2 Brenhinoedd 3 - William Morgan Bible with Apocrypha, 1959 Edition

1A Jehoram mab Ahab a aeth yn frenin ar Israel yn Samaria, yn y ddeunawfed flwyddyn i Jehosaffat brenin Jwda, ac a deyrnasodd ddeuddeng mlynedd.

2Ac efe a wnaeth ddrwg yng ngolwg yr ARGLWYDD, ond nid fel ei dad nac fel ei fam: canys efe a fwriodd ymaith ddelw Baal, yr hon a wnaethai ei dad.

3Eto efe a lynodd wrth bechodau Jeroboam mab Nebat, yr hwn a wnaeth i Israel bechu: ni chiliodd efe oddi wrthynt hwy.

4A Mesa brenin Moab oedd berchen defaid, ac a dalai i frenin Israel gan mil o ŵyn, a chan mil o hyrddod gwlanog.

5Ond wedi marw Ahab, brenin Moab a wrthryfelodd yn erbyn brenin Israel.

6A’r brenin Jehoram a aeth allan y pryd hwnnw o Samaria, ac a gyfrifodd holl Israel.

7Efe a aeth hefyd ac a anfonodd at Jehosaffat brenin Jwda, gan ddywedyd, Brenin Moab a wrthryfelodd i’m herbyn i: a ddeui di gyda mi i ryfel yn erbyn Moab? Dywedodd yntau, Mi a af i fyny; myfi a fyddaf fel tithau, fy mhobl i fel dy bobl dithau, fy meirch i fel dy feirch dithau.

8Ac efe a ddywedodd, Pa ffordd yr awn ni i fyny? Dywedodd yntau, Ffordd anialwch Edom.

9Felly yr aeth brenin Israel, a brenin Jwda, a brenin Edom; ac a aethant o amgylch ar eu taith saith niwrnod: ac nid oedd dwfr i’r fyddin, nac i’r anifeiliaid oedd yn eu canlyn hwynt.

10A brenin Israel a ddywedodd, Gwae fi! oherwydd i’r ARGLWYDD alw y tri brenin hyn ynghyd i’w rhoddi yn llaw Moab.

11A Jehosaffat a ddywedodd, Onid oes yma broffwyd i’r ARGLWYDD, fel yr ymofynnom ni â’r ARGLWYDD trwyddo ef? Ac un o weision brenin Israel a atebodd ac a ddywedodd, Y mae yma Eliseus mab Saffat, yr hwn a dywalltodd ddwfr ar ddwylo Eleias.

12A Jehosaffat a ddywedodd, Y mae gair yr ARGLWYDD gydag ef. Felly brenin Israel, a Jehosaffat, a brenin Edom, a aethant i waered ato ef.

13Ac Eliseus a ddywedodd wrth frenin Israel, Beth sydd i mi a wnelwyf â thi? dos at broffwydi dy dad, ac at broffwydi dy fam. A brenin Israel a ddywedodd wrtho, Nage: canys yr ARGLWYDD a alwodd y tri brenin hyn ynghyd i’w rhoddi yn llaw Moab.

14Ac Eliseus a ddywedodd, Fel mai byw ARGLWYDD y lluoedd, yr hwn yr ydwyf yn sefyll ger ei fron, oni bai fy mod i yn perchi wyneb Jehosaffat brenin Jwda, nid edrychaswn i arnat ti, ac ni’th welswn.

15Ond yn awr dygwch i mi gerddor. A phan ganodd y cerddor, daeth llaw yr ARGLWYDD arno ef.

16Ac efe a ddywedodd, Fel hyn y dywedodd yr ARGLWYDD; Gwna y dyffryn hwn yn llawn ffosydd.

17Canys fel hyn y dywed yr ARGLWYDD; Ni welwch wynt, ac ni welwch law; eto y dyffryn hwn a lenwir o ddwfr, fel yr yfoch chwi, a’ch anifeiliaid, a’ch ysgrubliaid.

18A pheth ysgafn yw hyn yng ngolwg yr ARGLWYDD: efe a ddyry Moab yn eich llaw chwi hefyd.

19A chwi a drewch bob dinas gaerog, a phob dinas ddetholedig; a phob pren teg a fwriwch chwi i lawr; yr holl ffynhonnau dyfroedd hefyd a gaewch chwi, a phob darn o dir da a ddifwynwch chwi â cherrig.

20A’r bore pan offrymwyd y bwyd-offrwm, wele ddyfroedd yn dyfod o ffordd Edom; a’r wlad a lanwyd o ddyfroedd.

21A phan glybu yr holl Foabiaid fod y brenhinoedd hynny wedi dyfod i fyny i ymladd yn eu herbyn hwynt, y galwyd ynghyd bawb a’r a allai wisgo arfau, ac uchod, a hwy a safasant ar y terfyn.

22A hwy a gyfodasant yn fore, a’r haul a gyfodasai ar y dyfroedd; a’r Moabiaid a ganfuant ar eu cyfer y dyfroedd yn goch fel gwaed:

23A hwy a ddywedasant, Gwaed yw hwn: gan ddifetha y difethwyd y brenhinoedd, a hwy a drawsant bawb ei gilydd: am hynny yn awr at yr anrhaith, Moab.

24A phan ddaethant at wersyll Israel, yr Israeliaid a gyfodasant ac a drawsant y Moabiaid, fel y ffoesant o’u blaen hwynt: a hwy a aethant rhagddynt, gan daro’r Moabiaid yn eu gwlad eu hun.

25A hwy a ddistrywiasant y dinasoedd, ac i bob darn o dir da y bwriasant bawb ei garreg, ac a’i llanwasant; a phob ffynnon ddwfr a gaeasant hwy, a phob pren da a gwympasant hwy i lawr: yn unig yn Cir-haraseth y gadawsant ei cherrig; eto y rhai oedd yn taflu a’i hamgylchynasant, ac a’i trawsant hi.

26A phan welodd brenin Moab fod y rhyfelwyr yn drech nag ef, efe a gymerth saith gant o wŷr gydag ef yn tynnu cleddyf, i ruthro ar frenin Edom: ond nis gallasant hwy.

27Yna efe a gymerodd ei fab cyntaf-anedig ef, yr hwn oedd i deyrnasu yn ei le ef, ac a’i hoffrymodd ef yn boethoffrwm ar y mur. A bu llid mawr yn erbyn Israel: a hwy a aethant ymaith oddi wrtho ef, ac a ddychwelasant i’w gwlad eu hun.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help