1A phan ddarfu i mi ddywedyd y geiriau hyn, danfonwyd ataf yr angel a ddanfonasid ataf y nosweithiau o’r blaen;
2A dywedodd wrthyf, Cyfod, Esdras, a gwrando’r geiriau y deuthum i’w mynegi i ti.
3A dywedais innau, Dywed, fy Nuw. Ac efe a ddywedodd wrthyf, Y môr a osodwyd mewn lle eang, fel y byddo efe yn ddwfn, ac yn fawr.
4Eithr bwrw fod mynediad cyfyng i mewn iddo, ac yn debyg i afon:
5Pwy wrth hynny a allai fyned i’r môr i edrych arno ef, ac i’w lywodraethu? os efe nid âi trwy’r lle cyfyng, pa fodd y gallai efe ddyfod i’r lle eang?
6Hefyd drachefn; Dinas a adeiladwyd ac o osodwyd ar faes gwastad, ac y mae hi yn llawn o bob peth da.
7Y mynediad i mewn iddi sy gul, wedi ei osod mewn lle enbyd i syrthio; fel pe byddai dân ar y llaw ddeau, a dwfr dwfn ar y llaw aswy,
8Ac un llwybr yn unig rhyngddynt ill dau, sef rhwng y tân a’r dwfr, cyn lleied ag nas gall ond un dyn fyned yno ar unwaith.
9Yr awron, pe rhoddid y ddinas hon i ŵr yn etifeddiaeth, os efe nid â fyth trwy’r perygl a osodwyd o’i blaen hi, pa fodd y derbyn efe’r etifeddiaeth hon?
10A dywedais, Felly y mae, Arglwydd. Ac efe a ddywedodd wrthyf, Felly hefyd y mae rhan Israel.
11Canys er eu mwyn hwy y gwneuthum i y byd: a phan dorrodd Adda fy ngorchmynion i, yna yr ordeiniwyd y peth sydd yn awr wedi ei wneuthur.
12Yna y gwnaethpwyd mynediadau i mewn i’r byd hwn yn gyfyng, yn llawn tristwch a llafur, yn ychydig, yn ddrwg, yn llawn perygl a phoen.
13Canys dechreuad y byd hynaf oedd eang a diberygl, ac yn dwyn ffrwyth anfarwol.
14Gan hynny os y rhai sy fyw nid ymegnïant i fyned i mewn trwy’r cyfyng a’r ofer bethau hyn, nis gallant byth dderbyn y pethau a roddwyd i gadw iddynt.
15Wrth hynny paham y’th aflonyddi dy hun, gan dy fod yn llygredig? a phaham y cynhyrfi, gan dy fod yn farwol?
16Paham nad wyt yn ystyried yn dy galon y peth sydd i ddyfod, yn hytrach na’r peth sy bresennol?
17Atebais innau, a dywedais, O Arglwydd lywydd, wele, ti a ordeiniaist trwy dy gyfraith i’r rhai cyfiawn feddiannu’r pethau hyn, ac i’r anghyfiawn fethu.
18Er hynny y cyfiawn a ddioddefant gyfyngder, ac a obeithiant ehangder: a’r sawl a wnaeth anghyfiawnder a ddioddefasant gyfyngder, ac ni chânt weled ehangder.
19Ac efe a ddywedodd wrthyf, Nid oes farnwr uwchlaw Duw, na neb yn deall yn well na’r Goruchaf:
20Canys llawer a gollir yn y bywyd hwn, o achos diystyru cyfraith Dduw, yr hon sydd wedi ei gosod o’u blaen hwynt;
21Canys gan orchymyn y gorchmynnodd Duw i’r rhai a ddaeth, ie, fel y daethant, pa beth a wnaent i fyw, a pha beth a gadwent, fel nas ceryddid hwynt.
22Er hynny nid ufuddhasant iddo ef, ond dywedyd a wnaethant yn ei erbyn ef, a meddwl oferedd.
23A chan eu hamgylchu eu hun â’u beiau, hwy a ddywedasant am y Goruchaf, nad oedd efe; ac nid adnabuant ei ffyrdd ef;
24Ond ei gyfraith ef a ddiystyrasant, a gwadasant ei gyfamodau ef, ac ni buant ffyddlon yn ei gyfreithiau ef, ac ni chyflawnasant ei weithredoedd ef.
25Am hyn, Esdras, i’r gwag y mae’r pethau gweigion, ac i’r llawn y pethau llawnion.
26Ac wele, yr amser a ddaw, y cyflawnir yr arwyddion a ddywedais i ti, a’r briodasferch a ymddengys, a hi a welir yn dyfod allan, yr hon sydd yn awr wedi ei thynnu oddi ar y ddaear.
27A phawb a’r a ddihango oddi wrth y drygioni uchod, a gaiff weled fy rhyfeddodau i;
28Canys fy mab Iesu, a’r rhai sydd gydag ef, a ddatguddir; a’r rhai a adewir a lawenychant o fewn pedwar cant o flynyddoedd.
29Yn ôl y blynyddoedd hyn y bydd marw fy mab Crist, a phob dyn byw.
30A’r byd a droir i’r hen ddistawrwydd saith niwrnod, fel yn y barnedigaethau cyntaf; fel na adawer neb.
31A digwydd, yn ôl saith niwrnod, y cyfodir y byd hwn sydd eto heb ddeffro, a’r peth llygredig a fydd marw.
32A’r ddaear a ddyry drachefn y rhai sydd yn cysgu ynddi, a’r llwch y rhai sydd yn aros ynddo mewn distawrwydd, a’r celloedd yr eneidiau a roddwyd iddynt hwy.
33A cheir gweled y Goruchaf ar orseddfainc barn, a phob trueni a â ymaith, a dioddefgarwch a gaiff ddiben.
34Ond barn yn unig a erys, y gwirionedd a saif, a ffydd a gryfha:
35A’r weithred a ganlyn, a’r gwobr a ddangosir, a’r gweithredoedd da a fyddant mewn grym, a gweithredoedd drwg ni lywodraethant.
36A mi a ddywedais, Yn gyntaf Abraham a weddïodd dros y Sodomiaid, a Moses dros y tadau a bechasant yn yr anialwch;
37A Jesus ar ei ôl yntau dros Israel yn amser Achan;
38A Samuel a Dafydd dros y dinistr, a Salomon dros y rhai oedd i ddyfod i’r cysegr;
39A Helias dros y rhai a gawsant law, a thros y marw, er cael ohono fyw;
40Ac Eseceias dros y bobl yn amser Senacherib, a llawer dros laweroedd.
41Felly yn awr gan fod llygredigaeth wedi tyfu, ac anwiredd wedi amlhau, a gweddïo o’r cyfiawn dros yr annuwiol; paham na bydd felly yr awr hon hefyd?
42Ac efe a’m hatebodd, gan ddywedyd, Nid y bywyd presennol hwn yw’r diwedd, lle mae gogoniant lawer yn aros: am hynny y gweddiasant dros y gweiniaid.
43Eithr dydd y farn a fydd diwedd yr amser hwn, a dechreuad yr anfarwoldeb sydd i ddyfod, yn yr hwn y diflannodd pob llygredigaeth,
44Y dibennwyd anghymedroldeb, y torrwyd ymaith anffyddlondeb, y tyfodd cyfiawnder, ac y blagurodd gwirionedd.
45Y pryd hynny nis gall neb achub yr hwn a gollwyd, na gorthrymu’r neb a orchfygodd.
46Ac mi a atebais, gan ddywedyd, Dyma’r gair a ddywedais yn gyntaf, ac yn ddiwethaf, mai gwell a fuasai na roddasid y ddaear i Adda, neu, pan roddwyd hi, lestair iddo bechu:
47Canys pa lesâd i ddynion fyw yn y byd presennol hwn mewn trymder, ac yn ôl marwolaeth disgwyl am gosbedigaeth?
48O dydi Adda, pa beth a wnaethost? er i ti bechu, nid yw hynny yn gwymp i ti dy hun yn unig, ond i ninnau oll, y rhai a ddaethom ohonot ti.
49Canys pa les i ni, os addawyd i ni amser tragwyddol, a ninnau wedi gwneuthur y gweithredoedd a ddygant i farwolaeth?
50Ac er addo i ni obaith tragwyddol, ninnau wedi myned yn annuwiol iawn a wnaethpwyd yn ofer?
51Ac er darparu i ni drigfannau iechyd a diogelwch, a ninnau yn byw yn annuwiol?
52Ac er darparu gogoniant y Goruchaf i amddiffyn y rhai a fuant fyw yn ddioddefgar, a ninnau yn rhodio ar hyd y ffyrdd annuwiolaf o gwbl?
53Ac er dangos i ni Baradwys a’i ffrwyth yn parhau yn dragwyddol, yn yr hwn y mae diogelwch a meddyginiaeth, a ninnau heb gael myned i mewn iddi?
54(Canys rhodio a wnaethom mewn lleoedd anhawddgar.)
55Ac er disgleirio o wynebau y rhai a arferasant ddirwest, yn oleuach na’r sêr, a’n hwynebau ninnau yn dduach na’r tywyllwch?
56Canys tra fuom fyw, ac yn gwneuthur anwiredd, ni feddyliasom ni y caem ddioddef am hynny yn ôl marwolaeth.
57Ac efe a atebodd, gan ddywedyd, Dyma ddull yr ymdrech a ymdrecha’r dyn a aner ar y ddaear;
58Fel, os gorchfygir ef, y caffo ddioddef yr hyn a ddywedaist; ond os efe a orchfyga, y caffo dderbyn y peth a ddywedaf.
59Canys hon yw’r einioes, am yr hon y dywedodd Moses, pan ddaeth efe at y bobl, gan ddywedyd, Dewis i ti einioes, fel y byddech byw.
60Er hynny ni choeliasant ef, na’r proffwydi ar ei ôl ef, na minnau chwaith, yr hwn a ddywedais wrthynt,
61Na byddai y fath drymder yn eu dinistr hwy, ac y bydd llawenydd ar y rhai a berswadiwyd i iachawdwriaeth.
62Mi a atebais, gan ddywedyd, Gwn, Arglwydd, mai trugarog y gelwir y Goruchaf, am ei fod yn drugarog i’r rhai ni ddaethant eto i’r byd,
63Ac yn drugarog wrth y rhai hefyd a droant at ei gyfraith ef;
64A’i fod yn ddioddefgar ac yn hirymarhous wrth y rhai a bechasant, megis wrth ei greaduriaid;
65A’i fod yn hael; canys y mae yn barod i roddi, lle mae rhaid;
66A’i fod yn fawr ei drugaredd; canys y mae yn amlhau ei drugareddau fwyfwy tuag at y rhai presennol, a’r rhai a basiodd, a’r rhai a ddaw.
67Canys os efe ni amlha ei drugareddau, ni pharhâi y byd gyda’r rhai a etifeddant ynddo.
68Hefyd, efe a faddau: canys oni wnâi efe felly o’i ddaioni, fel y byddai i’r rhai a wnaethant anwireddau gael esmwythdra oddi wrthynt, ni fyddai fyw y ddeg filfed ran o ddynion.
69Ac oni bai iddo ef, yr hwn sydd Farnwr, faddau i’r rhai a iachawyd trwy ei air ef, a dileu eu haml ymrysonion,
70Ysgatfydd ychydig iawn a adewid mewn lliaws aneirif.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.