Y Salmau 89 - William Morgan Bible with Apocrypha, 1959 Edition

SALM 89Maschil Ethan yr Esrahiad.

1Trugareddau yr ARGLWYDD a ddatganaf byth: â’m genau y mynegaf dy wirionedd o genhedlaeth hyd genhedlaeth.

2Canys dywedais, Adeiledir trugaredd yn dragywydd: yn y nefoedd y sicrhei dy wirionedd.

3Gwneuthum amod â’m hetholedig, tyngais i’m gwas Dafydd.

4Yn dragywydd y sicrhaf dy had di; ac o genhedlaeth i genhedlaeth yr adeiladaf dy orseddfainc di. Sela.

5A’r nefoedd, O ARGLWYDD, a foliannant dy ryfeddod; a’th wirionedd yng nghynulleidfa y saint.

6Canys pwy yn y nef a gystedlir â’r ARGLWYDD? pwy a gyffelybir i’r ARGLWYDD ymysg meibion y cedyrn?

7 DUW sydd ofnadwy iawn yng nghynulleidfa y saint, ac i’w arswydo yn ei holl amgylchoedd.

8O ARGLWYDD DDUW y lluoedd, pwy sydd fel tydi, yn gadarn IÔR? a’th wirionedd o’th amgylch?

9Ti wyt yn llywodraethu ymchwydd y môr: pan gyfodo ei donnau, ti a’u gostegi.

10Ti a ddrylliaist yr Aifft, fel un lladdedig: trwy nerth dy fraich y gwasgeraist dy elynion.

11Y nefoedd ydynt eiddot ti, a’r ddaear sydd eiddot ti: ti a seiliaist y byd a’i gyflawnder.

12Ti a greaist ogledd a deau: Tabor a Hermon a lawenychant yn dy enw.

13Y mae i ti fraich a chadernid: cadarn yw dy law, ac uchel yw dy ddeheulaw.

14Cyfiawnder a barn yw trigfa dy orseddfainc: trugaredd a gwirionedd a ragflaenant dy wyneb.

15Gwyn eu byd y bobl a adwaenant yr hyfrydlais: yn llewyrch dy wyneb, O ARGLWYDD, y rhodiant hwy.

16Yn dy enw di y gorfoleddant beunydd; ac yn dy gyfiawnder yr ymddyrchafant.

17Canys godidowgrwydd eu cadernid hwynt ydwyt ti; ac yn dy ewyllys da y dyrchefir ein corn ni.

18Canys yr ARGLWYDD yw ein tarian; a Sanct Israel yw ein Brenin.

19Yna yr ymddiddenaist mewn gweledigaeth â’th Sanct, ac a ddywedaist, Gosodais gymorth ar un cadarn: dyrchefais un etholedig o’r bobl.

20Cefais Dafydd fy ngwasanaethwr: eneiniais ef â’m holew sanctaidd:

21Yr hwn y sicrheir fy llaw gydag ef: a’m braich a’i nertha ef.

22Ni orthryma y gelyn ef; a’r mab anwir nis cystuddia ef.

23Ac mi a goethaf ei elynion o’i flaen; a’i gaseion a drawaf.

24Fy ngwirionedd hefyd a’m trugaredd fydd gydag ef; ac yn fy enw y dyrchefir ei gorn ef.

25A gosodaf ei law yn y môr, a’i ddeheulaw yn yr afonydd.

26Efe a lefa arnaf, Ti yw fy Nhad, fy NUW, a Chraig fy iachawdwriaeth.

27Minnau a’i gwnaf yntau yn gynfab, goruwch brenhinoedd y ddaear.

28Cadwaf iddo fy nhrugaredd yn dragywydd; a’m cyfamod fydd sicr iddo.

29Gosodaf hefyd ei had yn dragywydd; a’i orseddfainc fel dyddiau y nefoedd.

30Os ei feibion a adawant fy nghyfraith, ac ni rodiant yn fy marnedigaethau;

31Os fy neddfau a halogant, a’m gorchmynion ni chadwant:

32Yna mi a ymwelaf â’u camwedd â gwialen, ac â’u hanwiredd â ffrewyllau.

33Ond ni thorraf fy nhrugaredd oddi wrtho, ac ni phallaf o’m gwirionedd.

34Ni thorraf fy nghyfamod, ac ni newidiaf yr hyn a ddaeth allan o’m genau.

35Tyngais unwaith i’m sancteiddrwydd, na ddywedwn gelwydd i Dafydd.

36Bydd ei had ef yn dragywydd, a’i orseddfainc fel yr haul ger fy mron i.

37Sicrheir ef yn dragywydd fel y lleuad, ac fel tyst ffyddlon yn y nef. Sela.

38Ond ti a wrthodaist ac a ffieiddiaist, ti a ddigiaist wrth dy Eneiniog.

39Diddymaist gyfamod dy was; halogaist ei goron, gan ei thaflu i lawr.

40Drylliaist ei holl gaeau ef; gwnaethost ei amddiffynfeydd yn adwyau.

41Yr holl fforddolion a’i hysbeiliant ef: aeth yn warthrudd i’w gymdogion.

42Dyrchefaist ddeheulaw ei wrthwynebwyr; llawenheaist ei holl elynion.

43Troaist hefyd fin ei gleddyf, ac ni chadarnheaist ef mewn rhyfel.

44Peraist i’w harddwch ddarfod, a bwriaist ei orseddfainc i lawr.

45Byrheaist ddyddiau ei ieuenctid: toaist gywilydd drosto ef. Sela.

46Pa hyd, ARGLWYDD, yr ymguddi? ai yn dragywydd? a lysg dy ddigofaint di fel tân?

47Cofia pa amser sydd i mi: paham y creaist holl blant dynion yn ofer?

48Pa ŵr a fydd byw, ac ni wêl farwolaeth? a wared efe ei enaid o law y bedd? Sela.

49Pa le y mae dy hen drugareddau, O ARGLWYDD, y rhai a dyngaist i Dafydd yn dy wirionedd?

50Cofia, O ARGLWYDD, waradwydd dy weision, yr hwn a ddygais yn fy mynwes gan yr holl bobloedd fawrion;

51A’r hwn y gwaradwyddodd dy elynion, O ARGLWYDD; â’r hwn y gwaradwyddasant ôl troed dy Eneiniog.

52Bendigedig fyddo yr ARGLWYDD yn dragywydd. Amen, ac Amen.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help