1Pan glybu meibion Israel, y rhai oedd yn preswylio yn Jwdea, yr hyn oll a wnaethai Oloffernes tywysog llu Nabuchodonosor brenin yr Asyriaid i’r cenhedloedd, ac fel yr anrheithiasai efe eu holl demlau hwynt, ac y distrywiasai efe hwynt,
2Yna hwy a ofnasant yn ddirfawr rhagddo ef, ac a drallodwyd oherwydd Jerwsalem, ac oherwydd teml yr Arglwydd eu Duw.
3Canys newydd ddyfod i fyny oeddynt hwy o’r caethiwed, ac yn ddiweddar yr ymgasglasai holl bobl Jwdea, ac y sancteiddiasid y llestri, a’r tŷ, ar ôl yr halogedigaeth.
4Am hynny hwy a anfonasant i holl ardaloedd Samaria, a’r pentrefydd, ac i Bethoron, a Belmen, a Jericho, ac i Choba, ac Esora, ac i ddyffryn Salem;
5Ac o’r blaen a gymerasant bennau’r mynyddoedd uchel, ac a furiasant y pentrefydd oedd ynddynt, ac a osodasant ynddynt luniaeth yn ymborth erbyn rhyfel: canys yn ddiweddar y medasid eu meysydd hwynt.
6Joacim hefyd yr archoffeiriad, yr hwn ydoedd yn y dyddiau hynny, a sgrifennodd at y rhai oedd yn trigo yn Bethulia, a Betomestham, yr hon sydd ar gyfer Esdraelon, gyferbyn â’r maes amlwg, yr hwn sydd yn gyfagos i Dothaim,
7Gan ddywedyd wrthynt am gadw bylchau’r mynydd-dir: canys trwyddynt hwy yr ydoedd dyfodfa i Jwdea: ac yr ydoedd yn hawdd eu lluddias hwynt i ddyfod yno, oherwydd y bwlch ydoedd gyfyng i ddau ŵr o’r mwyaf.
8A meibion Israel a wnaethant fel y gorchmynasai Joacim yr archoffeiriad iddynt, a henuriaid holl bobl Israel, y rhai oedd yn trigo yn Jerwsalem.
9Yna holl wŷr Israel a waeddasant ar Dduw yn ddifrifol iawn, ac a ostyngasant eu heneidiau trwy ddyfalrwydd mawr;
10Hwynt-hwy, a’u gwragedd, a’u plant, a’u hanifeiliaid, a phob dieithr a gwas cyflog, a gweision prŷn, a osodasant sachliain am eu llwynau.
11Fel hyn pob gŵr a gwraig, a’r plant, a thrigolion Jerwsalem, a syrthiasant o flaen y deml, ac a daenasant ludw ar eu pennau, ac a ledasant eu sachliain gerbron wyneb yr Arglwydd: a hwy a wisgasant yr allor â sachliain;
12A hwy a waeddasant ar Dduw Israel i gyd oll o unfryd yn ddyfal, ar na roddai efe eu plant hwy yn ysglyfaeth, a’u gwragedd yn anrhaith, a dinasoedd eu hetifeddiaethau hwynt yn ddistryw, a’r cysegr yn halogedigaeth, ac yn waradwydd ac yn watwargerdd gan y cenhedloedd.
13Felly Duw a wrandawodd ar eu gweddi hwynt, ac a’u gwaredodd hwynt o’u blinder: canys y bobl a ymprydiasant ddyddiau lawer trwy holl Jwdea a Jerwsalem o flaen cysegr yr Arglwydd hollalluog.
14A Joacim yr archoffeiriad, a’r holl offeiriaid, y rhai oedd yn sefyll gerbron yr Arglwydd, a’r rhai oedd yn gweini i’r Arglwydd, oedd wedi gwregysu eu llwynau â sachliain, ac yn offrymu poethoffrwm gwastadol, ac addunedau ac offrymau gwirfodd y bobl; ac yr oedd lludw ar eu meitrau hwynt;
15A hwy a waeddasant ar yr Arglwydd â’u holl nerth, ar iddo ef ymweled yn rasol â holl dŷ Israel.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.