I Esdras 6 - William Morgan Bible with Apocrypha, 1959 Edition

PENNOD 6

1Ac yn yr ail flwyddyn o deyrnasiad Dareius, Aggeus a Sachareias mab Ido, y proffwydi, a broffwydasant i’r Iddewon, yn Jwdea, a Jerwsalem, yn enw Arglwydd Dduw Israel, yr hwn oedd arnynt.

2Yna Sorobabel mab Salathiel a Jesus mab Josedec a safasant i fyny, ac a ddechreuasant adeiladu tŷ’r Arglwydd yn Jerwsalem: proffwydi’r Arglwydd oedd gyda hwynt, ac yn eu cynorthwyo.

3Yn y cyfamser hwnnw Sisinnes llywiawdwr Syria a Phenice, a Sathrabusanes a’i gyfeillion, a ddaethant atynt hwy, ac a ddywedasant wrthynt,

4Trwy orchymyn pwy yr ydych chwi’n adeiladu’r tŷ hwn, a’r adeilad yma, ac yn gwneuthur yr holl bethau eraill? a phwy yw’r gweithwyr sy’n gwneuthur y pethau hyn?

5Eto henuriaid yr Iddewon a gawsent ffafr; gan i’r Arglwydd ymweled â’r caethiwed:

6Ac ni rwystrwyd hwynt i adeiladu, nes hysbysu i Dareius y pethau hyn, a chael ateb oddi wrtho ef.

7Copi’r llythyrau a sgrifennodd ac a anfonodd Sisinnes llywiawdwr Syria a Phenice, a Sathrabusanes, a’u cyfeillion, rheolwyr yn Syria a Phenice, at Dareius; Annerch i’r brenin Dareius:

8Bydded y cwbl yn hysbys i’n harglwydd frenin; pan ddaethom ni i wlad Jwdea, a myned i mewn i ddinas Jerwsalem, ni a gawsom yn ninas Jerwsalem henuriaid yr Iddewon y rhai oedd o’r gaethglud,

9Yn adeiladu tŷ’r Arglwydd, mawr a newydd, o gerrig nadd a gwerthfawr, a’r coed wedi eu gosod eisoes ar y magwyrydd.

10Ac yr ydys yn gwneuthur y gwaith hwn ar frys, ac y mae’r gwaith yn myned rhagddo’n llwyddiannus yn eu dwylo hwynt, ac â phob gogoniant a diwydrwydd y gweithir ef.

11Yna ni a ofynasom i’r henuriaid hyn, gan ddywedyd, Trwy orchymyn pwy yr ydych chwi yn adeiladu’r tŷ hwn, ac yn sylfaenu’r gwaith yma?

12Am hynny fel yr hysbysem i ti mewn ysgrifen, nyni a ofynasom iddynt pwy oedd y gweithwyr pennaf, ac a geisiasom ganddynt enwau eu gwŷr pennaf yn ysgrifenedig.

13Ond hwy a’n hatebasant ni, Gweision ydym ni i’r Arglwydd, yr hwn a greodd y nefoedd a’r ddaear.

14A am y tŷ hwn, efe a adeiladwyd er ys llawer o flynyddoedd gan frenin o Israel, mawr a chadarn, ac a orffennwyd.

15Ond pan anogodd ein tadau ni Dduw i ddicllonedd, a phan bechasant yn erbyn Arglwydd Israel, yr hwn sydd yn y nefoedd, efe a’u rhoddes hwynt yn nwylo Nabuchodonosor brenin Babilon y Caldeaid,

16Y rhai a dynasant y tŷ i lawr, ac a’i llosgasant ef, ac a gaethgludasant y bobl i Babilon.

17Ond yn y flwyddyn gyntaf o deyrnasiad Cyrus ar wlad Babilon, y brenin Cyrus a sgrifennodd am adeiladu’r tŷ hwn.

18A’r llestri sanctaidd o aur ac o arian, y rhai a ddygasai Nabuchodonosor allan o’r tŷ yn Jerwsalem, ac a’u gosodasai yn ei deml ei hun, Cyrus y brenin a’u dug hwynt drachefn allan o’r deml yn Babilon, ac a’u rhoddodd hwynt i Sorobabel ac i Sanabassarus y llywiawdwr;

19Gan orchymyn iddo ef ddwyn ymaith y llestri hynny, a’u gosod hwynt o fewn y deml yn Jerwsalem, ac adeiladu teml yr Arglwydd yn ei chyfle.

20A phan ddaeth y Sanabassarus hwnnw yma, efe a sylfaenodd dŷ’r Arglwydd yn Jerwsalem; ac er y pryd hynny hyd yr awr hon yr ydys yn ei adeiladu, ac nis gorffennwyd ef eto.

21Ac yn awr, o rhynga bodd i’r brendin, chwilier ymysg coflyfrau’r brenin Cyrus:

22Ac o cheir bod adeiladaeth tŷ’r Arglwydd yn Jerwsalem wedi ei gwneuthur trwy gytundeb y brenin Cyrus, ac o rhynga bodd i’r arglwydd ein brenin, hysbysed i ni am y peth hyn.

23Yna y brenin Dareius a orchmynnodd chwilio ymysg y coflyfrau yn Babilon; ac fe a gafwyd yn Ecbatana, y llys sydd yng ngwlad Media, fan lle yr oedd y pethau hyn yn ysgrifenedig.

24Yn y flwyddyn gyntaf o deyrnasiad Cyrus, y brenin Cyrus a orchmynnodd adeiladu tŷ’r Arglwydd yn Jerwsalem, lle yr aberthant â thân gwastadol;

25Uchder yr hwn fydd drigain cufydd, a’i led yn drigain cufydd, a thair rhes o gerrig nadd, ac un rhes o goed newydd o’r wlad honno: a’r draul a roddir o dŷ’r brenin Cyrus.

26A’r llestri sanctaidd o dŷ’r Arglwydd, yn aur ac arian, y rhai a gymerth Nabuchodonosor ymaith o’r tŷ yn Jerwsalem, ac a’u dug i Babilon, eu rhoddi drachefn i’r tŷ yn Jerwsalem, a’u gosod yn y fan lle’r oeddynt.

27Hefyd efe a orchmynnodd i Sisinnes llywiawdwr Syria a Phenice, ac i Sathrabusanes a’u cyfeillion, ac i’r rhai oedd wedi eu gosod yn llywodraethwyr yn Syria a Phenice, wylied nad ymyrrent â’r fan honno, eithr gadael i Sorobabel gwas yr Arglwydd, a llywydd Jwdea, ac i henuriaid yr Iddewon, adeiladu tŷ’r Arglwydd yn y fan honno.

28Myfi a orchmynnais hefyd ei adeiladu ef yn gyfan eilwaith, ac iddynt hwy fod yn astud i gynorthwyo’r rhai oedd o gaethglud yr Iddewon, nes gorffen tŷ’r Arglwydd:

29A rhoddi dogn allan o deyrnged Celo-Syria a Phenice yn ddyfal i’r gwŷr hyn tuag at ebyrth i’r Arglwydd, ac i Sorobabel y llywydd tuag at fustych, a hyrddod, ac ŵyn;

30Ŷd hefyd, halen, gwin, ac olew; a hynny yn wastadol bob blwyddyn, heb ymofyn ymhellach, fel y tystiolaetho’r offeiriaid sydd yn Jerwsalem fod yn ei dreulio beunydd;

31Fel yr offrymont beunydd i Dduw goruchaf dros y brenin, a thros ei blant, ac y gweddïont gyda’u heinioes hwynt.

32Efe a orchmynnodd hefyd am bwy bynnag a droseddai ddim a’r a ddywetbwyd neu a’r a sgrifennwyd uchod, neu a ddirmygai ddim o hynny, gymryd pren allan o’i dŷ ef ei hun, a’i grogi ef arno, a bod ei gyfoeth ef yn eiddo’r brenin.

33Am hynny’r Arglwydd, yr hwn yr ydys yn galw ar ei enw yno, a ddistrywio bob brenin a chenedl a’r a estynno ei law i luddias neu i wneuthur niwed i dŷ’r Arglwydd, yr hwn sydd yn Jerwsalem.

34Myfi y brenin Dareius a orchmynnais wneuthur yn ddiwyd yn y pethau hyn.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help