1Llawer gwaith y’m cystuddiasant o’m hieuenctid, y dichon Israel ddywedyd yn awr:
2Llawer gwaith y’m cystuddiasant o’m hieuenctid: eto ni’m gorfuant.
3Yr arddwyr a arddasant ar fy nghefn: estynasant eu cwysau yn hirion.
4Yr ARGLWYDD sydd gyfiawn: efe a dorrodd raffau y rhai annuwiol.
5Gwaradwydder hwy oll, a gyrrer yn eu hôl, y rhai a gasânt Seion.
6Byddant fel glaswellt pen tai, yr hwn a wywa cyn y tynner ef ymaith:
7A’r hwn ni leinw y pladurwr ei law; na’r hwn fyddo yn rhwymo yr ysgubau, ei fynwes.
8Ac ni ddywed y rhai a ânt heibio, Bendith yr ARGLWYDD arnoch: bendithiwn chwi yn enw yr ARGLWYDD.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.
