Y Salmau 53 - William Morgan Bible with Apocrypha, 1959 Edition

SALM 53I’r Pencerdd ar y Mahalath, Maschil, Salm Dafydd.

1Dywedodd yr ynfyd yn ei galon, Nid oes un DUW. Ymlygrasant, a gwnaethant ffiaidd anwiredd: nid oes un yn gwneuthur daioni.

2Edrychodd DUW i lawr o’r nefoedd ar feibion dynion, i edrych a oedd neb yn ddeallus, ac yn ceisio DUW.

3Ciliasai pob un ohonynt yn wysg ei gefn: cydymddifwynasent; nid oes a wnêl ddaioni, nac oes un.

4Oni ŵyr gweithredwyr anwiredd? y rhai sydd yn bwyta fy mhobl, fel y bwytaent fara: ni alwasant ar DDUW.

5Yno yr ofnasant gan ofn, lle nid oedd ofn: canys DUW a wasgarodd esgyrn yr hwn a’th warchaeodd: gwaradwyddaist hwynt, am i DDUW eu dirmygu hwy.

6O na roddid iachawdwriaeth i Israel o Seion! pan ymchwelo DUW gaethiwed ei bobl, y llawenycha Jacob, ac yr ymhyfryda Israel.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help