Deuteronomium 8 - William Morgan Bible with Apocrypha, 1959 Edition

1Edrychwch am wneuthur pob gorchymyn yr wyf fi yn ei orchymyn i ti heddiw; fel y byddoch fyw, ac y cynyddoch, ac yr eloch i mewn, ac y meddiannoch y wlad a addawodd yr ARGLWYDD wrth eich tadau trwy lw.

2A chofia yr holl ffordd yr arweiniodd yr ARGLWYDD dy DDUW di ynddi y deugain mlynedd hyn, trwy’r anialwch, er mwyn dy gystuddio di, gan dy brofi, i wybod yr hyn oedd yn dy galon, a gedwit ti ei orchmynion ef, ai nas cedwit.

3Ac efe a’th ddarostyngodd, ac a oddefodd i ti newynu, ac a’th fwydodd â manna, yr hwn nid adwaenit, ac nid adwaenai dy dadau; fel y gwnâi efe i ti wybod nad trwy fara yn unig y bydd byw dyn, ond trwy bob gair a’r sydd yn dyfod allan o enau yr ARGLWYDD y bydd byw dyn.

4Dy ddillad ni heneiddiodd amdanat, a’th droed ni chwyddodd, y deugain mlynedd hyn.

5Cydnebydd dithau yn dy galon, fod yr ARGLWYDD dy DDUW yn dy ddysgu di, fel y dysg gŵr ei fab ei hun.

6A chadw orchmynion yr ARGLWYDD dy DDUW, i rodio yn ei ffyrdd, ac i’w ofni ef.

7Oblegid y mae yr ARGLWYDD dy DDUW yn dy ddwyn i mewn i wlad dda, i wlad afonydd dyfroedd, ffynhonnau, a dyfnderau yn tarddu allan yn y dyffryn, ac yn y mynydd;

8Gwlad gwenith, a haidd, a gwinwydd, a ffigyswydd, a phomgranadwydd; gwlad olew olewydden, a mêl;

9Gwlad yr hon y bwytei fara ynddi heb brinder, ac ni bydd eisiau dim arnat ynddi; gwlad yr hon y mae ei cherrig yn haearn, ac o’i mynyddoedd y cloddi bres.

10Pan fwyteych, a’th ddigoni; yna y bendithi yr ARGLWYDD dy DDUW am y wlad dda a roddes efe i ti.

11Cadw arnat rhag anghofio yr ARGLWYDD dy DDUW, heb gadw ei orchmynion a’i farnedigaethau, a’i ddeddfau ef, y rhai yr ydwyf fi yn eu gorchymyn i ti heddiw:

12Rhag wedi i ti fwyta, a’th ddigoni, ac adeiladu tai teg, a thrigo ynddynt;

13A lluosogi o’th wartheg a’th ddefaid di, ac amlhau o arian ac aur gennyt, ac amlhau o’r hyn oll y sydd gennyt:

14Yna ymddyrchafu o’th galon, ac anghofio ohonot yr ARGLWYDD dy DDUW, (yr hwn a’th ddug allan o wlad yr Aifft, o dŷ y caethiwed;

15Yr hwn a’th dywysodd di trwy yr anialwch mawr ac ofnadwy, lle yr ydoedd seirff tanllyd, ac ysgorpionau, a syched lle nid oedd dwfr; yr hwn a ddygodd i ti ddwfr allan o’r graig gallestr;

16Yr hwn a’th fwydodd di yn yr anialwch â manna, yr hwn nid adwaenai dy dadau, er dy ddarostwng, ac er dy brofi di, i wneuthur daioni i ti yn dy ddiwedd,)

17A dywedyd ohonot yn dy galon, Fy nerth fy hun, a chryfder fy llaw a barodd i mi y cyfoeth hwn.

18Ond cofia yr ARGLWYDD dy DDUW: oblegid efe yw yr hwn sydd yn rhoddi nerth i ti i beri cyfoeth, fel y cadarnhao efe ei gyfamod, yr hwn a dyngodd efe wrth dy dadau, fel y mae y dydd hwn.

19Ac os gan anghofio yr anghofi yr ARGLWYDD dy DDUW, a dilyn duwiau dieithr, a’u gwasanaethu hwynt, ac ymgrymu iddynt; yr ydwyf fi yn tystiolaethu yn eich erbyn chwi heddiw, gan ddifetha y’ch difethir.

20Fel y cenhedloedd y rhai y mae yr ARGLWYDD ar eu difetha o’ch blaen chwi, felly y difethir chwithau; am na wrandawsoch ar lais yr ARGLWYDD eich DUW.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help