; yn unig na letya yn yr heol.

21Felly efe a’i dug ef i mewn i’w dŷ, ac a borthodd yr asynnod: a hwy a olchasant eu traed, ac a fwytasant ac a yfasant.

22A phan oeddynt hwy yn llawenhau eu calon, wele, gwŷr y ddinas, rhai o feibion Belial, a amgylchynasant y tŷ, a gurasant y drws, ac a ddywedasant wrth berchen y tŷ, sef yr hen ŵr, gan ddywedyd, Dwg allan y gŵr a ddaeth i mewn i’th dŷ, fel yr adnabyddom ef.

23A’r gŵr, perchen y tŷ, a aeth allan atynt, ac a ddywedodd wrthynt, Nage, fy mrodyr, nage, atolwg, na wnewch mor ddrygionus: gan i’r gŵr hwn ddyfod i’m tŷ i, na wnewch yr ysgelerder hyn.

24Wele fy merch, yr hon sydd forwyn, a’i ordderch yntau; dygaf hwynt allan yn awr, a darostyngwch hwynt, a gwnewch iddynt yr hyn fyddo da yn eich golwg: ond i’r gŵr hwn na wnewch mor ysgeler.

25Ond ni wrandawai y gwŷr arno: am hynny y gŵr a ymaflodd yn ei ordderch, ac a’i dug hi allan atynt hwy. A hwy a’i hadnabuant hi, ac a wnaethant gam â hi yr holl nos hyd y bore: a phan gyfododd y wawr, hwy a’i gollyngasant hi ymaith.

26Yna y wraig a ddaeth, pan ymddangosodd y bore, ac a syrthiodd wrth ddrws tŷ y gŵr yr oedd ei harglwydd ynddo, hyd oleuni y dydd.

27A’i harglwydd a gyfododd y bore, ac a agorodd ddrysau y tŷ, ac a aeth allan i fyned i’w daith: ac wele ei ordderchwraig ef wedi cwympo wrth ddrws y tŷ, a’i dwy law ar y trothwy.

28Ac efe a ddywedodd wrthi, Cyfod, fel yr elom ymaith. Ond nid oedd yn ateb. Yna efe a’i cymerth hi ar yr asyn; a’r gŵr a gyfododd, ac a aeth ymaith i’w fangre.

29A phan ddaeth i’w dŷ, efe a gymerth gyllell, ac a ymaflodd yn ei ordderch, ac a’i darniodd hi, ynghyd â’i hesgyrn, yn ddeuddeg darn, ac a’i hanfonodd hi i holl derfynau Israel.

30A phawb a’r a welodd hynny, a ddywedodd, Ni wnaethpwyd ac ni welwyd y fath beth, er y dydd y daeth meibion Israel o wlad yr Aifft, hyd y dydd hwn: ystyriwch ar hynny, ymgynghorwch, a thraethwch eich meddwl.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help