1Parod yw fy nghalon, O DDUW: canaf a chanmolaf â’m gogoniant.
2Deffro, y nabl a’r delyn: minnau a ddeffroaf yn fore.
3Clodforaf di, ARGLWYDD, ymysg y bobloedd: canmolaf di ymysg y cenhedloedd.
4Canys mawr yw dy drugaredd oddi ar y nefoedd: a’th wirionedd a gyrraedd hyd yr wybren.
5Ymddyrcha, O DDUW, uwch y nefoedd: a bydded dy ogoniant ar yr holl ddaear;
6Fel y gwareder dy rai annwyl: achub â’th ddeheulaw, a gwrando fi.
7 DUW a lefarodd yn ei sancteiddrwydd, Llawenychaf, rhannaf Sichem, a mesuraf ddyffryn Succoth.
8Eiddof fi yw Gilead; eiddof fi Manasse; Effraim hefyd yw nerth fy mhen: Jwda yw fy neddfwr.
9Moab yw fy nghrochan golchi; tros Edom y taflaf fy esgid: buddugoliaethaf ar Philistia.
10Pwy a’m dwg i’r ddinas gadarn? pwy a’m dwg hyd yn Edom?
11Onid tydi, O DDUW, yr hwn a’n bwriaist ymaith? ac onid ei di allan, O DDUW, gyda’n lluoedd?
12Dyro i ni gynhorthwy rhag cyfyngder: canys gau yw ymwared dyn.
13Trwy DDUW y gwnawn wroldeb: canys efe a sathr ein gelynion.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.
