1A llefarodd yr ARGLWYDD wrth Moses, gan ddywedyd,
2Gorchymyn i feibion Israel, a dywed wrthynt, Gwyliwch am offrymu i mi fy offrwm, a’m bara i’m hebyrth tanllyd, o arogl peraidd yn eu tymor.
3A dywed wrthynt, Dyma yr aberth tanllyd a offrymwch i’r ARGLWYDD. Dau oen blwyddiaid perffaith-gwbl, bob dydd, yn boethoffrwm gwastadol.
4Un oen a offrymi di y bore, a’r oen arall a offrymi di yn yr hwyr;
5A degfed ran effa o beilliaid yn fwyd-offrwm, wedi ei gymysgu trwy bedwaredd ran hin o olew coethedig.
6Dyma y poethoffrwm gwastadol a wnaed ym mynydd Sinai, yn arogl peraidd, yn aberth tanllyd i’r ARGLWYDD.
7A’i ddiod-offrwm fydd bedwaredd ran hin gyda phob oen: pâr dywallt y ddiod gref yn ddiod-offrwm i’r ARGLWYDD, yn y cysegr.
8Yr ail oen a offrymi yn yr hwyr: megis bwyd-offrwm y bore, a’i ddiod-offrwm yr offrymi ef, yn aberth tanllyd, o arogl peraidd i’r ARGLWYDD.
9Ac ar y dydd Saboth, dau oen blwyddiaid, perffaith-gwbl, a dwy ddegfed ran o beilliaid yn fwyd-offrwm, wedi ei gymysgu trwy olew, a’i ddiod-offrwm.
10Dyma boethoffrwm pob Saboth, heblaw y poethoffrwm gwastadol, a’i ddiod-offrwm.
11Ac ar ddechrau eich misoedd yr offrymwch, yn boethoffrwm i’r ARGLWYDD, ddau o fustych ieuainc, ac un hwrdd, a saith oen blwyddiaid, perffaith-gwbl;
12A thair degfed ran o beilliaid, yn fwyd-offrwm, wedi ei gymysgu trwy olew, gyda phob bustach; a dwy ddegfed ran o beilliaid, yn fwyd-offrwm, wedi ei gymysgu trwy olew, gyda phob hwrdd;
13A phob yn ddegfed ran o beilliaid, yn fwyd-offrwm, wedi ei gymysgu trwy olew, gyda phob oen, yn offrwm poeth o arogl peraidd, yn aberth tanllyd i’r ARGLWYDD.
14A’u diod-offrwm fydd hanner hin gyda bustach, a thrydedd ran hin gyda hwrdd, a phedwaredd ran hin o win gydag oen. Dyma boethoffrwm mis yn ei fis, trwy fisoedd y flwyddyn.
15Ac un bwch geifr fydd yn bech-aberthi’r ARGLWYDD: heblaw y gwastadol boethoffrwm yr offrymir ef, a’i ddiod-offrwm.
16Ac yn y mis cyntaf, ar y pedwerydd dydd ar ddeg o’r mis, y bydd Pasg yr ARGLWYDD.
17Ac ar y pymthegfed dydd o’r mis hwn y bydd yr ŵyl: saith niwrnod y bwyteir bara croyw.
18Ar y dydd cyntaf y bydd cymanfa sanctaidd: na wnewch ddim caethwaith ynddo.
19Ond offrymwch yn aberth tanllyd, ac yn boethoffrwm i’r ARGLWYDD, ddau o fustych ieuainc, ac un hwrdd, a saith oen blwyddiaid: byddant gennych yn berffaith-gwbl.
20Eu bwyd-offrwm hefyd fydd o beilliaid wedi ei gymysgu trwy olew: tair degfed ran gyda bustach, a dwy ddegfed ran gyda hwrdd, a offrymwch chwi;
21Bob yn ddegfed ran yr offrymwch gyda phob oen, o’r saith oen:
22Ac un bwch yn bech-aberth, i wneuthur cymod drosoch.
23Heblaw poethoffrwm y bore, yr hwn sydd boethoffrwm gwastadol, yr offrymwch hyn.
24Fel hyn yr offrymwch ar bob dydd o’r saith niwrnod, fwyd-aberth tanllyd, o arogl peraidd i’r ARGLWYDD: heblaw y poethoffrwm gwastadol yr offrymir ef, a’i ddiod-offrwm.
25Ac ar y seithfed dydd cymanfa sanctaidd fydd i chwi: dim caethwaith nis gwnewch.
26Ac ar ddydd eich blaenffrwythau, pan offrymoch fwyd-offrwm newydd i’r ARGLWYDD, wedi eich wythnosau, cymanfa sanctaidd fydd i chwi: dim caethwaith nis gwnewch.
27Ond offrymwch ddau fustach ieuainc un hwrdd, a saith oen blwyddiaid, yn boethoffrwm, o arogl peraidd i’r ARGLWYDD.
28A bydded eu bwyd-offrwm o beilliaid wedi ei gymysgu trwy olew; tair degfed ran gyda phob bustach, dwy ddegfed ran gyda phob hwrdd;
29Bob yn ddegfed ran gyda phob oen, o’r saith oen:
30Un bwch geifr, i wneuthur cymod drosoch.
31Heblaw y poethoffrwm gwastadol, a’i fwyd-offrwm, yr offrymwch hyn, (byddant gennych yn berffaith-gwbl,) ynghyd â’u diod-offrwm.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.