1 Pedr 5 - William Morgan Bible with Apocrypha, 1959 Edition

1Yr henuriaid sydd yn eich plith, atolwg iddynt yr ydwyf fi, yr hwn wyf gyd-henuriad, a thyst o ddioddefiadau Crist, yr hwn hefyd wyf gyfrannog o’r gogoniant a ddatguddir:

2Porthwch braidd Duw, yr hwn sydd yn eich plith, gan fwrw golwg arnynt; nid trwy gymell, eithr yn ewyllysgar; nid er mwyn budrelw, eithr o barodrwydd meddwl;

3Nid fel rhai yn tra-arglwyddiaethu ar etifeddiaeth Duw, ond gan fod yn esamplau i’r praidd.

4A phan ymddangoso’r Pen-bugail, chwi a gewch dderbyn anniflanedig goron y gogoniant.

5Yr un ffunud yr ieuainc, byddwch ostyngedig i’r henuriaid. A byddwch bawb yn ostyngedig i’ch gilydd, ac ymdrwsiwch oddi fewn â gostyngeiddrwydd: oblegid y mae Duw yn gwrthwynebu’r beilchion, ac yn rhoddi gras i’r rhai gostyngedig.

6Ymddarostyngwch gan hynny dan alluog law Duw, fel y’ch dyrchafo mewn amser cyfaddas:

7Gan fwrw eich holl ofal arno ef; canys y mae efe yn gofalu drosoch chwi.

8Byddwch sobr, gwyliwch: oblegid y mae eich gwrthwynebwr diafol, megis llew rhuadwy, yn rhodio oddi amgylch, gan geisio’r neb a allo ei lyncu.

9Yr hwn gwrthwynebwch yn gadarn yn y ffydd; gan wybod bod yn cyflawni’r un blinderau yn eich brodyr y rhai sydd yn y byd.

10A Duw pob gras, yr hwn a’ch galwodd chwi i’w dragwyddol ogoniant trwy Grist Iesu, wedi i chwi ddioddef ychydig, a’ch perffeithio chwi, a’ch cadarnhao, a’ch cryfhao, a’ch sefydlo.

11Iddo ef y byddo’r gogoniant a’r gallu yn oes oesoedd. Amen.

12Gyda Silfanus, brawd ffyddlon i chwi, fel yr wyf yn tybied, yr ysgrifennais ar ychydig eiriau, gan gynghori, a thystiolaethu mai gwir ras Duw yw’r hwn yr ydych yn sefyll ynddo.

13Y mae’r eglwys sydd ym Mabilon, yn gydetholedig â chwi, yn eich annerch; a Marc, fy mab i.

14Anerchwch eich gilydd â chusan cariad. Tangnefedd i chwi oll y rhai ydych yng Nghrist Iesu. Amen.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help