Y Salmau 10 - William Morgan Bible with Apocrypha, 1959 Edition

SALM 10

1Paham, ARGLWYDD, y sefi o bell? yr ymguddi yn amser cyfyngder?

2Yr annuwiol mewn balchder a erlid y tlawd: dalier hwynt yn y bwriadau a ddychmygasant.

3Canys yr annuwiol a ymffrostia am ewyllys ei galon; ac a fendithia y cybydd, yr hwn y mae yr ARGLWYDD yn ei ffieiddio.

4Yr annuwiol, gan uchder ei ffroen, ni chais DDUW: nid yw DUW yn ei holl feddyliau ef.

5Ei ffyrdd sydd flin bob amser; uchel yw dy farnedigaethau allan o’i olwg ef: chwythu y mae yn erbyn ei holl elynion.

6Dywedodd yn ei galon, Ni’m symudir: oherwydd ni byddaf mewn drygfyd hyd genhedlaeth a chenhedlaeth.

7Ei enau sydd yn llawn melltith, a dichell, a thwyll: dan ei dafod y mae camwedd ac anwiredd.

8Y mae efe yn eistedd yng nghynllwynfa y pentrefi: mewn cilfachau y lladd efe y gwirion: ei lygaid a dremiant yn ddirgel ar y tlawd.

9Efe a gynllwyna mewn dirgelwch megis llew yn ei ffau: cynllwyn y mae i ddal y tlawd: efe a ddeil y tlawd, gan ei dynnu i’w rwyd.

10Efe a ymgryma, ac a ymostwng, fel y cwympo tyrfa trueiniaid gan ei gedyrn ef.

11Dywedodd yn ei galon, Anghofiodd DUW: cuddiodd ei wyneb; ni wêl byth.

12Cyfod, ARGLWYDD; O DDUW, dyrcha dy law: nac anghofia y cystuddiol.

13Paham y dirmyga yr annuwiol DDUW? dywedodd yn ei galon, Nid ymofynni.

14Gwelaist hyn; canys ti a ganfyddi anwiredd a cham, i roddi tâl â’th ddwylo dy hun: arnat ti y gedy y tlawd; ti yw cynorthwywr yr amddifad.

15Tor fraich yr annuwiol a’r drygionus: cais ei ddrygioni ef hyd na chaffech ddim.

16Yr ARGLWYDD sydd frenin byth ac yn dragywydd: difethwyd y cenhedloedd allan o’i dir ef.

17 ARGLWYDD, clywaist ddymuniad y tlodion: paratöi eu calon hwynt, gwrendy dy glust arnynt;

18I farnu yr amddifad a’r gorthrymedig, fel na chwanego dyn daearol beri ofn mwyach.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help