Rhufeiniaid 6 - William Morgan Bible with Apocrypha, 1959 Edition

1Beth wrth hynny a ddywedwn ni? a drigwn ni yn wastad mewn pechod, fel yr amlhao gras?

2Na ato Duw. A ninnau wedi meirw i bechod, pa wedd y byddwn byw eto ynddo ef?

3Oni wyddoch chwi, am gynifer ohonom ag a fedyddiwyd i Grist Iesu, ein bedyddio ni i’w farwolaeth ef?

4Claddwyd ni gan hynny gydag ef trwy fedydd i farwolaeth: fel megis ag y cyfodwyd Crist o feirw trwy ogoniant y Tad, felly y rhodiom ninnau hefyd mewn newydd-deb buchedd.

5Canys os gwnaed ni yn gyd-blanhigion i gyffelybiaeth ei farwolaeth ef, felly y byddwn i gyffelybiaeth ei atgyfodiad ef:

6Gan wybod hyn, ddarfod croeshoelio ein hen ddyn ni gydag ef, er mwyn dirymu corff pechod, fel rhag llaw na wasanaethom bechod.

7Canys y mae’r hwn a fu farw, wedi ei ryddhau oddi wrth bechod.

8Ac os buom feirw gyda Christ, yr ydym ni yn credu y byddwn byw hefyd gydag ef:

9Gan wybod nad yw Crist, yr hwn a gyfodwyd oddi wrth y meirw, yn marw mwyach; nad arglwyddiaetha marwolaeth arno mwyach.

10Canys fel y bu efe farw, efe a fu farw unwaith i bechod: ac fel y mae yn byw, byw y mae i Dduw.

11Felly chwithau hefyd, cyfrifwch eich hunain yn feirw i bechod: eithr yn fyw i Dduw, yng Nghrist Iesu ein Harglwydd.

12Na theyrnased pechod gan hynny yn eich corff marwol, i ufuddhau ohonoch iddo yn ei chwantau.

13Ac na roddwch eich aelodau yn arfau anghyfiawnder i bechod: eithr rhoddwch eich hunain i Dduw, megis rhai o feirw yn fyw; a’ch aelodau yn arfau cyfiawnder i Dduw.

14Canys nid arglwyddiaetha pechod arnoch chwi: oblegid nid ydych chwi dan y ddeddf, eithr dan ras.

15Beth wrth hynny? a bechwn ni, oherwydd nad ydym dan y ddeddf, eithr dan ras? Na ato Duw.

16Oni wyddoch chwi, mai i bwy bynnag yr ydych yn eich rhoddi eich hunain yn weision i ufuddhau iddo, eich bod yn weision i’r hwn yr ydych yn ufuddhau iddo; pa un bynnag ai i bechod i farwolaeth, ynteu i ufudd-dod i gyfiawnder?

17Ond i Dduw y bo’r diolch, eich bod chwi gynt yn weision i bechod; eithr ufuddhau ohonoch o’r galon i’r ffurf o athrawiaeth a draddodwyd i chwi.

18Ac wedi eich rhyddhau oddi wrth bechod, fe a’ch gwnaethpwyd yn weision i gyfiawnder.

19Yn ôl dull dynol yr ydwyf yn dywedyd, oblegid gwendid eich cnawd chwi. Canys megis ag y rhoddasoch eich aelodau yn weision i aflendid ac anwiredd, i anwiredd; felly yr awr hon rhoddwch eich aelodau yn weision i gyfiawnder, i sancteiddrwydd.

20Canys pan oeddech yn weision pechod, rhyddion oeddech oddi wrth gyfiawnder.

21Pa ffrwyth gan hynny oedd i chwi y pryd hwnnw o’r pethau y mae arnoch yr awr hon gywilydd o’u plegid? canys diwedd y pethau hynny yw marwolaeth.

22Ac yr awr hon, wedi eich rhyddhau oddi wrth bechod, a’ch gwneuthur yn weision i Dduw, y mae i chwi eich ffrwyth yn sancteiddrwydd, a’r diwedd yn fywyd tragwyddol.

23Canys cyflog pechod yw marwolaeth; eithr dawn Duw yw bywyd tragwyddol, trwy Iesu Grist ein Harglwydd.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help