Exodus 21 - William Morgan Bible with Apocrypha, 1959 Edition

1Dyma y barnedigaethau a osodi di ger eu bron hwynt.

2Os pryni was o Hebread, gwasanaethed chwe blynedd; a’r seithfed y caiff yn rhad fyned ymaith yn rhydd.

3Os ar ei ben ei hun y daeth, ar ei ben ei hun y caiff fyned allan: os perchen gwraig fydd efe, aed ei wraig allan gydag ef.

4Os ei feistr a rydd wraig iddo, a hi yn planta iddo feibion, neu ferched; y wraig a’i phlant fydd eiddo ei meistr, ac aed efe allan ar ei ben ei hun.

5Ac os gwas gan ddywedyd a ddywed, Hoff gennyf fi fy meistr, fy ngwraig, a’m plant; nid af fi allan yn rhydd:

6Yna dyged ei feistr ef at y barnwyr; a dyged ef at y ddôr, neu at yr orsin: a thylled ei feistr ei glust ef â mynawyd; ac efe a’i gwasanaetha ef byth.

7Ac os gwerth gŵr ei ferch yn forwyn gaeth, ni chaiff hi fyned allan fel yr êl y gweision caeth allan.

8Os heb ryglyddu bodd yng ngolwg ei meistr y bydd hi, yr hwn a’i cymerodd hi yn ddyweddi; yna gadawed ei hadbrynu hi: ni bydd rhydd iddo ei gwerthu hi i bobl ddieithr, wedi iddo ef ei thwyllo hi.

9Ac os i’w fab y dyweddïodd efe hi, gwnaed iddi yn ôl deddf y merched.

10Ac os arall a brioda efe, na wnaed yn llai ei hymborth, ei dillad, na’i dyled priodas.

11Ac os y tri hyn nis gwna efe iddi; yna aed hi allan yn rhad heb arian.

12Rhodder i farwolaeth y neb a drawo ŵr, fel y byddo marw.

13Ond yr hwn ni chynllwynodd, ond rhoddi o DDUW ef yn ei law ef, mi a osodaf i ti fan lle y caffo ffoi.

14Ond os daw dyn yn rhyfygus ar ei gymydog, i’w ladd ef trwy dwyll; cymer ef i farwolaeth oddi wrth fy allor.

15Y neb a drawo ei dad, neu ei fam, rhodder ef i farwolaeth.

16Yr hwn a ladratao ddyn, ac a’i gwertho, neu os ceir ef yn ei law ef, rhodder ef i farwolaeth.

17Rhodder i farwolaeth yr hwn a felltithio ei dad, neu ei fam.

18A phan ymrysono dynion, a tharo o’r naill y llall â charreg, neu â dwrn, ac efe heb farw, ond gorfod iddo orwedd;

19Os cyfyd efe, a rhodio allan wrth ei ffon; yna y trawydd a fydd dihangol: yn unig rhodded ei golled am ei waith, a chan feddyginiaethu meddyginiaethed ef.

20Ac os tery un ei wasanaethwr, neu ei wasanaethferch, â gwialen, fel y byddo farw dan ei law ef; gan ddial dialer arno.

21Ond os erys ddiwrnod, neu ddau ddiwrnod, na ddialer arno; canys gwerth ei arian ei hun ydoedd efe.

22Ac os ymrafaelia dynion, a tharo ohonynt wraig feichiog, fel yr êl ei beichiogi oddi wrthi, ac heb fod marwolaeth: gan gosbi cosber ef, fel y gosodo gŵr y wraig arno; a rhodded hynny trwy farnwyr.

23Ac os marwolaeth fydd; rhodder einioes am einioes,

24Llygad am lygad, dant am ddant, llaw am law, troed am droed,

25Llosg am losg, archoll am archoll, a chlais am glais.

26Os tery un lygad ei wasanaethwr, neu lygad ei wasanaethferch, fel y llygro ef; gollynged ef yn rhydd am ei lygad:

27Ac os tyr efe ymaith ddant ei wasanaethwr, neu ddant ei wasanaethferch; gollynged ef yn rhydd am ei ddant.

28Ac os ych a gornia ŵr neu wraig, fel y byddo farw: gan labyddio llabyddier yr ych, ac na fwytaer ei gig ef; ac aed perchen yr ych yn rhydd.

29Ond os yr ych oedd yn cornio o’r blaen, a hynny trwy dystion wedi ei hysbysu i’w berchennog; ac efe heb ei gadw ef, ond lladd ohono ŵr neu wraig: yr ych a labyddir, a’i berchennog a roddir i farwolaeth hefyd.

30Os iawn a roddir arno, rhodded werth am ei einioes, yn ôl yr hyn oll a osoder arno.

31Os mab a gornia efe, neu ferch a gornia efe; gwneler iddo yn ôl y farnedigaeth hon.

32Ond os gwasanaethwr neu wasanaethferch a gornia yr ych; rhodded i’w perchennog ddeg sicl ar hugain o arian, a llabyddier yr ych.

33Ac os egyr gŵr bydew, neu os cloddia un bydew, ac heb gau arno; a syrthio yno ych, neu asyn;

34Perchen y pydew a dâl amdanynt: arian a dâl efe i’w perchennog; a’r anifail marw a fydd iddo yntau.

35Ac os ych gŵr a dery ych ei gymydog, fel y byddo efe farw; yna gwerthant yr ych byw, a rhannant ei werth ef, a’r ych marw a rannant hefyd.

36Neu os gwybuwyd ei fod ef yn ych hwyliog o’r blaen, a’i berchennog heb ei gadw ef; gan dalu taled ych am ych, a bydded y marw yn eiddo ef.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help