Nahum 2 - William Morgan Bible with Apocrypha, 1959 Edition

1Daeth y chwalwr i fyny o flaen dy wyneb: cadw yr amddiffynfa, gwylia y ffordd, nertha dy lwynau, cadarnha dy nerth yn fawr.

2Canys dychwelodd yr ARGLWYDD ardderchowgrwydd Jacob, fel ardderchowgrwydd Israel: canys y dihysbyddwyr a’u dihysbyddodd hwynt, ac a lygrasant eu cangau gwinwydd.

3Tarian ei wŷr grymus a liwiwyd yn goch, ei wŷr o ryfel a wisgwyd ag ysgarlad; y cerbydau fyddant gyda lampau tanllyd y dydd y byddo ei arlwy, a’r ffynidwydd a ysgydwir yn aruthrol.

4Y cerbydau a gynddeiriogant yn yr heolydd, trawant wrth ei gilydd yn y priffyrdd: eu gwelediad fydd fel fflamau, ac fel mellt y saethant.

5Efe a gyfrif ei weision gwychion; tramgwyddant wrth gerdded; prysurant at ei chaer hi, a’r amddiffyn a baratoir.

6Pyrth y dwfr a agorir, a’r palas a ymddetyd.

7A Hussab a gaethgludir, dygir hi i fyny, a’i morynion yn ei harwain megis â llais colomennod, yn curo ar eu dwyfronnau.

8A Ninefe sydd er ys dyddiau fel llyn o ddwfr: ond hwy a ffoant. Sefwch, sefwch, meddant; ac ni bydd a edrycho yn ôl.

9Ysglyfaethwch arian, ysglyfaethwch aur; canys nid oes diben ar yr ystôr, a’r gogoniant o bob dodrefn dymunol.

10Gwag, a gorwag, ac anrheithiedig yw hi, a’r galon yn toddi, a’r gliniau yn taro ynghyd, ac anhwyl ar bob lwynau, a’u hwynebau oll a gasglant barddu.

11Pa le y mae trigfa y llewod, a phorfa cenawon y llewod? lle y rhodiai y llew, sef yr hen lew, a’r cenau llew, ac nid oedd a’u tarfai?

12Y llew a ysglyfaethodd ddigon i’w genawon, ac a dagodd i’w lewesau, ac a lanwodd ag ysglyfaeth ei ffau, a’i loches ag ysbail.

13Wele fi yn dy erbyn, medd ARGLWYDD y lluoedd; a mi a losgaf ei cherbydau yn y mwg, a’r cleddyf a ddifa dy lewod ieuainc; a thorraf ymaith o’r ddaear dy ysglyfaeth, ac ni chlywir mwy lais dy genhadau.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help