Y Salmau 115 - William Morgan Bible with Apocrypha, 1959 Edition

SALM 115

1Nid i ni, O ARGLWYDD, nid i ni, ond i’th enw dy hun dod ogoniant, er mwyn dy drugaredd, ac er mwyn dy wirionedd.

2Paham y dywedai y cenhedloedd, Pa le yn awr y mae eu DUW hwynt?

3Ond ein DUW ni sydd yn y nefoedd: efe a wnaeth yr hyn a fynnodd oll.

4Eu delwau hwy ydynt o aur ac arian, gwaith dwylo dynion.

5Genau sydd iddynt, ond ni lefarant; llygaid sydd ganddynt, ond ni welant:

6Y mae clustiau iddynt, ond ni chlywant; ffroenau sydd ganddynt, ond ni aroglant:

7Dwylo sydd iddynt, ond ni theimlant; traed sydd iddynt, ond ni cherddant; ni leisiant chwaith â’u gwddf.

8Y rhai a’u gwnânt ydynt fel hwythau, a phob un a ymddiriedo ynddynt.

9O Israel, ymddiried di yn yr ARGLWYDD: efe yw eu porth a’u tarian.

10Tŷ Aaron, ymddiriedwch yn yr ARGLWYDD: efe yw eu porth a’u tarian.

11Y rhai a ofnwch yr ARGLWYDD, ymddiriedwch yn yr ARGLWYDD: efe yw eu porth a’u tarian.

12Yr ARGLWYDD a’n cofiodd ni: efe a’n bendithia: bendithia efe dŷ Israel; bendithia efe dŷ Aaron.

13Bendithia efe y rhai a ofnant yr ARGLWYDD, fychain a mawrion.

14Yr ARGLWYDD a’ch chwanega chwi fwyfwy, chwychwi a’ch plant hefyd.

15Bendigedig ydych chwi gan yr ARGLWYDD, yr hwn a wnaeth nef a daear.

16Y nefoedd, ie, y nefoedd ydynt eiddo yr ARGLWYDD: a’r ddaear a roddes efe i feibion dynion.

17Y meirw ni foliannant yr ARGLWYDD, na’r neb sydd yn disgyn i ddistawrwydd.

18Ond nyni a fendithiwn yr ARGLWYDD o hyn allan ac yn dragywydd. Molwch yr ARGLWYDD.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help