Eseciel 26 - William Morgan Bible with Apocrypha, 1959 Edition

1Ac yn yr unfed flwyddyn ar ddeg, ar y dydd cyntaf o’r mis, y daeth gair yr ARGLWYDD ataf, gan ddywedyd,

2Ha fab dyn, oherwydd dywedyd o Tyrus am Jerwsalem, Aha, torrwyd hi, pyrth y bobloedd: trodd ataf fi: fo’m llenwir; anrheithiedig yw hi:

3Am hynny fel hyn y dywed yr ARGLWYDD DDUW; Wele fi i’th erbyn, O Tyrus, a chodaf genhedloedd lawer i’th erbyn, fel y cyfyd y môr ei donnau.

4A hwy a ddinistriant geyrydd Tyrus, a’i thyrau a ddinistriant: minnau a grafaf ei llwch ohoni, ac a’i gwnaf yn gopa craig.

5Yn daenfa rhwydau y bydd yng nghanol y môr: canys myfi a lefarodd hyn, medd yr ARGLWYDD DDUW: a hi a fydd yn ysbail i’r cenhedloedd.

6Ei merched hefyd y rhai sydd yn y maes a leddir â’r cleddyf; fel y gwypont mai myfi yw yr ARGLWYDD.

7Canys fel hyn y dywed yr ARGLWYDD DDUW; Wele fi yn dwyn ar Tyrus, o’r gogledd, Nebuchodonosor brenin Babilon, brenin brenhinoedd, â meirch ac â cherbydau, ac â marchogion, a thorfoedd, a phobl lawer.

8Dy ferched a ladd efe yn y maes â’r cleddyf; ac a esyd wrthglawdd i’th erbyn, ac a fwrw glawdd i’th erbyn, ac a gyfyd darian i’th erbyn.

9Ac efe a esyd beiriannau rhyfel yn erbyn dy geyrydd, a’th dyrau a fwrw efe i lawr â’i fwyeill.

10Gan amlder ei feirch ef, eu llwch a’th doa: dy geyrydd a gynhyrfant gan sŵn y marchogion, a’r olwynion, a’r cerbydau, pan ddelo trwy dy byrth di, fel dyfod i ddinas adwyog.

11A charnau ei feirch y sathr efe dy heolydd oll: dy bobl a ladd efe â’r cleddyf, a’th sefyllfannau cedyrn a ddisgyn i’r llawr.

12A hwy a anrheithiant dy gyfoeth, ac a ysbeiliant dy farchnadaeth; ac a ddinistriant dy geyrydd, a’th dai dymunol a dynnant i lawr: a’th gerrig, a’th goed, a’th bridd, a osodant yng nghanol y dyfroedd.

13A gwnaf i sŵn dy ganiadau beidio; ac ni chlywir mwy lais dy delynau.

14A gwnaf di yn gopa craig: taenfa rhwydau fyddi: ni’th adeiledir mwy: canys myfi yr ARGLWYDD a’i lleferais, medd yr ARGLWYDD DDUW.

15Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD DDUW wrth Tyrus: Oni chrŷn yr ynysoedd gan sŵn dy gwymp, pan waeddo yr archolledig, pan ladder lladdfa yn dy ganol?

16Yna holl dywysogion y môr a ddisgynnant o’u gorseddfeinciau, ac a fwriant ymaith eu mantelloedd, ac a ddiosgant eu gwisgoedd symudliw: dychryn a wisgant, ar y ddaear yr eisteddant, ac a ddychrynant ar bob moment, ac a synnant wrthyt.

17Codant hefyd alarnad amdanat, a dywedant wrthyt, Pa fodd y’th ddifethwyd, yr hon a breswylir gan forwyr, y ddinas ganmoladwy, yr hon oedd gref ar y môr, hi a’i thrigolion, y rhai a roddasant eu harswyd ar ei holl ymdeithwyr hi?

18Yr awr hon yr ynysoedd a ddychrynant yn nydd dy gwymp; ie, yr ynysoedd y rhai sydd yn y môr a drallodir wrth dy fynediad di ymaith.

19Canys fel hyn y dywed yr ARGLWYDD DDUW; Pan roddwyf di yn ddinas anrheithiedig, fel y dinasoedd nis cyfanheddir; gan ddwyn arnat y dyfnder, fel y’th guddio dyfroedd lawer;

20A’th ddisgyn ohonof gyda’r rhai a ddisgynnant i’r pwll, at y bobl gynt, a’th osod yn iselderau y ddaear, yn yr hen anrhaith, gyda’r rhai a ddisgynnant i’r pwll, fel na’th breswylier; a rhoddi ohonof ogoniant yn nhir y rhai byw;

21Gwnaf di yn ddychryn, ac ni byddi: er dy geisio, ni’th geir mwy, medd yr ARGLWYDD DDUW.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help