Exodus 9 - William Morgan Bible with Apocrypha, 1959 Edition

1Yna y dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses, Dos i mewn at Pharo, a llefara wrtho ef, Fel hyn y dywed ARGLWYDD DDUW yr Hebreaid; Gollwng ymaith fy mhobl, fel y’m gwasanaethont.

2Oblegid, os gwrthodi eu gollwng hwynt ymaith, ac atal ohonot hwynt eto,

3Wele, llaw yr ARGLWYDD fydd ar dy anifeiliaid, y rhai sydd yn y maes; ar feirch, ar asynnod, ar gamelod, ar y gwartheg, ac ar y defaid, y daw haint trwm iawn.

4A’r ARGLWYDD a neilltua rhwng anifeiliaid Israel ac anifeiliaid yr Eifftiaid; fel na byddo marw dim o gwbl a’r sydd eiddo meibion Israel.

5A gosododd yr ARGLWYDD amser nodedig, gan ddywedyd, Yfory y gwna’r ARGLWYDD y peth hyn yn y wlad.

6A’r ARGLWYDD a wnaeth y peth hynny drannoeth: a bu feirw holl anifeiliaid yr Eifftiaid; ond o anifeiliaid meibion Israel ni bu farw un.

7A Pharo a anfonodd; ac wele, ni buasai farw un o anifeiliaid Israel: a chalon Pharo a galedwyd, ac ni ollyngodd y bobl.

8A dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses ac wrth Aaron, Cymerwch i chwi lonaid eich llaw o ludw ffwrn, a thaened Moses ef tua’r nefoedd yng ngŵydd Pharo:

9Ac efe fydd yn llwch ar holl dir yr Aifft; ac a fydd ar ddyn ac ar anifail yn gornwyd llinorog, trwy holl wlad yr Aifft.

10A hwy a gymerasant ludw y ffwrn, ac a safasant gerbron Pharo: a Moses a’i taenodd tua’r nefoedd; ac efe a aeth yn gornwyd llinorog ar ddyn ac ar anifail.

11A’r swynwyr ni allent sefyll gerbron Moses, gan y cornwyd; oblegid yr oedd y cornwyd ar y swynwyr, ac ar yr holl Eifftiaid.

12A’r ARGLWYDD a galedodd galon Pharo, fel na wrandawai arnynt; megis y llefarasai’r ARGLWYDD wrth Moses.

13A’r ARGLWYDD a ddywedodd wrth Moses, Cyfod yn fore, a saf gerbron Pharo, a dywed wrtho, Fel hyn y dywed ARGLWYDD DDUW yr Hebreaid; Gollwng fy mhobl, fel y’m gwasanaethont.

14Canys y waith hon yr anfonaf fy holl blâu ar dy galon, ac ar dy weision, ac ar dy bobl; fel y gwypech nad oes gyffelyb i mi yn yr holl ddaear.

15Oherwydd yn awr, mi a estynnaf fy llaw, ac a’th drawaf di a’th bobl â haint y nodau; a thi a dorrir ymaith oddi ar y ddaear.

16Ac yn ddiau er mwyn hyn y’th gyfodais di, i ddangos i ti fy nerth; ac fel y myneger fy enw trwy’r holl ddaear.

17A wyt ti yn ymddyrchafu ar fy mhobl eto, heb eu gollwng hwynt ymaith?

18Wele, mi a lawiaf ynghylch yr amser yma yfory genllysg trymion iawn; y rhai ni bu eu bath yn yr Aifft, o’r dydd y sylfaenwyd hi, hyd yr awr hon.

19Anfon gan hynny yn awr, casgl dy anifeiliaid, a phob dim a’r y sydd i ti yn y maes: pob dyn ac anifail a gaffer yn y maes, ac nis dyger i dŷ, y disgyn y cenllysg arnynt, a byddant feirw.

20Yr hwn a ofnodd air yr ARGLWYDD o weision Pharo, a yrrodd ei weision a’i anifeiliaid i dai;

21A’r hwn nid ystyriodd air yr ARGLWYDD, a adawodd ei weision a’i anifeiliaid yn y maes.

22A’r ARGLWYDD a ddywedodd wrth Moses, Estyn dy law tua’r nefoedd; fel y byddo cenllysg yn holl wlad yr Aifft, ar ddyn ac ar anifail, ac ar holl lysiau y maes, o fewn tir yr Aifft.

23A Moses a estynnodd ei wialen tua’r nefoedd: a’r ARGLWYDD a roddodd daranau a chenllysg, a’r tân a gerddodd ar hyd y ddaear; a chafododd yr ARGLWYDD genllysg ar dir yr Aifft.

24Felly yr ydoedd cenllysg, a thân yn ymgymryd yng nghanol y cenllysg, yn flin iawn; yr hwn ni bu ei fath yn holl wlad yr Aifft, er pan ydoedd yn genhedlaeth.

25A’r cenllysg a gurodd, trwy holl wlad yr Aifft, gwbl a’r oedd yn y maes, yn ddyn ac yn anifail: y cenllysg hefyd a gurodd holl lysiau y maes, ac a ddrylliodd holl goed y maes.

26Yn unig yng ngwlad Gosen, yr hon yr ydoedd meibion Israel ynddi, nid oedd dim cenllysg.

27A Pharo a anfonodd, ac a alwodd ar Moses ac Aaron, ac a ddywedodd wrthynt, Pechais y waith hon; yr ARGLWYDD sydd gyfiawn, a minnau a’m pobl yn annuwiol.

28Gweddïwch ar yr ARGLWYDD (canys digon yw hyn) na byddo taranau DUW na chenllysg; a mi a’ch gollyngaf, ac ni arhoswch yn hwy.

29A dywedodd Moses wrtho, Pan elwyf allan o’r ddinas mi a ledaf fy nwylo at yr ARGLWYDD: a’r taranau a beidiant, a’r cenllysg ni bydd mwy; fel y gwypych mai yr ARGLWYDD biau y ddaear.

30Ond mi a wn nad wyt ti eto, na’th weision, yn ofni wyneb yr ARGLWYDD DDUW.

31A’r llin a’r haidd a gurwyd; canys yr haidd oedd wedi hedeg, a’r llin wedi hadu:

32A’r gwenith a’r rhyg ni churwyd; oherwydd diweddar oeddynt hwy.

33A Moses a aeth oddi wrth Pharo allan o’r ddinas, ac a ledodd ei ddwylo at yr ARGLWYDD; a’r taranau a’r cenllysg a beidiasant, ac ni thywalltwyd glaw ar y ddaear.

34A phan welodd Pharo beidio o’r glaw, a’r cenllysg, a’r taranau, efe a chwanegodd bechu; ac a galedodd ei galon, efe a’i weision.

35A chaledwyd calon Pharo, ac ni ollyngai efe feibion Israel ymaith; megis y llefarasai yr ARGLWYDD trwy law Moses.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help