Y Salmau 142 - William Morgan Bible with Apocrypha, 1959 Edition

SALM 142Maschil Dafydd; Gweddi pan oedd efe yn yr ogof.

1Gwaeddais â’m llef ar yr ARGLWYDD; â’m llef yr ymbiliais â’r ARGLWYDD.

2Tywelltais fy myfyrdod o’i flaen ef; a mynegais fy nghystudd ger ei fron ef.

3Pan ballodd fy ysbryd o’m mewn, tithau a adwaenit fy llwybr. Yn y ffordd y rhodiwn, y cuddiasant i mi fagl.

4Edrychais ar y tu deau, a deliais sylw, ac nid oedd neb a’m hadwaenai: pallodd nodded i mi; nid oedd neb yn ymofyn am fy enaid.

5Llefais arnat, O ARGLWYDD; a dywedais, Ti yw fy ngobaith, a’m rhan yn nhir y rhai byw.

6Ystyr wrth fy ngwaedd: canys truan iawn ydwyf: gwared fi oddi wrth fy erlidwyr; canys trech ydynt na mi.

7Dwg fy enaid allan o garchar, fel y moliannwyf dy enw: y rhai cyfiawn a’m cylchynant: canys ti a fyddi da wrthyf.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help