1Y mae cerydd nid yw deg; ac y mae un yn tewi, a hwnnw yn gall.
2Gwell o lawer yw ceryddu na digio yn ddirgel: ac fe gedwir rhag niwed yr hwn a gydnabyddo ei fai.
3Mor dda yw dangos edifeirwch pan y’th gerydder! felly y dihengi rhag pechod gwirfodd.
4Megis chwant disbaidd i dorri morwyndod llances, felly y mae’r hwn sy’n gwneuthur barnedigaeth wrth drawster.
5Y mae un distaw, yr hwn a geir yn ddoeth; ac y mae sydd atgas am ei siarad lawer.
6Y mae sydd yn tewi, am nad oes ganddo ateb; ac y mae sydd yn tewi, am ei fod yn gwybod ei amser.
7Dyn doeth a dau, hyd oni welo amser; eithr yr ehud a’r angall a â dros amser.
8Yr aml ei eiriau a ffieiddir; ac atgas fydd yr hwn yn hynny a gymero awdurdod iddo ei hun.
9Y mae pechadur, yr hwn sydd yn llwyddo mewn pethau drwg; ac y mae caffaeliad a dry yn niwed.
10Y mae rhodd ni bydd fuddiol i ti; ac y mae rhodd a dâl ei dau cymaint.
11Y mae gostyngiad oherwydd gogoniant; ac y mae a gododd ei ben o waeledd.
12Y mae a brŷn lawer am ychydig, ac a’i tâl adref yn saith gymaint.
13Gŵr doeth wrth ei ymadrodd sydd yn ei wneuthur ei hun yn gariadus; a ffafr ffyliaid a dywelltir allan.
14Ni bydd rhodd yr angall fuddiol i ti, pan ei derbyniech; na’r eiddo’r cenfigennus oherwydd ei angen; oblegid y mae efe yn edrych am dderbyn llawer peth am un.
15Ychydig a rydd efe, a llawer a ddannod efe; efe a egyr ei safn fel crïwr; heddiw yr echwynna efe, ac yfory efe a’i gofyn drachefn: cas gan yr Arglwydd a chan ddynion yw y cyfryw.
16Y ffôl a ddywed, Nid oes gennyf gyfeillion, nid oes i mi ddiolch am fy nghymwynasau, a’r rhai sydd yn bwyta fy mara sydd yn ddrwg eu tafod amdanaf.
17Pa sawl gwaith, a pha sawl un a’i gwatwarant ef! nid yw efe yn deall yn iawn beth yw bod â pheth ganddo; a’r un fath iddo ef yw na bai ganddo.
18Gwell yw llithro ar balmant, na llithro â’r tafod; felly y daw cwymp y drygionus ar frys.
19Chwedl amhrydlon fydd yn wastadol yng ngenau’r diaddysg.
20O enau’r ffôl y llysir dihareb; oblegid ni ddywed efe hi yn ei hamser.
21Y mae a luddir i bechu trwy eisiau; a phan orffwyso, ni phigir ef.
22Y mae a gyll ei enaid ei hun o wladeidd-dra; a thrwy dderbyn wyneb y mae efe yn ei golli.
23Y mae a edy i’w gyfaill rhag cywilydd, ac a’i gwna ef yn elyn iddo ei hun heb fod yn rhaid.
24Anaf mawr ar ddyn yw celwydd; ac efe fydd yn wastadol yng ngenau yr hwn sy ddiaddysg.
25Gwell yw lleidr na’r hwn a ymgynefino â chelwydd: a phob un o’r ddau a gaiff ddinistr yn etifeddiaeth.
26Amharchus yw arfer dyn celwyddog; a’i gywilydd fydd gydag ef yn wastadol.
27Y doeth a’i gesyd ei hun rhagddo trwy ymadrodd: a’r call a ryglydda fodd pendefigion.
28Yr hwn a goleddo ei dir, a wna ei ddas yn uwch; a’r hwn a ryglyddo fodd pendefigion, a gaiff faddeuant am anghyfiawnder.
29Anrhegion a rhoddion sydd yn dallu llygaid y doethion; ac fel ffrwyn mewn safn, y maent yn troi cerydd ymaith.
30Doethineb guddiedig, a thrysor heb ei weled, pa fudd sydd o’r un o’r ddau?
31Gwell yw dyn yn cuddio ei ffolineb, na dyn yn cuddio ei ddoethineb.
32Gwell yw angenrheidiol ddioddefgarwch yn ceisio’r Arglwydd, nag un yn llywodraethu ei fywyd ei hun heb gyfarwyddwr.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.