1A Thobit a sgrifennodd weddi o orfoledd, ac a ddywedodd, Bendigaid fyddo Duw, yr hwn sydd yn byw yn dragwyddol, a bendigedig fyddo ei deyrnas ef:
2Canys efe sydd yn ffrewyllu, ac yn trugarhau; yn dwyn i uffern, ac yn dwyn i fyny eilchwyl: ac nid oes neb a all ddianc o’i law ef.
3Clodforwch ef, meibion Israel, gerbron y cenhedloedd: canys efe a’n gwasgarodd ni yn eu plith hwynt.
4Yno mynegwch ei fawredd, a dyrchefwch ef yng ngŵydd pawb sydd fyw: oherwydd efe yw ein Harglwydd ni, a Duw yw ein Tad ni byth bythoedd.
5Ac efe a’n cerydda ni am ein camweddau, ac a drugarha eilchwyl, ac a’n casgl ynghyd o fysg yr holl genhedloedd, ymhlith y rhai y’n gwasgarodd ni.
6Os dychwelwch ato ef â’ch holl galon, ac â’ch holl feddwl, a gwneuthur yn uniawn ger ei fron ef, yna y dychwel yntau atoch chwi, ac ni chudd ei wyneb rhagoch, a chwi a gewch weled beth a wna efe i chwi: am hynny cyffeswch ef â’ch holl enau, a moliennwch Arglwydd y gallu, dyrchefwch Frenin y tragwyddoldeb. Myfi a’i cyffesaf ef yn nhir fy nghaethiwed, ac a fynegaf ei nerth a’i fawredd ef i genedl bechadurus. Trowch, bechaduriaid, a gwnewch gyfiawnder ger ei fron ef: pwy a ŵyr a fyn efe chwi, ac a wna efe drugaredd â chwi?
7Clodforaf fy Nuw, a’m henaid a fawl Frenin y nefoedd, ac a lawenha yn ei fawredd ef.
8Llefared pob dyn, a moled yr Arglwydd am ei gyfiawnder.
9O Jerwsalem y ddinas sanctaidd, efe a’th ffrewylla di am weithredoedd dy blant, ac efe a dosturia eilchwyl wrth feibion y rhai cyfiawn.
10Molianna’r Arglwydd; oblegid da yw: a bendithia’r Brenin tragwyddol; fel yr adeilader drachefn ei babell ef ynot mewn llawenydd: a llawenhaed efe dy gaethion, a chared ynot y trueiniaid yn oes oesoedd:
11Cenhedloedd lawer a ddeuant o bell at enw yr Arglwydd Dduw, â rhoddion yn eu dwylo, a rhoddion i Frenin y nefoedd. Yr holl genedlaethau a’th foliannant di, ac a roddant roddion gorfoledd.
12Melltigedig yw pawb a’th gasânt, a bendigedig yw pawb a’th garant, yn dragywydd.
13Bydd hyfryd a llawen am blant y rhai cyfiawn: canys hwy a gesglir ynghyd, ac a fendithiant Arglwydd y rhai cyfiawn.
14Gwyn eu byd y rhai a’th garant di; canys hwy a lawenychant yn dy dangnefedd: gwyn eu byd y rhai a fuant athrist am dy holl ffrewyllau di; canys hwy a fyddant hyfryd o’th blegid, pan welont gwbl o’th ogoniant, ac a lawenychant yn dragywydd.
15Moled fy enaid Dduw, y Brenin mawr.
16Oherwydd Jerwsalem a adeiledir â saffir, ac â smaragdus, ac â meini gwerthfawr, dy furiau a’th ragfuriau ag aur coeth;
17A heolydd Jerwsalem a balmentir â meini beryl a charbuncl, ac â meini Offir.
18A’i heolydd hi oll a lefant Haleliwia, ac a’i molant ef, gan ddywedyd, Bendigaid fyddo Duw, yr hwn a’i dyrchafodd hi yn dragywydd.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.