1Felly y dygasant hwy arch DUW i mewn, ac a’i gosodasant hi yng nghanol y babell a osodasai Dafydd iddi hi: a hwy a offrymasant offrymau poeth ac ebyrth hedd gerbron DUW.
2Ac wedi i Dafydd orffen aberthu offrymau poeth ac ebyrth hedd, efe a fendithiodd y bobl yn enw yr ARGLWYDD.
3Ac efe a rannodd i bob un o Israel, yn ŵr ac yn wraig, dorth o fara, a dryll o gig, a chostrelaid o win.
4Ac efe a osododd gerbron arch yr ARGLWYDD weinidogion o’r Lefiaid, i gofio, ac i foliannu, ac i glodfori ARGLWYDD DDUW Israel.
5Asaff oedd bennaf, ac yn ail iddo ef Sechareia, Jeiel, a Semiramoth, a Jehiel, a Matitheia, ac Eliab, a Benaia, ac Obed-edom: a Jeiel ag offer nablau, a thelynau; ac Asaff oedd yn lleisio â symbalau.
6Benaia hefyd a Jahasiel yr offeiriaid oedd ag utgyrn yn wastadol o flaen arch cyfamod DUW.
7Yna y dydd hwnnw y rhoddes Dafydd y salm hon yn gyntaf i foliannu yr ARGLWYDD, yn llaw Asaff a’i frodyr.
8Moliennwch yr ARGLWYDD, gelwch ar ei enw ef, hysbyswch ei weithredoedd ef ymhlith y bobloedd.
9Cenwch iddo, clodforwch ef, ymadroddwch am ei holl ryfeddodau.
10Ymlawenychwch yn ei enw sanctaidd ef; ymhyfryded calon y sawl a geisiant yr ARGLWYDD.
11Ceiswch yr ARGLWYDD a’i nerth ef, ceisiwch ei wyneb ef yn wastadol.
12Cofiwch ei wyrthiau y rhai a wnaeth efe, ei ryfeddodau, a barnedigaethau ei enau;
13Chwi had Israel ei was ef, chwi feibion Jacob ei etholedigion ef.
14Efe yw yr ARGLWYDD ein DUW ni; ei farnedigaethau ef sydd trwy yr holl ddaear.
15Cofiwch yn dragywydd ei gyfamod; y gair a orchmynnodd efe i fil o genedlaethau;
16Yr hwn a gyfamododd efe ag Abraham, a’i lw i Isaac:
17Ac a osododd efe yn ddeddf i Jacob, ac yn gyfamod tragwyddol i Israel,
18Gan ddywedyd, I ti y rhoddaf dir Canaan, rhandir eich etifeddiaeth.
19Pan nad oeddech ond ychydig, ie, ychydig, a dieithriaid ynddi;
20A phan rodient o genhedlaeth i genhedlaeth, ac o un frenhiniaeth at bobl eraill;
21Ni adawodd efe i neb eu gorthrymu: ond efe a geryddodd frenhinoedd o’u plegid hwy, gan ddywedyd,
22Na chyffyrddwch â’m heneiniog, ac na ddrygwch fy mhroffwydi.
23Cenwch i’r ARGLWYDD yr holl ddaear: mynegwch o ddydd i ddydd ei iachawdwriaeth ef.
24Adroddwch ei ogoniant ef ymhlith y cenhedloedd; a’i wyrthiau ymhlith yr holl bobloedd.
25Canys mawr yw yr ARGLWYDD, a chanmoladwy iawn: ofnadwy hefyd yw efe goruwch yr holl dduwiau.
26Oherwydd holl dduwiau y bobloedd ydynt eilunod; ond yr ARGLWYDD a wnaeth y nefoedd.
27Gogoniant a harddwch sydd ger ei fron ef: nerth a gorfoledd yn ei fangre ef.
28Moeswch i’r ARGLWYDD, chwi deuluoedd y bobloedd, moeswch i’r ARGLWYDD ogoniant a nerth.
29Moeswch i’r ARGLWYDD ogoniant ei enw: dygwch aberth, a deuwch ger ei fron ef; ymgrymwch i’r ARGLWYDD mewn prydferthwch sancteiddrwydd.
30Ofnwch rhagddo ef yr holl ddaear: y byd hefyd a sicrheir, fel na syflo.
31Ymlawenyched y nefoedd, ac ymhyfryded y ddaear; a dywedant ymhlith y cenhedloedd, Yr ARGLWYDD sydd yn teyrnasu.
32Rhued y môr a’i gyflawnder; llawenhaed y maes, a’r hyn oll y sydd ynddo.
33Yna prennau y coed a ganant o flaen yr ARGLWYDD, am ei fod yn dyfod i farnu y ddaear.
34Clodforwch yr ARGLWYDD; canys da yw: oherwydd ei drugaredd sydd yn dragywydd.
35A dywedwch, Achub ni, O DDUW ein hiachawdwriaeth, casgl ni hefyd, a gwared ni oddi wrth y cenhedloedd, i foliannu dy enw sanctaidd di, ac i ymogoneddu yn dy foliant.
36Bendigedig fyddo ARGLWYDD DDUW Israel, o dragwyddoldeb hyd dragwyddoldeb. A dywedodd yr holl bobl, Amen, gan foliannu yr ARGLWYDD.
37Ac efe a adawodd yno, o flaen arch cyfamod yr ARGLWYDD, Asaff a’i frodyr, i weini gerbron yr arch yn wastadol, gwaith dydd yn ei ddydd:
38Ac Obed-edom a’u brodyr, wyth a thrigain; Obed-edom hefyd mab Jeduthun, a Hosa, i fod yn borthorion:
39Sadoc yr offeiriad, a’i frodyr yr offeiriaid, o flaen tabernacl yr ARGLWYDD, yn yr uchelfa oedd yn Gibeon,
40I offrymu poethoffrymau i’r ARGLWYDD ar allor y poethoffrwm yn wastadol fore a hwyr, yn ôl yr hyn oll sydd ysgrifenedig yng nghyfraith yr ARGLWYDD, yr hon a orchmynnodd efe i Israel:
41A chyda hwynt Heman, a Jedwthwn, a’r etholedigion eraill, y rhai a hysbysasid wrth eu henwau, i foliannu yr ARGLWYDD, am fod ei drugaredd ef yn dragywydd:
42A chyda hwynt Heman, a Jedwthwn, yn lleisio ag utgyrn, ac â symbalau i’r cerddorion, ac offer cerdd DUW: a meibion Jedwthwn oedd wrth y porth.
43A’r holl bobl a aethant bob un i’w dŷ ei hun: a Dafydd a ddychwelodd i fendigo ei dŷ yntau.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.