Deuteronomium 6 - William Morgan Bible with Apocrypha, 1959 Edition

1A dyma ’r gorchmynion, y deddfau, a’r barnedigaethau a orchmynnodd yr ARGLWYDD eich DUW eu dysgu i chwi; fel y gwneloch hwynt yn y wlad yr ydych yn myned iddi i’w meddiannu:

2Fel yr ofnech yr ARGLWYDD dy DDUW, gan gadw ei holl ddeddfau, a’i orchmynion ef, y rhai yr wyf fi yn eu gorchymyn i ti; ti, a’th fab, a mab dy fab, holl ddyddiau dy einioes: ac fel yr estynner dy ddyddiau.

3Clyw gan hynny, O Israel, ac edrych am eu gwneuthur hwynt; fel y byddo yn ddaionus i ti, ac fel y cynyddoch yn ddirfawr, fel yr addawodd ARGLWYDD DDUW dy dadau i ti, mewn gwlad yn llifeirio o laeth a mêl.

4Clyw, O Israel; yr ARGLWYDD ein DUW ni sydd un ARGLWYDD.

5Câr di gan hynny yr ARGLWYDD dy DDUW â’th holl galon, ac â’th holl enaid, ac â’th holl nerth.

6A bydded y geiriau hyn, yr ydwyf yn eu gorchymyn i ti heddiw, yn dy galon.

7A hysbysa hwynt i’th blant; a chrybwyll amdanynt pan eisteddych yn dy dŷ, a phan gerddych ar y ffordd, a phan orweddych i lawr, a phan gyfodych i fyny.

8A rhwym hwynt yn arwydd ar dy law; byddant yn rhactalau rhwng dy lygaid.

9Ysgrifenna hwynt hefyd ar byst dy dŷ, ac ar dy byrth.

10Ac fe a dderfydd, wedi i’r ARGLWYDD dy DDUW dy ddwyn di i’r wlad, (yr hon y tyngodd efe wrth dy dadau, wrth Abraham, wrth Isaac, ac wrth Jacob, ar ei rhoddi i ti,) i ddinasoedd mawrion a theg y rhai nid adeiledaist,

11A thai llawnion o bob daioni y rhai nis llenwaist, a phydewau cloddiedig y rhai nis cloddiaist, i winllannoedd ac olewyddlannau y rhai nis plennaist, wedi i ti fwyta, a’th ddigoni;

12Yna cadw arnat, rhag anghofio ohonot yr ARGLWYDD, yr hwn a’th ddug allan o wlad yr Aifft, o dŷ y caethiwed.

13Yr ARGLWYDD dy DDUW a ofni, ac ef a wasanaethi, ac i’w enw ef y tyngi.

14Na cherddwch ar ôl duwiau dieithr, o dduwiau y bobloedd sydd o’ch amgylch chwi:

15(Oblegid DUW eiddigus yw yr ARGLWYDD dy DDUW yn dy fysg di,) rhag i lid yr ARGLWYDD dy DDUW ennyn yn dy erbyn, a’th ddifetha di oddi ar wyneb y ddaear.

16Na themtiwch yr ARGLWYDD eich DUW, fel y temtiasoch ef ym Massa.

17Gan gadw cedwch orchmynion yr ARGLWYDD eich DUW, a’i dystiolaethau, a’i ddeddfau, y rhai a orchmynnodd efe i ti.

18A gwna yr hyn sydd uniawn a daionus yng ngolwg yr ARGLWYDD: fel y byddo da i ti, a myned ohonot i mewn, a pherchenogi’r wlad dda, yr hon trwy lw a addawodd yr ARGLWYDD i’th dadau di;

19Gan yrru ymaith dy holl elynion o’th flaen, fel y llefarodd yr ARGLWYDD.

20Pan ofynno dy fab i ti wedi hyn, gan ddywedyd, Beth yw y tystiolaethau, a’r deddfau, a’r barnedigaethau, a orchmynnodd yr ARGLWYDD ein DUW i chwi?

21Yna dywed wrth dy fab, Ni a fuom gaethweision i Pharo yn yr Aifft; a’r ARGLWYDD a’n dug ni allan o’r Aifft â llaw gadarn.

22Rhoddes yr ARGLWYDD hefyd arwyddion a rhyfeddodau mawrion a niweidiol, ar yr Aifft, ar Pharo a’i holl dŷ, yn ein golwg ni;

23Ac a’n dug ni allan oddi yno, fel y dygai efe nyni i mewn, i roddi i ni y wlad yr hon trwy lw a addawsai efe i’n tadau ni.

24A’r ARGLWYDD a orchmynnodd i ni wneuthur yr holl ddeddfau hyn, i ofni yr ARGLWYDD ein DUW, er daioni i ni yr holl ddyddiau; fel y cadwai efe nyni yn fyw, megis y mae y dydd hwn.

25A chyfiawnder a fydd i ni, os ymgadwn i wneuthur y gorchmynion hyn oll, o flaen yr ARGLWYDD ein DUW, fel y gorchmynnodd efe i ni.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help