1Gogoniant yr uchelder, y ffurfafen eglur, tegwch y nefoedd, a’i olygiad gogoneddus;
2Y mae yr haul hefyd, wrth ym ddangos, yn mynegi offeryn rhyfedd, gwaith y Goruchaf.
3Ar hanner dydd efe a lysg y wlad; a phwy a ddichon aros ar gyfer ei wres poeth ef?
4Y mae un yn cadw ffwrn mewn gwaith brwd; tri mwy y llysg yr haul y mynyddoedd: gan chwythu allan angerdd tanllyd, ac yn disgleirio â’i belydr, y mae efe yn dallu’r llygaid:
5Mawr yw yr Arglwydd, yr hwn a’i gwnaeth ef; ac wrth ei orchymyn ef efe a beidiodd â’i daith.
6Y lleuad hefyd a wnaeth efe i wasanaethu yn ei hamser; i fod yn egluro yr amser, ac yn arwydd i’r byd.
7Wrth y lleuad y ceir gwybod yr ŵyl, sef goleuni yn lleihau tua’r diwedd.
8Ar ei henw hi y mae y mis; a hi a gynydda yn rhyfedd yn ei chyfnewid, yn offeryn i’r lluoedd yn yr uchelder, yn llewyrchu yn ffurfafen y nefoedd.
9Disgleirdeb y sêr sydd yn degwch i’r nefoedd, ac yn harddwch yn disgleirio yn uchel leoedd yr Arglwydd.
10Wrth orchymyn yr un Sanctaidd y maent hwy yn sefyll yn eu trefn, ac nid ydynt yn diffygio yn eu gwyliadwriaeth.
11Gwêl yr enfys, a chlodfora yr hwn a’i gwnaeth hi: teg odiaeth yw hi yn ei disgleirdeb.
12Y mae hi yn amgylchu’r nefoedd â chylch gogoneddus; dwylo’r Arglwydd a’i hanelodd hi.
13Y mae efe wrth ei orchymyn yn gwneuthur i’r eira ddisgyn ar frys, ac i daranau ei farn ef brysuro.
14Am hyn yr ymegyr y trysorau, ac yr eheda y cymylau fel adar.
15Yn ei fawredd y sicrhaodd efe’r cymylau, ac a dorrodd yn fân y cerrig cenllysg.
16A’r mynyddoedd a symudant wrth ei olwg ef: wrth ei ewyllys ef y chwyth y deheuwynt.
17Twrf ei daran ef a bair i’r ddaear grynu, a thymestl y gogleddwynt, a’r trowynt: y mae efe yn taenu eira fel adar yn ehedeg, ac efe a syrth fel y disgyn ceiliogod rhedyn.
18Rhyfedd gan lygad weled tegwch ei wynder ef; a phob calon a synna wrth ei gawod ef.
19Efe a dywallt rew ar y ddaear fel halen; ac wedi iddo rewi, y mae efe yn biglym.
20Pan chwytho’r gogleddwynt oer, a rhewi o’r dwfr yn iâ, ar bob llyn dwfr y saif, ac efe a wisg y dyfroedd megis â llurig.
21Y mae efe yn difa’r mynyddoedd, ac yn llosgi’r diffeithwch, ac yn diffoddi pob gwyrddlesni fel tân.
22Meddyginiaeth rhag y cwbl yw niwl a ddelo ar frys; a gwlith a ddelo yn ôl gwres a lawenycha.
23Wrth ei gyngor y llonyddodd efe y dyfnder, ac y plannodd ynysoedd ynddo.
24Y rhai a hwyliant ar y môr a fynegant mor enbyd yw efe; a phan glywom ninnau â’n clustiau, nyni a ryfeddwn.
25Yno y mae dieithr weithredoedd a rhyfedd, pob amryw anifail, a’r morfeirch.
26Trwyddo ef y mae ei angel ef yn cael rhwydd-deb; a thrwy ei air ef y cyfansoddwyd pob peth.
27Nyni a ddywedwn lawer, er hynny yr ydym ni yn fyr: i ddywedyd ar air, efe yw’r cwbl.
28Pa fodd y gallwn ni ei ogoneddu ef? canys y mae efe uwchlaw ei holl waith.
29Ofnadwy yw’r Arglwydd, a mawr odiaeth; a rhyfedd yw ei allu ef.
30Pan ogoneddoch chwi yr Arglwydd, dyrchefwch ef fwyaf ag y galloch; ac efe a ragora lawer ar hynny: a phan ddyrchafoch ef, rhoddwch lawer o egni; na flinwch: canys ni chyrhaeddwch chwi byth adref.
31Pwy a’i gwelodd ef, ac a fynega i ni? a phwy a’i mawryga ef megis y mae?
32Y mae llawer peth mwy na hyn yn guddiedig; canys ychydig a welsom ni o’i weithredoedd ef:
33Oblegid yr Arglwydd a wnaeth bob peth: ac i’r rhai duwiol y rhoddes efe ddoethineb.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.