1Na ddymuna liaws o blant anfuddiol; ac na fydd lawen o blant annuwiol.
2Os amlhânt, na fydd lawen ohonynt, oni bydd ofn yr Arglwydd gyda hwynt.
3Nac ymddiried i’w heinioes hwynt, ac na hydera ar eu lluosowgrwydd: canys gwell yw un cyfiawn na mil, a gwell yw marw heb blant na chael plant annuwiol.
4Canys trwy un synhwyrol y gwneir y ddinas yn gyfannedd; ond tylwyth yr annuwiol a â yn anghyfannedd.
5Llawer o’r fath hyn a welodd fy llygad i; a’m clust a glywodd bethau mwy na hyn.
6Yng nghynulleidfa pechaduriaid y cynnau tân, ac mewn cenedl wrthryfelgar y llysg digofaint.
7Ni bu efe fodlon i’r hen gewri, y rhai a ymadawsant yng nghryfder eu ffolineb.
8Nid arbedodd efe le ymdaith Lot; eithr ffieiddiodd hwynt am eu balchder.
9Ni thrugarhaodd efe wrth genedl distryw, y rhai a aethant allan yn eu pechodau a wnaethant;
10Na’r chwe chan mil o wŷr traed, y rhai a gasglesid yng nghaledwch eu calonnau.
11Ac o bydd un gwarsyth ymysg y bobl, rhyfedd yw os dianc efe yn ddigerydd: canys gydag ef y mae trugaredd a digofaint: y mae efe yn alluog i faddau, ac i dywallt digofaint.
12Yn ôl amldra ei drugaredd y bydd ei argyhoeddiad ef: yn ôl ei weithredoedd y barna efe ŵr.
13Ni ddianc pechadur â’i anrhaith; ac ni phalla amynedd y duwiol.
14Dod le i bob elusen: oblegid pob un a gaiff yn ôl ei weithredoedd.
15Yr Arglwydd a galedodd Pharo, fel nad adwaenai efe ef, fel y byddai ei rym ef yn hysbys i’r byd.
16Ei drugaredd ef sydd amlwg i bob creadur: ag adamant y gwahanodd efe ei oleuni a’r tywyllwch.
17Na ddywed, Rhag yr Arglwydd yr ymguddiaf: a phwy o’r uchelder a’m cofia? ymysg pobl lawer ni’m cofir i: canys beth yw fy enaid i ymysg creaduriaid mor aneirif?
18Wele, y nef, ie, nef y nefoedd, y dyfnder, a’r ddaear, a’r hyn sydd ynddynt hwy, a siglant, pan ofwyo efe.
19Y mynyddoedd, a seiliau’r ddaear, pan edrychai’r Arglwydd arnynt, a gydysgydwent, dan grynu.
20Ni all calon feddwl am y pethau hyn yn addas: a phwy a all ddeall ei ffyrdd ef?
21Tymestl yw hi, yr hon ni all neb ei gweled; canys y rhan fwyaf o’i waith ef sy guddiedig.
22Pwy a draetha, neu a ddioddef, weithredoedd ei gyfiawnder ef? oherwydd pell yw ei gyfamod, a holi pob peth a fydd yn y diwedd.
23Y disynnwyr a feddwl am bethau ofer; a’r gŵr angall cyfeiliornus sydd yn meddwl pethau ffôl.
24Gwrando arnaf fi, fy mab, a dysg wybodaeth; ac ar fy ngeiriau i gwylia â’th galon.
25Mi a ddangosaf addysg wrth bwys, ac a draethaf yn ofalus am ei wybodaeth ef.
26Wrth farn y gwnaed gweithredoedd yr Arglwydd o’r dechreuad; ac efe a ddosbarthodd eu rhannau er pan wnaed hwynt.
27Efe a addurnodd ei weithredoedd byth; y mae y rhai pennaf ohonynt yn ei law ef byth bythol: ni newynasant, ac ni flinasant, ac ni pheidiasant â’u gwaith.
28Ni rwystra’r naill ohonynt y llall; ac ni anufuddhânt ei air ef byth.
29Wedi hyn yr edrychodd yr Arglwydd ar y ddaear, ac efe a’i llanwodd hi â’i ddaioni.
30Y mae efe yn gorchuddio ei hwyneb hi â phob peth byw: ac iddi hi y maent hwy yn dychwelyd drachefn.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.