1Ac yn y ddeunawfed flwyddyn, yr ail dydd ar hugain o’r mis cyntaf, yr oedd y gair yn nhŷ Nabuchodonosor brenin yr Asyriaid, yr ymddialai efe ar yr holl ddaear, fel y dywedasai efe.
2Felly efe a alwodd ato ei holl weision, a’i holl bendefigion, ac a ymddiddanodd â hwynt ynghylch ei gyfrinach ddirgel; ac a osododd ger eu bron hwynt, â’i enau ei hun, holl ddrygioni y ddaear.
3Yna hwy a gytunasant ddifetha pob cnawd a’r na chanlynasai orchymyn ei enau ef.
4A phan orffennodd efe ei gyfrinach, Nabuchodonosor brenin yr Asyriaid a alwodd am Oloffernes tywysog ei filwriaeth, yr hwn oedd ail ar ei ôl ef, ac a ddywedodd wrtho,
5Fel hyn y dywed y brenin mawr, arglwydd yr holl ddaear; Wele, dos ymaith o’m gŵydd i, a chymer gyda thi wŷr yn ymddiried yn eu nerth eu hunain, o wŷr traed, cant ac ugain mil, a rhifedi’r meirch a’u marchogion, deuddeng mil;
6A dos yn erbyn holl wlad y gorllewin, oherwydd hwy a anufuddhasant i’m gorchymyn i.
7A thi a fynegi iddynt, am baratoi ohonynt hwy i mi y ddaear a’r dwfr: canys myfi a af allan yn fy llid yn eu herbyn hwynt, ac a orchuddiaf holl wyneb y ddaear â thraed fy llu, a mi a’u rhoddaf hwynt yn ysglyfaeth iddynt:
8Fel y llanwo eu rhai archolledig hwy eu dyffrynnoedd a’u hafonydd hwynt; a’u llifeiriant a lifa trosodd, wedi ei lenwi â’u celaneddau hwynt.
9A mi a’u dygaf hwynt yn gaethion i eithafoedd yr holl ddaear.
10Gan hynny dos ymaith, a goresgyn i mi eu holl derfynau hwynt: ac os ymroddant i ti, ti a’u cedwi hwynt i mi, hyd ddydd eu cosbedigaeth.
11Ond am y rhai anufudd, nac arbeded dy lygad hwynt; eithr dyro hwynt i farwolaeth, ac yn ysbail trwy dy holl dir.
12Canys fel yr ydwyf fi yn fyw, ac myn gallu fy mrenhiniaeth, beth bynnag a ddywedais, myfi a’i cwblhaf â’m llaw.
13Na throsedda dithau yr un o orchmynion dy arglwydd, eithr cwblha hwynt yn llwyr, fel y gorchmynnais i ti, ac nac oeda eu gwneuthur hwynt.
14Yna Oloffernes a aeth allan o ŵydd ei arglwydd, ac a alwodd am yr holl benaethiaid, a thywysogion a swyddogion llu Assur.
15Ac efe a gyfrifodd y gwŷr etholedig i ryfel fel y gorchmynasai ei arglwydd iddo ef, hyd yn gant ac ugain mil, a deuddeng mil o saethyddion ar feirch.
16Ac efe a’u gosododd hwynt mewn trefn, fel y mae’r arfer o osod llu mawr mewn trefn.
17Ac efe a gymerth fintai fawr iawn o gamelod ac asynnod i ddwyn eu beichiau hwynt, a defaid, ac ychen, a geifr, yn lluniaeth iddynt, ar y rhai nid oedd rifedi:
18Ac ymborth i bob gŵr o’r fyddin, a llawer iawn o aur, ac arian, allan o dŷ’r brenin.
19Yna yr aeth efe a’i holl lu i ffordd, fel yr aent hwy o flaen y brenin Nabuchodonosor, ac y gorchuddient holl wyneb y ddaear tua’r gorllewin, â’u cerbydau, ac â’u gwŷr meirch, ac â’u gwŷr traed etholedig.
20A llawer o gymysg ddynion a ddaethant gyda hwynt, fel y ceiliogod rhedyn, ac fel tywod y ddaear: canys nid oedd rifedi arnynt, rhag maint oedd ohonynt.
21A hwy a aethant o Ninefe daith tri diwrnod, tua gwastadedd Bectileth, ac a wersyllasant oddi wrth Bectileth, yn gyfagos i’r mynydd sydd ar y llaw aswy i Cilicia uchaf,
22Yna efe a gymerth ei holl lu, ei wŷr traed a’i wŷr meirch, a’r cerbydau, ac a aeth oddi yno i’r mynydd-dir:
23Ac a ddinistriodd Phud, a Lud, ac a anrheithiodd holl feibion Rasses, a meibion Ismael, y rhai oedd tua’r anialwch, o du’r deau i wlad y Celiaid.
24Yna efe a aeth dros Ewffrates, ac a aeth trwy Mesopotamia, ac a ddinistriodd yr holl ddinasoedd uchel y rhai oedd ar afon Arbonai, hyd oni ddeuir i’r môr.
25Ac efe a oresgynnodd derfynau Cilicia, ac a ddistrywiodd yr holl rai a’i gwrthwynebent ef; ac efe a ddaeth i ardaloedd Jaffeth, y rhai oedd tua’r deau, ar gyfer Arabia.
26Efe a amgylchodd hefyd holl feibion Madian, ac a losgodd eu pebyll hwynt, ac a anrheithiodd eu lluestai.
27Yna efe a aeth i waered i wastadedd Damascus, yn nyddiau cynhaeaf y gwenith, ac a losgodd eu holl feysydd hwynt, ac a ddifethodd eu defaid a’u gwartheg hwynt; ac efe a anrheithiodd eu dinasoedd, ac a lwyr ysbeiliodd eu gwledydd, ac a laddodd eu holl wŷr ieuainc hwynt â min y cleddyf.
28Am hynny ofn a dychryn a syrthiodd ar holl drigolion y mordir, y rhai oedd yn Sidon, ac yn Tyrus, ac yn trigo yn Sur ac Ocina, a’r holl rai oedd yn preswylio yn Jemnaan: a phreswylwyr Asotus ac Ascalon a ofnasant rhagddo ef yn ddirfawr.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.