I Macabeiad 11 - William Morgan Bible with Apocrypha, 1959 Edition

PENNOD 11

1A brenin yr Aifft a gasglodd lu mawr, fel y tywod sydd ar lan y môr, a llongau lawer, ac a geisiodd gael teyrnas Alexander trwy dwyll, a’i gosod at yr eiddo ei hun.

2Ac efe a aeth allan i Syria mewn modd heddychol, a’r rhai oedd yn y dinasoedd a agorasant iddo, ac a aethant i’w gyfarfod ef; am fod gorchymyn y brenin Alexander ar gyfarfod ag ef, am ei fod ef yn chwegrwn iddo.

3Ac yn awr, fel yr aeth Ptolemeus i mewn i’r dinasoedd, efe a osododd lu i warchod ym mhob dinas.

4A phan ddaeth efe yn agos i Asotus, hwy a ddangosasant iddo deml Dagon, yr hon a losgasid, ac Asotus a’i phentrefydd wedi eu difetha, a’r cyrff a daflasid allan, a’r rhai llosgedig a losgasai Jonathan yn y rhyfel; oblegid hwy a wnaethant bentyrrau ohonynt ar ei ffordd ef.

5Felly y mynegasant i’r brenin yr hyn a wnaethai Jonathan, i’w oganu ef: a thewi a wnaeth y brenin.

6A Jonathan a ddaeth i gyfarfod â’r brenin i Jope yn ogoneddus, a hwy a gyfarchasant well i’w gilydd, ac a gysgasant yno.

7A Jonathan a aeth gyda’r brenin hyd at yr afon a elwir Eleutherus, ac a ddychwelodd i Jerwsalem.

8A’r brenin Ptolemeus a gafodd feddiant ar ddinasoedd y mordir, hyd Seleucia ar lan y môr, ac a ddychmygodd gynghorion drwg yn erbyn Alexander.

9Ac efe a anfonodd genhadau at y brenin Demetrius, gan ddywedyd, Tyred, gwnawn gyfamod rhyngom: ac mi a roddaf i ti fy merch sy gan Alexander, a thi a gei deyrnasu yn nheyrnas dy dad;

10Oblegid y mae’n edifar gennyf roddi ohonof fy merch iddo ef: canys efe a geisiodd fy lladd i.

11Felly efe a’i goganodd ef, am ei fod ef yn chwenychu ei frenhiniaeth ef.

12Ac efe a ddug ei ferch oddi arno ef, ac a’i rhoddes i Demetrius; ac efe a ymddieithrodd oddi wrth Alexander: felly yr ymddangosodd eu cas hwynt.

13Yna yr aeth Ptolemeus i Antiochia, ac a osododd ddwy goron ar ei ben; coron Asia, a choron yr Aifft.

14A’r brenhin Alexander oedd yn Cilicia yn yr amser hwnnw: oblegid y rhai oedd o’r lle hwnnw a wrthryfelasent.

15A phan glybu Alexander, efe a ddaeth yn ei erbyn ef i ryfel: a’r brenin Ptolemeus a arweiniodd ei lu allan, ac a gyfarfu ag ef â llaw gref, ac a’i gyrrodd i ffoi.

16Yna y ffodd Alexander i Arabia i gael swcr yno: a’r brenin Ptolemeus a ddyrchafwyd.

17A Sabdiel yr Arabiad a gymerodd ymaith ben Alexander, ac a’i hanfonodd i Ptolemeus.

18A’r brenin Ptolemeus a fu farw y trydydd dydd ar ôl hynny: a’r rhai oedd yn ei gestyll ef a ddifethwyd gan y rhai oedd o fewn y cestyll.

19A theyrnasodd Demetrius y seithfed flwyddyn a thrigain a chant.

20Yn y dyddiau hynny casglodd Jonathan y rhai oedd o Jwdea, i ennill y tŵr yn Jerwsalem: ac efe a wnaeth yn ei erbyn lawer o offer rhyfel.

21Yna yr aeth rhai gwŷr annuwiol, y rhai oedd yn casáu eu cenedl eu hun, at y brenin, ac a fynegasant iddo fod Jonathan yn gwarchae ar y tŵr.

22Pan glybu yntau, efe a ddigiodd; a chyn gynted ag y clybu, efe a gymerodd ei daith yn ebrwydd, ac a ddaeth i Ptolemais, ac a sgrifennodd at Jonathan na warchaeai efe mwy, ac ar ddyfod ohono yn fuan i’w gyfarfod ef, i ymddiddan ynghyd yn Ptolemais.

23Ond pan glybu Jonathan, efe a archodd warchae, ac a ddewisodd rai o henuriaid Israel, ac o’r offeiriaid, ac a ymroddes i’r perygl.

24Ac efe a gymerodd aur, ac arian, a gwisgoedd, a llawer o anrhegion eraill, ac a aeth at y brenin i Ptolemais, ac a gafodd ffafr yn ei olwg ef.

25A rhai annuwiol o’r genedl a achwynasant rhagddo ef.

26Eithr y brenin a wnaeth iddo ef fel y gwnaethai y rhai a fuasai o’i flaen ef, ac efe a’i dyrchafodd ef o flaen ei holl garedigion.

27Ac efe a sicrhaodd iddo ef yr archoffeiriadaeth, a pha anrhydedd bynnag oedd ganddo ef o’r blaen, ac a wnaeth ei gyfrif ef yn un o’i garedigion pennaf.

28Yna y dymunodd Jonathan ar y brenin wneuthur Jwdea yn ddi-dreth, a’r tair talaith ynghyd â Samaria: ac efe a addawodd iddo dri chant o dalentau.

29A’r brenin oedd fodlon, ac a sgrifennodd lythyrau at Jonathan am hyn oll, fel hyn:

30Y brenin Demetrius yn cyfarch gwell i’w frawd Jonathan, a chenedl yr Iddewon:

31Copi o’r llythyr a sgrifenasom ni at ein câr Lasthenes yn eich cylch chwi, a sgrifenasom atoch chwi hefyd, fel y gallech ei weled.

32Y brenin Demetrius at ei dad Lasthenes, yn anfon annerch:

33Y mae yn ein bryd ni wneuthur daioni i genedl yr Iddewon ein caredigion, y rhai sydd yn cadw cyfamodau â nyni, am eu hewyllys da i ni.

34Yr ydym ni wedi sicrhau iddynt gyffiniau Jwdea, â’r tair talaith, Afferema, Lyda, a Ramathem, y rhai a chwanegwyd o Samaria at Jwdea, a’r hyn oll sydd yn perthyn iddynt, i’r rhai oll sydd yn aberthu yn Jerwsalem, yn lle’r ardreth yr oedd y brenin yn ei gael o’r blaen o gnwd y ddaear a ffrwyth y coed bob blwyddyn ganddynt hwy.

35A phethau eraill yn perthyn i ni o ddegymau a theyrnged dyledus i ni, a’r pyllau halen, a threth y goron, y rhai sydd yn perthyn i ni, nyni a’u caniatawn iddynt hwy i gyd.

36A dim o hyn ni ddiddymir o hyn allan byth.

37Am hynny cymerwch ofal am wneuthur copi o’r pethau hyn, a rhodder ef at Jonathan, a gosoder ef yn y mynydd sanctaidd, mewn lle cyfleus hynod.

38Yna pan welodd Demetrius fod yr holl dir o’i flaen ef yn llonydd, ac nad oedd dim yn ei wrthwynebu ef, efe a ollyngodd ei holl lu bob un i’w fangre, ond y dieithr luoedd y rhai a gasglasai efe o ynysoedd y cenhedloedd: am hynny holl luoedd ei dadau a aethant yn elynion iddo ef.

39Yr oedd un Tryffon hefyd, yr hwn a fuasai ar du Alexander o’r blaen, pan welodd efe fod yr holl luoedd yn grwgnach yn erbyn Demetrius, efe a aeth at Simalcue yr Arabiad, yr hwn a fagasai Antiochus, mab ieuanc Alexander;

40Ac efe a fu daer arno ef, ar iddo roddi Antiochus ieuanc ato ef, fel y teyrnasai yn lle ei dad: ac efe a ddangosodd iddo pa bethau a wnaethai Demetrius, a’r cas oedd gan ei lu iddo ef. Ac efe a arhosodd yno ddyddiau lawer.

41A Jonathan a anfonodd lythyrau at y brenin Demetrius, am fwrw allan o Jerwsalem y rhai oedd yn y castell, a’r rhai oedd yn yr amddiffynfeydd: oblegid yr oeddynt hwy yn rhyfela yn erbyn Israel.

42A Demetrius a anfonodd at Jonathan, gan ddywedyd, Nid hyn yn unig a wnaf fi erot ti a’th genedl, eithr mi a’th anrhydeddaf di a’th genedl ag anrhydedd, os caf fi gyfle.

43Yn awr gan hynny ti a wnei yn dda, os anfoni di wŷr i ryfela gyda mi; oblegid fy holl luoedd a’m gadawsant.

44A Jonathan a anfonodd iddo ef i Antiochia, dair mil o wŷr cedyrn o nerth, a hwy a ddaethant at y brenin; a llawen iawn fu gan y brenin eu dyfodiad hwy.

45A’r rhai oedd o’r ddinas a ddaethant ynghyd i ganol y ddinas, ynghylch deuddeng myrddiwn o wŷr, ac a fynasent ladd y brenin.

46Yna y ffodd y brenin i’r llys: a’r rhai oedd o’r ddinas a gadwasant ffyrdd y ddinas, ac a ddechreuasant ymladd.

47A’r brenin a alwodd yr Iddewon i’w helpu; a hwy a ddaethant ato ef oll ar unwaith, ac a ymwasgarasant ar hyd y ddinas, ac a laddasant y dydd hwnnw yn y ddinas hyd yn neg myrddiwn.

48A hwy a losgasant y ddinas, ac a gymerasant ysbail fawr y dydd hwnnw, ac a achubasant y brenin.

49A’r rhai o’r ddinas a welsant i’r Iddewon ennill y ddinas fel y mynnent; a hwy a lwfrhasant, ac a waeddasant wrth y brenin mewn gweddi, gan ddywedyd,

50Cymod â ni, a pheidied yr Iddewon â rhyfela i’n herbyn ni a’r ddinas.

51Felly hwy a fwriasant ymaith eu harfau, ac a wnaethant heddwch: a’r Iddewon a gawsant anrhydedd o flaen y brenin a phawb yn ei deyrnas ef, ac a ddychwelasant i Jerwsalem a chanddynt ysbail fawr.

52Felly y brenin Demetrius a eisteddodd ar orseddfainc ei frenhiniaeth: a’r wlad a fu lonydd o’i flaen ef.

53Eithr efe a ddywedodd gelwydd am beth bynnag a ddywedasai efe, ac a ymddieithrodd oddi wrth Jonathan, ac ni thalodd adref yr ewyllys da a dalasai efe iddo, eithr efe a’i cystuddiodd ef yn ddirfawr.

54Wedi hyn y dychwelodd Tryffon a’r bachgen ieuanc Antiochus gydag ef; ac efe a deyrnasodd, ac a wisgodd y goron.

55A’r holl luoedd y rhai a wasgarasai Demetrius a ymgasglasant ato ef; a hwy a ryfelasant yn ei erbyn ef, ac yntau a ffodd ac a giliodd.

56Yna Tryffon a gymerodd yr anifeiliaid, ac a enillodd Antiochia.

57Ac Antiochus ieuanc a sgrifennodd at Jonathan, gan ddywedyd, Yr ydwyf fi yn sicrhau’r archoffeiriadaeth i ti, ac yn dy osod ar y pedair talaith, ac i fod yn un o garedigion y brenin.

58Ac efe a anfonodd lestri aur iddo ef i’w wasanaethu, ac a roddes iddo awdurdod i yfed mewn llestri aur, ac i fod mewn porffor, ac i wisgo bwcl aur.

59Ac efe a osododd Simon ei frawd ef yn gapten, o riw Tyrus hyd derfynau’r Aifft.

60A Jonathan a aeth allan dros yr afon, a thrwy’r dinasoedd; a holl luoedd Syria a ymgasglasant ato ef yn help iddo: ac efe a ddaeth i Ascalon; a’r rhai oedd o’r ddinas a aethant i’w gyfarfod ef yn anrhydeddus.

61Ac efe a ddaeth oddi yno i Gasa; a’r rhai o Gasa a gaeasant arnynt: yntau a warchaeodd arni, ac a losgodd ei phentrefydd hi, ac a’u hanrheithiodd hwynt.

62A’r rhai o Gasa a ymbiliasant â Jonathan, ac efe a wnaeth heddwch â hwynt, ac a gymerodd feibion eu tywysogion hwynt yn wystlon, ac a’u hanfonodd i Jerwsalem, ac a rodiodd y wlad hyd Damascus.

63A phan glybu Jonathan ddyfod tywysogion Demetrius i Cades, yr hon sydd yn Galilea, â llu mawr, ar fedr ei yrru ef ymaith o’r wlad.

64Yntau a aeth i’w cyfarfod hwynt, ac a adawodd ei frawd Simon yn y wlad.

65A Simon a wersyllodd wrth Bethsura, ac a ryfelodd yn ei herbyn ddyddiau lawer, ac a gaeodd arni hi.

66A hwy a ddymunasant gael heddwch, ac efe a’i canhiadodd iddynt, ac a’u bwriodd hwynt allan oddi yno, ac a gymerodd y ddinas, ac a osododd warcheidwaid ynddi.

67Jonathan hefyd a’i lu a wersyllasant wrth ddyfroedd Gennesar; a hwy a godasant yn fore i ddyfod i faes Nasor.

68Ac wele, gwersyll y dieithriaid a ddaethant i’w gyfarfod ef yn y maes; a hwy a yrasant gynllwyn yn ei erbyn ef yn y mynyddoedd, ac a ddaethant eu hunain ar ei gyfer ef.

69Yna y cynllwynwyr a gyfodasant o’u lle, ac a gydiasant ryfel; a’r rhai oedd gyda Jonathan a ffoesant.

70Ni adawyd un ohonynt ond Matatheias fab Absalom, a Jwdas fab Calffi, tywysogion milwriaeth y lluoedd.

71A Jonathan a rwygodd ei ddillad, ac a daflodd lwch ar ei ben, ac a weddïodd.

72Ond efe a drodd yn eu herbyn hwynt yn y rhyfel, ac a’u gyrrodd hwy i ffo; a hwy a redasant ymaith.

73A’r rhai a ffoesant oddi wrtho ef a welsant, ac a droesant ato ef, ac a’u herlidiasant hwynt gydag ef hyd Cades, hyd at eu gwersyll hwynt; a hwy a wersyllasant yno.

74Ac ef laddwyd o’r dieithriaid y dydd hwnnw hyd yn nheirmil o wŷr: a Jonathan a ddychwelodd i Jerwsalem.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help