Micha 5 - William Morgan Bible with Apocrypha, 1959 Edition

1Yr awr hon ymfyddina, merch y fyddin; gosododd gynllwyn i’n herbyn: trawant farnwr Israel â gwialen ar ei gern.

2A thithau, Bethlehem Effrata, er dy fod yn fechan ymhlith miloedd Jwda, eto ohonot ti y daw allan i mi un i fod yn llywydd yn Israel; yr hwn yr oedd ei fynediad allan o’r dechreuad, er dyddiau tragwyddoldeb.

3Am hynny y rhydd efe hwynt i fyny, hyd yr amser y darffo i’r hon a esgoro esgor: yna gweddill ei frodyr ef a ddychwelant at feibion Israel.

4Ac efe a saif, ac a bortha â nerth yr ARGLWYDD, yn ardderchowgrwydd enw yr ARGLWYDD ei DDUW; a hwy a drigant: canys yr awr hon efe a fawrheir hyd eithafoedd y ddaear.

5A hwn fydd yr heddwch, pan ddêl yr Asyriad i’n tir ni: a phan sathro o fewn ein palasau, yna cyfodwn yn ei erbyn saith fugail, ac wyth o’r dynion pennaf.

6A hwy a ddinistriant dir Asyria â’r cleddyf, a thir Nimrod â’i gleddyfau noethion ei hun: ac efe a’n hachub rhag yr Asyriad, pan ddêl i’n tir, a phan sathro o fewn ein terfynau.

7A bydd gweddill Jacob yng nghanol llawer o bobl, fel y gwlith oddi wrth yr ARGLWYDD, megis cawodydd ar y gwelltglas, yr hwn nid erys ar ddyn, ac ni ddisgwyl wrth feibion dynion.

8A gweddill Jacob a fydd ymysg y Cenhedloedd, yng nghanol pobl lawer, fel llew ymysg bwystfilod y goedwig, ac fel cenau llew ymhlith y diadellau defaid; yr hwn, pan êl trwodd, a sathr ac a ysglyfaetha, ac ni bydd achubydd.

9Dy law a ddyrchefir yn erbyn dy wrthwynebwyr, a’th holl elynion a dorrir ymaith.

10A bydd y dwthwn hwnnw, medd yr ARGLWYDD, i mi dorri ymaith dy feirch o’th ganol di, a dinistrio dy gerbydau:

11Torraf hefyd i lawr ddinasoedd dy wlad, a dymchwelaf dy holl amddiffynfeydd:

12A thorraf ymaith o’th law y swynion, ac ni bydd i ti ddewiniaid:

13Torraf hefyd i lawr dy luniau cerfiedig, a’th ddelwau o’th blith; ac ni chei ymgrymu mwyach i weithredoedd dy ddwylo dy hun:

14Diwreiddiaf dy lwyni o’th ganol hefyd; a dinistriaf dy ddinasoedd.

15Ac mewn dig a llid y gwnaf ar y cenhedloedd y fath ddialedd ag na chlywsant.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help