1Y mae y neb sydd yn cadw’r gyfraith yn dwyn digon o offrymau; y neb sydd yn glynu wrth y gorchmynion, sydd yn aberthu iachawdwriaeth.
2Ac y mae yr hwn a dalo ddiolch yn offrymu peilliaid; a’r hwn a roddo elusen yn aberthu moliant.
3Ewyllys yr Arglwydd yw troi oddi wrth ddrygioni; a bodloni yw ymado ag anghyfiawnder.
4Nac ymddangos gerbron yr Arglwydd yn waglaw:
5Oblegid hyn oll a wneir o achos y gorchymyn.
6Y mae offrwm y duwiol yn gwneuthur yr allor yn fras, a’i arogl peraidd ef sy gerbron y Goruchaf.
7Aberth y gŵr cyfiawn sy gymeradwy; ac ni ollyngir dros gof ei goffadwriaeth ef.
8Gogonedda Dduw â llygad da, ac na phrinha flaenffrwyth dy ddwylo.
9Dangos dy wyneb yn llawen ym mhob rhodd; a chysegra dy ddegfed yn siriol.
10Dod i’r Goruchaf megis y rhoddes yntau i tithau, ac fel y mae dy allu, â llygad da:
11Oblegid yr Arglwydd a dâl; ac efe a dâl i ti y saith gymaint.
12Na phrinha dy offrwm; canys ni dderbyn efe mohono: ac na ymddiried wrth aberth anghyfiawn; oblegid yr Arglwydd sy Farnwr, ac nid yw efe yn derbyn wyneb neb.
13Ni dderbyn efe wyneb yn erbyn y tlawd, eithr efe a wrendy weddi’r gorthrymedig.
14Ni ddiystyra efe ddeisyfiad yr amddifad, na’r weddw, pan dywallto hi ei gweddi.
15Onid yw dagrau’r weddw yn disgyn ar ei gruddiau hi, a’i llefain yn erbyn y neb sydd yn eu peri?
16Yr hwn a addolo Dduw a fydd cymeradwy; a’i weddi ef a gyrraedd hyd y cymylau.
17Gweddi y gostyngedig a â trwy’r cymylau; ac nis diddenir hi nes ei dyfod yn agos; nid ymedy hi nes i’r Goruchaf edrych i farnu yn gyfiawn, ac i wneuthur barn.
18Canys yr Arglwydd nid oeda, ac ni hirymerys y Cadarn wrthynt hwy, nes dryllio llwynau’r rhai anhrugarog, a thalu dialedd i’r Cenhedloedd; a dwyn ymaith luosowgrwydd y rhai trahaus, a dryllio teyrnwialen y rhai anghyfiawn;
19Nes iddo dalu i bob dyn yn ôl ei weithredoedd, ac i weithredoedd dynion yn ôl eu dychmygion; nes iddo farnu achos ei bobl, a’u llawenychu hwy â’i drugaredd.
20Hyfryd yw trugaredd yn amser adfyd, fel y cymylau glaw yn amser sychder.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.
