2 Brenhinoedd 21 - William Morgan Bible with Apocrypha, 1959 Edition

1Mab deuddeng mlwydd oedd Manasse pan ddechreuodd efe deyrnasu, a phymtheng mlynedd a deugain y teyrnasodd efe yn Jerwsalem: ac enw ei fam ef oedd Heffsiba.

2Ac efe a wnaeth yr hyn oedd ddrwg yng ngolwg yr ARGLWYDD, yn ôl ffieidd-dra’r cenhedloedd a fwriodd yr ARGLWYDD allan o flaen meibion Israel.

3Canys efe a adeiladodd drachefn yr uchelfeydd a ddinistriasai Heseceia ei dad ef; ac a gyfododd allorau i Baal, ac a wnaeth lwyn, fel y gwnaethai Ahab brenin Israel, ac a addolodd holl lu’r nefoedd, ac a’u gwasanaethodd hwynt.

4Adeiladodd hefyd allorau yn nhŷ yr ARGLWYDD, am yr hwn y dywedasai yr ARGLWYDD, Yn Jerwsalem y gosodaf fy enw.

5Ac efe a adeiladodd allorau i holl lu’r nefoedd yn nau gyntedd tŷ yr ARGLWYDD.

6Ac efe a dynnodd ei fab trwy dân, ac a arferodd hudoliaeth, a brudiau, ac a fawrhaodd swynyddion, a dewiniaid: efe a wnaeth lawer o ddrwg yng ngolwg yr ARGLWYDD, i’w ddigio ef.

7Ac efe a osododd ddelw gerfiedig y llwyn a wnaethai efe, yn y tŷ am yr hwn y dywedasai yr ARGLWYDD wrth Dafydd, ac wrth Solomon ei fab, Yn y tŷ hwn, ac yn Jerwsalem, yr hon a ddewisais i o holl lwythau Israel, y gosodaf fi fy enw yn dragywydd:

8Ac ni symudaf mwyach droed Israel o’r wlad a roddais i’w tadau hwynt: yn unig os gwyliant ar wneuthur yr hyn oll a orchmynnais iddynt, ac yn ôl yr holl gyfraith a orchmynnodd fy ngwas Moses iddynt.

9Ond ni wrandawsant hwy: a Manasse a’u cyfeiliornodd hwynt i wneuthur yn waeth na’r cenhedloedd a ddifethasai yr ARGLWYDD o flaen meibion Israel.

10A llefarodd yr ARGLWYDD trwy law ei weision y proffwydi, gan ddywedyd,

11Oherwydd i Manasse brenin Jwda wneuthur y ffieidd-dra hyn, a gwneuthur yn waeth na’r hyn oll a wnaethai yr Amoriaid a fu o’i flaen ef, a pheri i Jwda bechu trwy ei eilunod:

12Oblegid hynny, fel hyn y dywed ARGLWYDD DDUW Israel, Wele fi yn dwyn drwg ar Jerwsalem a Jwda, fel y merwino dwy glust y sawl a’i clywant.

13A mi a estynnaf linyn mesur Samaria ar Jerwsalem, a phwys tŷ Ahab: golchaf hefyd Jerwsalem fel y gylch un gwpan, yr hwn pan olcho, efe a’i try ar ei wyneb.

14A mi a wrthodaf weddill fy etifeddiaeth, ac a’u rhoddaf hwynt yn llaw eu gelynion, a hwy a fyddant yn anrhaith ac yn ysbail i’w holl elynion:

15Am iddynt wneuthur yr hyn oedd ddrwg yn fy ngolwg i, a’u bod yn fy nigio i, er y dydd y daeth eu tadau hwynt allan o’r Aifft, hyd y dydd hwn.

16Manasse hefyd a dywalltodd lawer iawn o waed gwirion, hyd oni lanwodd efe Jerwsalem o ben bwygilydd; heblaw ei bechod trwy yr hwn y gwnaeth efe i Jwda bechu, gan wneuthur yr hyn oedd ddrwg yng ngolwg yr ARGLWYDD.

17A’r rhan arall o hanes Manasse, a’r hyn a wnaeth efe, a’i bechod a bechodd efe, onid ydynt hwy yn ysgrifenedig yn llyfr cronicl brenhinoedd Jwda?

18A Manasse a hunodd gyda’i dadau, ac a gladdwyd yng ngardd ei dŷ ei hun, sef yng ngardd Ussa; ac Amon ei fab a deyrnasodd yn ei le ef.

19Mab dwy flwydd ar hugain oedd Amon pan ddechreuodd efe deyrnasu, a dwy flynedd y teyrnasodd efe yn Jerwsalem: ac enw ei fam ef oedd Mesulemeth, merch Harus o Jotba.

20Ac efe a wnaeth yr hyn oedd ddrwg yng ngolwg yr ARGLWYDD, fel y gwnaethai Manasse ei dad.

21Ac efe a rodiodd yn yr holl ffyrdd y rhodiasai ei dad ynddynt, ac a wasanaethodd yr eilunod a wasanaethasai ei dad, ac a ymgrymodd iddynt:

22Ac efe a wrthododd ARGLWYDD DDUW ei dadau, ac ni rodiodd yn ffordd yr ARGLWYDD.

23A gweision Amon a fradfwriadasant yn ei erbyn ef, ac a laddasant y brenin yn ei dŷ ei hun.

24A phobl y wlad a laddodd yr holl rai a fradfwriadasent yn erbyn y brenin Amon: a phobl y wlad a osodasant Joseia ei fab ef yn frenin yn ei le ef.

25A’r rhan arall o hanes Amon, yr hyn a wnaeth efe, onid ydynt hwy yn ysgrifenedig yn llyfr cronicl brenhinoedd Jwda?

26A chladdwyd ef yn ei feddrod yng ngardd Ussa; a Joseia ei fab a deyrnasodd yn ei le ef.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help