Ecclesiasticus (Sirach) 38 - William Morgan Bible with Apocrypha, 1959 Edition

PENNOD 38

1Anrhydedda’r meddyg ag anrhydedd dyledus iddo, am fod yn rhaid wrtho ef: oblegid yr Arglwydd a’i creodd ef:

2Canys oddi wrth y Goruchaf y daeth meddyginiaeth; ac efe a gaiff ogoniant gan y brenin.

3Gwybodaeth y meddyg a ddyrchafa ei ben ef; ac yng ngŵydd gwŷr mawr y perchir ef;

4Yr Arglwydd a greodd feddyginiaethau a’r ddaear; ac ni bydd ffiaidd gan ŵr call mohonynt.

5Oni wnaed y dwfr yn beraidd â phren, fel y gwybyddai dynion ei rinwedd ef?

6Ac efe a roddes wybodaeth i ddynion, fel y gogoneddid ef am ei ryfeddodau.

7A’r rhai hynny y mae efe yn meddyginiaethu, ac yn tynnu ymaith boen dyn.

8A’r rhai hynny y gwna yr apothecari eli; ac ar ei waith nid oes diben: oherwydd oddi wrth yr Arglwydd y mae heddwch ar wyneb y ddaear.

9Fy mab, na fydd esgeulus yn dy glefyd; eithr gweddïa ar yr Arglwydd, ac efe a’th iachâ di.

10Tro oddi wrth anwiredd, ac iawndrefna dy ddwylo, a glanha dy galon oddi wrth bob pechod.

11Dod berarogl, a choffadwriaeth o beilliaid, a dod offrwm bras, fel un heb fod:

12Yna dod le i’r meddyg: oblegid yr Arglwydd a’i creodd ef: nac ymadawed â thi; oherwydd fe fydd rhaid i ti wrtho ef.

13Y mae amser pan fyddo ffyniant ar eu llaw hwynt:

14Canys hwy a weddïant hefyd ar yr Arglwydd, ar iddo ef lwyddo yr hyn y maent hwy yn ei roddi, er esmwythdra ac iechyd i estyn einioes.

15Yr hwn a becho yng ngŵydd yr hwn a’i gwnaeth; syrthied yn llaw y meddyg.

16Fy mab, gollwng ddagrau dros y marw, a dechrau alaru, fel pe bait yn dioddef anfad niwed; ac yna amdoa ei gorff ef yn ôl yr arfer, ac na ddiystyra ei gladdedigaeth ef.

17Wyla yn chwerw, a gofidia yn dost, a galara fel yr haeddai efe, ddiwrnod neu ddau, rhag cael anair: yna cymer ddiddanwch am dy dristwch:

18Oblegid o dristwch y daw marwolaeth; a thristwch calon a blyga gryfder.

19Mewn cystudd yr erys tristwch; a melltith calon yw bywyd y tlawd.

20Na ddod dristwch at dy galon; tro ef ymaith, a meddwl am y diwedd.

21Nac anghofia hyn, oherwydd ni elli ddychwelyd: ni elli di ddaioni iddo ef, ond niwed a wnei i ti dy hun.

22Cofia’r farn sydd i mi; felly y bydd yr eiddot tithau: i mi ddoe, ac i tithau heddiw.

23Gorffwysed coffadwriaeth y marw, pan orffwyso yntau: cymer gysur amdano ef, gan fyned ei ysbryd oddi wrtho.

24Doethineb y dysgedig a geir wrth hamdden amserol: a’r hwn a edrycho ychydig am ei waith, ni bydd efe doeth.

25Pa fodd y daw efe i ddoethineb, yr hwn sydd yn dal y penffestr, ac sydd â’i hoffter yn yr irai, ac sydd yn gyrru’r ychen, ac sydd yn arfer eu gwaith hwynt, ac yn chwedleua am fustachiaid?

26Y mae efe yn rhoi ei feddwl ar droi cwysau, ac yn ddiwyd i roddi gwellt i’r gwartheg.

27Felly pob saer, a phensaer, yr hwn a weithia nos a dydd, yr hwn a gerfia gerfiadau seliau, ac a fydd astud i wneuthur amryw gerfiadau, ac a rydd ei feddwl ar ddynwared portreiadau, ac a fydd wyliadwrus i orffen gwaith.

28Felly’r gof yn eistedd wrth yr einion, ac yn ystyried y gwaith haearn; angerdd y tân a wna i’w gnawd ef ddihoeni, ac efe a ymladd â gwres yr aelwyd: y mae sŵn y morthwyl a’r einion yn dyfod yn wastad i’w glustiau ef; ar wedd y dodrefnyn y mae efe yn ei wneuthur y mae ei lygaid ef yn wastad: ei feddwl a rydd efe ar orffen ei waith, a’i ofal fydd am ei orffen yn hardd.

29Felly y mae’r crochenydd yn eistedd wrth ei waith, ac yn troi y droell â’i draed, yr hwn a esyd ar ei waith bob amser yn ofalus, a’i holl waith ef fydd dan rif.

30Efe a lunia’r clai â’i fraich, ac a’i meddalha ef â’i draed: efe a esyd ei feddwl ar ei blymio drosto, ac a fydd ofalus i ysgubo’r odyn.

31Y rhai hyn oll sydd yn ymddiried yn eu dwylo eu hun; a phob un a gais fod yn gelfydd yn ei waith.

32Heb y rhai hyn ni chyfanheddir dinas: ac ni chânt hwy drigo lle y mynnont, na rhodio i fyny ac i waered.

33Ni cheisir hwynt i fod o gyngor y bobl, ac ni ddyrchefir hwynt yn y gynulleidfa: nid eisteddant hwy ar orseddfainc ynadon, ac ni ddeallant gyfamod y gyfraith: ni fedrant egluro cyfiawnder a barn, ac ni byddant i’w cael lle y bo traethu damhegion.

34Eithr y maent hwy yn cynnal y byd: a’u dymuniad sydd yng ngwaith eu celfyddyd.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help