1Molwch yr ARGLWYDD: canys da yw canu i’n DUW ni; oherwydd hyfryd yw, ie, gweddus yw mawl.
2Yr ARGLWYDD sydd yn adeiladu Jerwsalem: efe a gasgl wasgaredigion Israel.
3Efe sydd yn iacháu y rhai briwedig o galon, ac yn rhwymo eu doluriau.
4Y mae efe yn rhifo rhifedi y sêr: geilw hwynt oll wrth eu henwau.
5Mawr yw ein HARGLWYDD, a mawr ei nerth: aneirif yw ei ddeall.
6Yr ARGLWYDD sydd yn dyrchafu y rhai llariaidd, gan ostwng y rhai annuwiol hyd lawr.
7Cydgenwch i’r ARGLWYDD mewn diolchgarwch: cenwch i’n DUW â’r delyn;
8Yr hwn sydd yn toi y nefoedd â chymylau, yn paratoi glaw i’r ddaear, gan beri i’r gwellt dyfu ar y mynyddoedd.
9Efe sydd yn rhoddi i’r anifail ei borthiant, ac i gywion y gigfran, pan lefant.
10Nid oes hyfrydwch ganddo yn nerth march: ac nid ymhoffa efe yn esgeiriau gŵr.
11Yr ARGLWYDD sydd hoff ganddo y rhai a’i hofnant ef; sef y rhai a ddisgwyliant wrth ei drugaredd ef.
12Jerwsalem, mola di yr ARGLWYDD: Seion, molianna dy DDUW.
13Oherwydd efe a gadarnhaodd farrau dy byrth: efe a fendithiodd dy blant o’th fewn.
14Yr hwn sydd yn gwneuthur dy fro yn heddychol, ac a’th ddiwalla di â braster gwenith.
15Yr hwn sydd yn anfon ei orchymyn ar y ddaear: a’i air a red yn dra buan.
16Yr hwn sydd yn rhoddi eira fel gwlân; ac a daena rew fel lludw.
17Yr hwn sydd yn bwrw ei iâ fel tameidiau: pwy a erys gan ei oerni ef?
18Efe a enfyn ei air, ac a’u tawdd hwynt: â’i wynt y chwyth efe, a’r dyfroedd a lifant.
19Y mae efe yn mynegi ei eiriau i Jacob, ei ddeddfau a’i farnedigaethau i Israel.
20Ni wnaeth efe felly ag un genedl; ac nid adnabuant ei farnedigaethau ef. Molwch yr ARGLWYDD.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.
