Y Salmau 126 - William Morgan Bible with Apocrypha, 1959 Edition

SALM 126Caniad y graddau.

1Pan ddychwelodd yr ARGLWYDD gaethiwed Seion, yr oeddem fel rhai yn breuddwydio.

2Yna y llanwyd ein genau â chwerthin, a’n tafod â chanu: yna y dywedasant ymysg y cenhedloedd, Yr ARGLWYDD a wnaeth bethau mawrion i’r rhai hyn.

3Yr ARGLWYDD a wnaeth i ni bethau mawrion; am hynny yr ydym yn llawen.

4Dychwel, ARGLWYDD, ein caethiwed ni, fel yr afonydd yn y deau.

5Y rhai sydd yn hau mewn dagrau, a fedant mewn gorfoledd.

6Yr hwn sydd yn myned rhagddo, ac yn wylo, gan ddwyn had gwerthfawr, gan ddyfod a ddaw mewn gorfoledd, dan gludo ei ysgubau.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help