1A phan ddywedodd y llew y geiriau hyn wrth yr eryr, y gwelais,
2Ac wele, y pen yr hwn oedd yn aros, a’r pedair asgell, nid ymddangosasant mwyach: a’r ddwy a aethant ato ef, ac a ymosodasant i fyny i deyrnasu; a’u teyrnas oedd fechan, a llawn cythrwfl.
3A mi a welais, ac wele, nid ymddangosasant mwy; a holl gorff yr eryr a losgwyd, fel yr ofnodd y ddaear yn fawr. Yna y deffroais allan o flinder a llewyg fy meddwl, ac o ofn mawr; a dywedais wrth fy ysbryd,
4Wele, hyn a roddaist i mi, am i ti chwilio am ffyrdd y Goruchaf.
5Wele, y mae eto yn flin fy nghalon, a gwan iawn yw fy ysbryd; ac ychydig nerth sydd ynof, oherwydd yr ofn mawr a fu arnaf heno.
6Am hynny yr atolygaf i’r Goruchaf fy nghysuro hyd y diwedd.
7A dywedais, Arglwydd lywydd, os cefais ffafr yn dy olwg di, ac os cyfiawnheir fi ger dy fron di o flaen llawer eraill, ac os daeth fy ngweddi yn sicr o’th flaen di,
8Dyro gysur ynof, a dangos i’th was ddehongliad eglur y weledigaeth ofnadwy hon, fel y gallech gysuro fy enaid yn berffaith:
9Canys bernaist fi yn deilwng i ddangos i mi’r amseroedd diwethaf.
10Ac efe a ddywedodd wrthyf, Hyn yw dehongliad y weledigaeth:
11Yr eryr a welaist yn dyfod i fyny o’r môr, yw y deyrnas a welodd dy frawd Daniel yn ei weledigaeth:
12Ond nis dehonglwyd iddo ef; am hynny y dehonglaf hi i ti.
13Wele fe a ddaw y dyddiau y cyfyd teyrnas ar y ddaear, ac ofnir y deyrnas honno yn fwy na’r holl deyrnasoedd a fu o’i blaen.
14Ac yn y deyrnas honno y llywodraetha deuddeng mrenin olynol;
15O ba rai yr ail a ddechrau deyrnasu, ac a gaiff amser hwy nag yr un o’r deuddeg.
16A hyn y mae’r deuddeng asgell a welaist ti yn ei arwyddocáu.
17Ac am y llef a glywaist yn dywedyd, yr hon nid aeth o’r pennau, ond o ganol y corff, hyn yw y dehongliad:
18Yn ôl amser y deyrnas honno y cyfyd ymrysonion mawr, a hi a fydd debyg i syrthio: er hynny ni syrth y pryd hynny, ond hi a adferir drachefn i’w dechreuad.
19A lle y gwelaist wyth o adenydd bychain yn glynu wrth ei esgyll ef, hyn yw’r dehongliad;
20Y cyfyd ynddo ef wyth o frenhinoedd, y rhai ni bydd eu hamser ond byr, a’u blynyddoedd yn fuan.
21A dau ohonynt y derfydd amdanynt: pan nesao canol yr amser, pedwar a gedwir nes i’w diwedd ddechrau nesáu: ond dau a gedwir hyd y diwethaf.
22A lle y gwelaist dri phen yn gorffwys, hyn yw’r dehongliad:
23Yn ei ddyddiau diwethaf y cyfyd y Goruchaf dair teyrnas, ac yr adnewydda lawer o bethau ynddynt: a hwy a lywodraethant y ddaear,
24A’r rhai a breswyliant ynddi, trwy orthrymder mawr, uwchlaw pawb a’r a fu o’u blaen hwy: am hynny y gelwir hwynt, pennau’r eryr.
25Canys dyma’r rhai a ddygant allan ei ddrygioni ef, ac a gyflawnant ei ddiwedd.
26A lle y gwelaist y pen mawr heb ymddangos mwy, hynny sydd yn arwyddocáu y bydd marw un ohonynt yn ei wely, ac er hynny mewn llafur:
27Canys y ddau sydd yn aros yn ôl a leddir â’r cleddyf;
28Canys cleddyf y naill a ddifetha’r llall: ond o’r diwedd efe a syrth trwy’r cleddyf ei hun.
29A lle y gwelaist ddwy adain dan yr esgyll, yn myned dros y pen sydd o’r tu deau,
30Mae hynny yn arwyddo mai dyma y rhai a gadwodd y Goruchaf hyd eu diwedd: hon yw’r deyrnas fechan, a llawn blinder, fel y gwelaist.
31A’r llew a welaist yn codi allan o’r coed, ac yn rhuo, ac yn dywedyd wrth yr eryr, ac yn ei geryddu ef am ei anghyfiawnder, a’r holl eiriau a glywaist ti,
32Yw y gwynt, yr hwn a gadwodd y Goruchaf iddynt; ac am eu drygioni hyd y diwedd, efe a’u cerydda hwynt, ac a ddyry eu creulondeb ger eu bronnau;
33Canys efe a’u gesyd hwynt ger ei fron mewn barn yn fyw, ac a’u cyhudda ac a’u cerydda hwynt.
34Canys gweddill fy mhobl a weryd efe trwy drugaredd, y rhai a gadwyd ar fy nherfynau; ac efe a’u gwna hwynt yn llawen, hyd ddyfodiad dydd y farn, am yr hwn y dywedais wrthyt ti o’r dechreuad.
35Hwn yw’r breuddwyd a welaist, a hyn yw ei ddeongliadau ef.
36Tydi yn unig oeddit gymwys i wybod y gyfrinach hon eiddo’r Goruchaf.
37Am hynny sgrifenna’r pethau hyn oll a welaist, mewn llyfr, a chuddia hwynt;
38A dysg hwynt i’r bobl ddoethion, y rhai a wypech fod eu calonnau yn gallu deall a chadw y cyfrinachau hyn.
39On gwylia di yma dy hun eto saith niwrnod, fel y gallech wybod y peth a fynno’r Goruchaf ei ddangos i ti. A chyda hynny efe a aeth ymaith.
40A phan ddeallodd yr holl bobl ddarfod y saith niwrnod, a minnau heb ddyfod drachefn i’r ddinas, hwy a ymgasglasant ynghyd o’r lleiaf hyd y mwyaf, ac a ddaethant ataf, gan ddywedyd,
41Pa beth a wnaethom ni yn dy erbyn di, a pha ddrwg a wnaethom i ti, pan ydwyt yn ein gwrthod ni, ac yn eistedd yma?
42Canys o’r holl bobl, ti yn unig a adawyd i ni, fel grawnswp o’r winllan, ac fel cannwyll mewn tywyllwch, ac fel porthladd, neu long wedi dianc rhag y dymestl.
43Onid digon i ni yr adfyd a ddigwyddodd?
44Os tydi a’n gwrthodi, pa faint gwell a fuasai i ni ein llosgi oll yng nghanol Seion?
45Canys nid gwell ydym na’r rhai a fu feirw yno. A hwy a wylasant â llef uchel. Yna yr atebais hwy, ac y dywedais,
46Cymer gysur, O Israel; ac na fydd drist, tydi dŷ Jacob:
47Canys y mae’r Goruchaf yn eich cofio, a’r Galluog ni’ch gollyngodd chwi dros gof mewn profedigaeth.
48A myfi ni’ch gwrthodais chwi, ac nid euthum oddi wrthych: ond mi a ddeuthum i’r lle hwn i weddïo dros anghyfanhedd-dra Seion, fel y gallwn geisio trugaredd i isel radd eich cysegr chwi.
49Ac yn awr, ewch bawb adref; ac yn ôl y dyddiau hyn y deuaf atoch.
50Felly y bobl a aethant ymaith i’r ddinas, fel y gorchmynnais iddynt:
51Ond mi a arhoais yn y maes saith niwrnod, fel y gorchmynnodd yr angel i mi; a bwyteais yn unig o flodau’r maes, ac o’r llysiau y cefais fy mwyd y dyddiau hynny.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.