Doethineb Solomon 15 - William Morgan Bible with Apocrypha, 1959 Edition

PENNOD 15

1Eithr tydi, ein Duw, ydwyt ddaionus a geirwir; yn hirymarhous, ac mewn trugaredd yn llywodraethu pob peth.

2Oblegid os pechwn ni, eiddot ti ydym ni, y rhai a wyddom dy gryfder: ond ni phechwn ni, a ninnau yn gwybod ein cyfrif yn eiddot ti.

3Canys cyfiawnder cyflawn yw dy adnabod di, a gwreiddyn tragwyddoldeb yw gwybod dy nerth.

4Canys ni thwyllodd drwg-gelfyddus ddychymyg dyn mohonom ni, na chysgod portreiadau poen ddiffrwyth, llun wedi ei fritho ag amryw liwiau;

5Golwg y rhai sydd yn peri chwant i’r rhai angall: ac felly y maent yn chwennych llun delw farw ddianadl

6Rhai yn hoffi pethau drygionus, ac yn haeddu’r fath bethau i goelio iddynt, yw y rhai a’u gwnânt, y rhai a’u chwenychant, y rhai a’u gwasanaethant.

7Canys y crochenydd hefyd a dylina bridd meddal, ac a lunia yn boenus bob llestr i’n gwasanaeth ni; o’r un clai y llunia efe rai llestri i wasanaethu mewn gwaith glân, a rhai yr un modd i’r gwrthwyneb: i ba beth y gwasanaetha pob un o’r ddau fath hyn, y crochenydd ei hun sy farnwr.

8Ac o’r un clai, trwy ddrygionus boen, y llunia efe dduw ofer, yr hwn a wnaethid ei hun o’r ddaear ychydig o’r blaen, ac ychydig wedi a â i’r hon y cymerwyd ef ohoni, pan ofynner yr einioes a fenthyciwyd iddo.

9Nid am ei fod ef yn cymryd poen, nac am fod ei hoedl ef yn fer, y mae ei ofal ef, eithr y mae efe yn ymryson â gofaint aur ac arian, ac yn dynwared y gofaint pres; ac y mae efe yn cyfrif yn anrhydedd iddo fod yn llunio pethau gau.

10Lludw yw ei galon ef, ei obaith hefyd sydd waelach na’r ddaear, a’i fywyd yn fwy amharchus na’r clai;

11Am nad adwaenai efe yr hwn a’i gwnaeth, a’r hwn a roddes enaid grymiol iddo ef, ac a anadlodd ysbryd bywiol ynddo.

12Eithr cyfrif y maent hwy mai chwarae yw ein heinioes ni, ac mai marsiandïaeth i elwa yw ein bywyd; oblegid rhaid, meddant, yw elwa o ba le bynnag, hyd yn oed o ddrygioni.

13Canys hwn yn anad neb a ŵyr ei fod yn pechu, yr hwn sydd yn gwneuthur breuon lestri a delwau o ddefnydd daearol.

14A holl elynion dy bobl di y rhai a arglwyddiaethant arnynt, ydynt o’r fath ffolaf, ac yn anhapusach na phlant bychain;

15Oherwydd iddynt dybied bod holl eilunod y cenhedloedd yn dduwiau; i’r rhai nid oes na llygaid yn gwasanaethu i weled, na ffroenau i dynnu’r awyr atynt na chlustiau i glywed, na bysedd dwylo i deimlo, a’u traed hwy sy ddiog i gerdded.

16Oblegid dyn a’u gwnaeth hwynt, a’r hwn nid oes ganddo ond benthyg ysbryd a’u lluniodd hwynt; eithr ni ddichon un dyn wneuthur duw tebyg iddo ei hun:

17Canys efe yn farwol a weithia beth marw â dwylo anwir: gwell yw efe ei hun na’r pethau y mae efe yn eu haddoli; oblegid efe a fu fyw unwaith, a hwythau ni buant erioed.

18Y maent hwy yn addoli’r anifeiliaid casaf: oblegid wrth eu cydgyffelybu, y mae rhai yn waeth nag eraill.

19Nid ydynt mor deg ag anifeiliaid eraill i’w dymuno: canys methodd ganddynt gael na chlod gan Dduw, na’i fendith ef.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help