1Yna Jwdas, yr hwn a elwid Macabeus, ei fab ef, a gododd i fyny yn ei le ef.
2A’i holl frodyr a’i cymorthasant ef, a phawb a’r a lynasai wrth ei dad ef: a hwy a ymladdasant ryfel Israel yn llawen.
3Felly efe a helaethodd barch ei bobl, ac a wisgodd ddwyfronneg fel cawr, ac a ymwregysodd â’i arfau rhyfel, ac a osododd ryfeloedd, ac a amddiffynnodd y gwersyll â’r cleddyf.
4Ac yr oedd efe yn debyg i lew yn ei weithredoedd, ac fel cenau llew yn rhuo am ei ysglyfaeth.
5Ac efe a erlidiodd y rhai drwg, gan chwilio amdanynt; ac a losgodd y rhai oedd yn cythryblu ei bobl ef.
6A’r rhai drwg a giliasant rhag ei ofn ef, a phawb a’r oedd yn gwneuthur drygioni a gyd-drallodwyd, am fod iachawdwriaeth yn llwyddo yn ei law ef.
7Ac efe a wnaeth i lawer o frenhinoedd ofidio, ac a lawenychodd Jacob â’i weithredoedd: ac y mae ei goffadwriaeth ef yn fendigedig yn dragywydd.
8Ac efe a dramwyodd trwy ddinasoedd Jwda, ac a ddistrywiodd y rhai annuwiol allan oddi yno, ac a drodd heibio ddigofaint oddi wrth Israel.
9A’i enw ef a gerddodd hyd eithafoedd y ddaear; ac efe a gasglodd y rhai oedd ar ddarfod amdanynt.
10Yna Apolonius a gasglodd y Cenhedloedd ynghyd, a llu mawr o Samaria, i ryfela yn erbyn Israel.
11Pan wybu Jwdas, efe a aeth i’w gyfarfod ef, ac a’i trawodd ef, ac a’i lladdodd ef: a llawer a syrthiasant yn archolledig, a’r lleill a ffoesant.
12Ac efe a gymerodd eu hysbail hwy; a Jwdas a gymerodd gleddyf Apolonius, ac a ymladdodd ag ef ei holl ddyddiau.
13Pan glywodd Seron tywysog llu Syria, gasglu o Jwdas dyrfa a chynulleidfa o ffyddloniaid i fyned i ryfela gydag ef,
14Efe a ddywedodd, Myfi a enillaf enw i mi fy hun, ac a gaf barch yn y deyrnas, ac a ryfelaf yn erbyn Jwdas a’r rhai sy gydag ef, a’r rhai sy’n diystyru gorchymyn y brenin.
15Ac efe a ymrôdd i ddyfod i fyny: a chydag ef y daeth llu cryf o rai annuwiol i fyny i’w gymorth ef, ac i wneuthur dial ar feibion Israel.
16Pan nesaodd efe yn gyfagos i riw Bethoron, Jwdas a aeth allan i’w gyfarfod ef â thorf fechan.
17A phan welsant hwy y llu yn dyfod i’w cyfarfod, hwy a ddywedasant wrth Jwdas, Pa fodd y gallwn ni, a ninnau yn ychydig, ymladd yn erbyn lliaws cymaint a chyn gryfed? yr ydym ni hefyd yn barod i ddiffygio, heb fwyd heddiw.
18A Jwdas a ddywedodd, Hawdd ydyw cau llawer yn nwylo ychydig: ac nid oes ragoriaeth gerbron Duw nef rhwng achub â llawer neu ag ychydig.
19Canys nid yn lluosowgrwydd y llu y mae buddugoliaeth y rhyfel, ond o’r nef y mae cadernid.
20Maent hwy yn dyfod atom ni mewn mawr draha a chamwedd, i’n difetha ni, a’n gwragedd, a’n plant, ac i’n hysbeilio.
21Ond nyni ydym yn ymladd am ein heinioes a’n cyfreithiau.
22A Duw a’u dryllia hwy ger ein bron ni: gan hynny nac ofnwch rhagddynt hwy.
23A phan beidiodd efe â dywedyd, efe a neidiodd yn ddisymwth arnynt hwy: ac felly y difethwyd Seron a’i wersyll o’i flaen ef.
24A hwy a’u herlidiasant ar hyd goriwaered Bethoron, hyd y gwastadedd; ac yno y lladded ynghylch wyth cant o wŷr ohonynt: a’r lleill a ffoesant i wlad y Philistiaid.
25Yna ofn Jwdas a’i frodyr, ac arswyd mawr, a ddechreuodd syrthio ar y Cenhedloedd o’u hamgylch hwy.
26A’i enw ef a gyrhaeddodd hyd at y brenin: a phob cenedl a fynegai ryfeloedd Jwdas.
27A phan glybu Antiochus y brenin y geiriau hyn, efe a ddigiodd yn llidiog, ac a ddanfonodd allan, ac a gasglodd holl fyddinoedd ei deyrnas, llu cryf iawn.
28Ac efe a agorodd ei drysordy, ac a roddes gyflogau i’w luoedd dros flwyddyn, ac a orchmynnodd iddynt fod yn barod dros flwyddyn, pa bryd bynnag y byddai raid iddo wrthynt hwy.
29Ond pan welodd efe yr arian o’i drysorau yn pallu, a’r rhai oedd yn casglu teyrnged y wlad yn anaml, oblegid yr anghytundeb a’r aflwydd a wnaethai efe yn y wlad wrth dynnu ymaith y cyfreithiau a fuasai er y dyddiau cyntaf;
30Yna efe a ofnodd rhag na byddai ganddo ddigon i ateb unwaith neu ddwywaith y draul, a’r rhoddion a roddasai efe o’r blaen â llaw helaeth: canys efe a fuasai helaethach na’r brenhinoedd o’r blaen mewn haelioni.
31Am hynny yr oedd efe mewn cyfyngder meddwl: ond efe a gymerodd gyngor i fyned i Persia, i gymryd teyrnged y gwledydd, ac i gasglu llawer o arian.
32Am hynny efe a adawodd Lysias, gŵr anrhydeddus, ac o genedl y brenin, ar faterion y brenin, o’r afon Ewffrates hyd derfynau’r Aifft,
33Ac i ddwyn Antiochus ei fab ef i fyny hyd oni ddychwelai efe.
34Ac efe a roddes iddo ef hanner y lluoedd, a’r eliffantiaid, ac a roes orchmynion iddo am bob peth a’r a ewyllysiai efe ei wneuthur, ac ynghylch y rhai oedd yn trigo yn Jwda ac yn Jerwsalem;
35I ddanfon llu yn eu herbyn hwy, i ddistrywio ac i ddiwreiddio nerth Israel a gweddill Jerwsalem, ac i dynnu ymaith eu coffadwriaeth hwy o’r lle hwnnw;
36Ac i osod dynion dieithr i drigo yn eu holl derfynau hwy, ac i gyfrannu eu gwlad hwy wrth goelbrennau.
37A’r brenin a gymerodd hanner y lluoedd, y rhai a weddillasid, ac a gychwynnodd o Antiochia, dinas ei deyrnas ef, y seithfed flwyddyn a deugain a chant; ac efe a aeth dros yr afon Ewffrates, ac a dramwyodd trwy’r gwledydd uchaf.
38A Lysias a ddewisodd Ptolemeus fab Dorymenes, a Nicanor, a Gorgias, gwŷr galluog, a chyfeillion y brenin:
39Ac efe a ddanfonodd ddeugain mil o wŷr traed gyda hwy, a seithmil o wŷr meirch, i fyned i wlad Jwda, i’w distrywio hi yn ôl gorchymyn y brenin.
40A hwy a gychwynasant â’u holl lu, ac a ddaethant, ac a wersyllasant yn gyfagos i Emaus, ar y tir gwastad.
41Pan glybu marchnadwyr y wlad sôn amdanynt, hwy a gymerasant arian, a llawer iawn o aur, a gweinidogion, ac a ddaethant i’r gwersyll, i brynu meibion Israel yn gaethion: a llu o Syria, ac o wlad y dieithriaid, a ddaeth atynt hwy.
42Pan welodd Jwdas a’i frodyr fod drygau yn amlhau, a gwersyllu o’r lluoedd o fewn eu terfynau hwy; a hwy a wyddent eiriau’r brenin, y rhai a orchmynasai efe i wneuthur dinistr a phen am y bobl;
43Yna’r naill a ddywedodd wrth y llall, Gosodwn ein pobl drachefn allan o orthrymder, ac ymladdwn dros ein pobl a’r cysegr.
44A’r gynulleidfa a ymgasglodd i fod yn barod i ryfela, ac i weddïo, ac i ofyn trugaredd a thosturi:
45Canys anghyfannedd oedd Jerwsalem fel anialwch: nid oedd neb o’i phlant hi yn myned i mewn, nac yn dyfod allan: a’r cysegr oedd wedi ei sathru, a meibion alltudion yn cadw’r castell; llety oedd hi i’r Cenhedloedd: a’r hyfrydwch a dynasid ymaith oddi wrth Jacob, a’r bibell a’r delyn a beidiasent.
46A’r Israeliaid a ymgasglasant ynghyd, ac a ddaethant i Masffa, gyferbyn â Jerwsalem: canys y lle o’r blaen i Israel i weddïo oedd ym Masffa.
47A hwy a ymprydiasant y diwrnod hwnnw, ac a wisgasant liain sach, ac a fwriasant ludw ar eu pennau, ac a rwygasant eu dillad,
48Ac a ledasant lyfrau’r gyfraith, am y rhai yr oedd y Cenhedloedd yn chwilio, i argraffu lluniau eu delwau ynddynt;
49Ac a ddygasant ddillad yr offeiriaid, a’r blaenffrwythau, a’r degymau, ac a gyffroesant y Nasareaid, y rhai a gyflawnasent eu dyddiau;
50Ac a lefasant â llef uchel tua’r nef, gan ddywedyd, Pa beth a wnawn ni i’r rhai hyn? ac i ba le y dygwn ni hwy ymaith?
51Dy gysegr di a fathred ac a halogwyd, a’th offeiriaid sy mewn galar a gostyngiad.
52Ac wele’r Cenhedloedd a ymgasglasant yn ein herbyn ni i’n distrywio: ti a wyddost pa bethau y maent hwy yn eu bwriadu yn ein herbyn.
53Pa fodd y gallwn ni sefyll yn eu hwyneb hwy, oddieithr i ti ein cynorthwyo ni?
54Yna hwy a ganasant ag utgyrn, ac a waeddasant â llef uchel.
55Yna Jwdas a osododd gapteiniaid ar y bobl, capteiniaid ar fil, ar gant, ar ddeg a deugain, ac ar ddeg.
56Ac efe a ddywedodd wrth y rhai oedd yn adeiladu teiau, ac a ddyweddiasid â gwragedd, ac oeddynt yn plannu gwinllannoedd, a’r rhai ofnus, am ddychwelyd o bob un i’w dŷ, yn ôl y gyfraith.
57A’r llu a symudodd, ac a wersyllodd o’r tu deau i Emaus.
58A Jwdas a ddywedodd, Ymwregyswch, a byddwch wŷr gwrol, a byddwch barod i ymladd yfory â’r Cenhedloedd hyn a ymgasglasant yn ein herbyn, i’n distrywio ni a’n cysegr.
59Canys gwell i ni feirw yn y rhyfel na gweled drygfyd ein cenedl a’n cysegr.
60Ond fel y byddo ewyllys Duw yn y nef, felly gwneled.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.