Numeri 4 - William Morgan Bible with Apocrypha, 1959 Edition

1A’r ARGLWYDD a lefarodd wrth Moses, ac wrth Aaron, gan ddywedyd,

2Cymer nifer meibion Cohath o blith meibion Lefi, wrth eu teuluoedd, yn ôl tŷ eu tadau;

3O fab deng mlwydd ar hugain ac uchod, hyd fab deng mlwydd a deugain, pob un a elo i’r llu, i wneuthur gwasanaeth ym mhabell y cyfarfod.

4Dyma weinidogaeth meibion Cohath, ym mhabell y cyfarfod, ynghylch y pethau sancteiddiolaf.

5A deued Aaron a’i feibion, pan gychwynno’r gwersyll, a thynnant i lawr y wahanlen orchudd, a gorchuddiant â hi arch y dystiolaeth;

6A gosodant ar hynny do o grwyn daearfoch, a thaenant arni wisg o sidan glas i gyd, a gosodant ei throsolion wrthi.

7Ac ar fwrdd y bara dangos y taenant frethyn glas, a gosodant ar hynny y dysglau, a’r cwpanau, a’r ffiolau, a’r caeadau i gau: a bydded y bara bob amser arno.

8A thaenant arnynt wisg o ysgarlad, a gorchuddiant hwnnw â gorchudd o groen daearfoch, a gosodant ei drosolion wrtho.

9Cymerant hefyd wisg o sidan glas, a gorchuddiant ganhwyllbren y goleuni, a’i lampau, a’i efeiliau, a’i gafnau, a holl lestri yr olew, y rhai y gwasanaethant ef â hwynt.

10A gosodant ef a’i holl ddodrefn mewn gorchudd o groen daearfoch, a gosodant ef ar drosol.

11A thaenant frethyn glas ar yr allor aur, a gorchuddiant hi â gorchudd o groen daearfoch, a gosodant ei throsolion wrthi.

12Cymerant hefyd holl ddodrefn y gwasanaeth, y rhai y gwasanaethant â hwynt yn y cysegr, a rhoddant mewn brethyn glas, a gorchuddiant hwynt mewn gorchudd o groen daearfoch, a gosodant ar drosol.

13A thynnant allan ludw yr allor, a thaenant arni wisg borffor.

14A rhoddant arni ei holl lestri, â’r rhai y gwasanaethant hi, sef y pedyll tân, y cigweiniau, a’r rhawiau, a’r cawgiau, ie, holl lestri’r allor; a thaenant arni orchudd o groen daearfoch, a gosodant ei throsolion wrthi.

15Pan ddarffo i Aaron ac i’w feibion orchuddio’r cysegr, a holl ddodrefn y cysegr, pan gychwynno’r gwersyll; wedi hynny deued meibion Cohath i’w dwyn hwynt: ond na chyffyrddant â’r hyn a fyddo cysegredig, rhag iddynt farw. Dyma faich meibion Cohath ym mhabell y cyfarfod.

16Ac i swydd Eleasar mab Aaron yr offeiriad y perthyn olew y goleuni, a’r arogl-darth peraidd, a’r bwyd-offrwm gwastadol, ac olew yr eneiniad, a goruchwyliaeth yr holl dabernacl, a’r hyn oll fydd ynddo, yn y cysegr, ac yn ei ddodrefn.

17A llefarodd yr ARGLWYDD wrth Moses ac Aaron, gan ddywedyd,

18Na thorrwch ymaith lwyth tylwyth y Cohathiaid o blith y Lefiaid:

19Ond hyn a wnewch iddynt, fel y byddont fyw, ac na fyddont feirw, pan nesânt at y pethau sancteiddiolaf: Aaron a’i feibion a ânt i mewn, ac a’u gosodant hwy bob un ar ei wasanaeth ac ar ei glud.

20Ond nac ânt i edrych pan fydder yn gorchuddio’r hyn sydd gysegredig, rhag marw ohonynt.

21A’r ARGLWYDD a lefarodd wrth Moses, gan ddywedyd,

22Cymer nifer meibion Gerson hefyd, trwy dŷ eu tadau, wrth eu teuluoedd;

23O fab dengmlwydd ar hugain ac uchod, hyd fab dengmlwydd a deugain, y rhifi hwynt; pob un a ddêl i ddwyn swydd, i wasanaethu gwasanaeth ym mhabell y cyfarfod.

24Dyma weinidogaeth tylwyth y Gersoniaid, o wasanaeth ac o glud.

25Sef dwyn ohonynt lenni’r tabernacl, a phabell y cyfarfod, ei len do ef, a’r to o grwyn daearfoch, yr hwn sydd yn uchaf arno, a chuddlen drws pabell y cyfarfod,

26A llenni’r cynteddfa, a chaeadlen drws porth y cynteddfa, yr hwn sydd ynghylch y tabernacl, a’r allor o amgylch, a’i rhaffau, a holl offer eu gwasanaeth hwynt, a’r hyn oll a wnaed iddynt: felly y gwasanaethant hwy.

27Wrth orchymyn Aaron a’i feibion y bydd holl wasanaeth meibion y Gersoniaid, yn eu holl glud, ac yn eu holl wasanaeth: a dodwch atynt eu holl glud i’w cadw.

28Dyma wasanaeth tylwyth meibion Gerson ym mhabell y cyfarfod; ac ar law Ithamar mab Aaron yr offeiriad y bydd eu llywodraethu hwynt.

29A meibion Merari, trwy eu teuluoedd, wrth dŷ eu tadau, y cyfrifi hwynt;

30O fab dengmlwydd ar hugain ac uchod, hyd fab dengmlwydd a deugain, y rhifi hwynt; pob un a ddêl i ddwyn swydd, i wasanaethu gwasanaeth pabell y cyfarfod.

31A dyma oruchwyliaeth eu clud hwynt, yn eu holl wasanaeth ym mhabell y cyfarfod; sef ystyllod y tabernacl, a’i farrau, a’i golofnau, a’i forteisiau,

32A cholofnau y cynteddfa oddi amgylch, a’u morteisiau, a’u hoelion, a’u rhaffau, ynghyd â’u holl offer, ac ynghyd â’u holl wasanaeth: rhifwch hefyd y dodrefn erbyn eu henwau y rhai a gadwant ac a gludant hwy.

33Dyma wasanaeth tylwyth meibion Merari, yn eu holl weinidogaeth ym mhabell y cyfarfod, dan law Ithamar mab Aaron yr offeiriad.

34A rhifodd Moses ac Aaron, a phenaethiaid y gynulleidfa, feibion Cohath, trwy eu teuluoedd, ac yn ôl tŷ eu tadau:

35O fab dengmlwydd ar hugain ac uchod, hyd fab dengmlwydd a deugain, sef pob un a ddelai mewn swydd i wasanaethu ym mhabell y cyfarfod:

36A’u rhifedigion trwy eu teuluoedd, oedd ddwy fil saith gant a deg a deugain.

37Dyma rifedigion tylwyth y Cohathiaid, sef pob gwasanaethydd ym mhabell y cyfarfod; y rhai a rifodd Moses ac Aaron, wrth orchymyn yr ARGLWYDD trwy law Moses.

38Rhifedigion meibion Gerson hefyd, trwy eu teuluoedd, ac yn ôl tŷ eu tadau;

39O fab dengmlwydd ar hugain ac uchod, hyd fab dengmlwydd a deugain, sef pob un a ddelai mewn swydd i wasanaethu ym mhabell y cyfarfod:

40A’u rhifedigion hwynt trwy eu teuluoedd, yn ôl tŷ eu tadau, oeddynt ddwy fil a chwe chant a deg ar hugain.

41Dyma rifedigion tylwyth meibion Gerson, sef pob gwasanaethydd ym mhabell y cyfarfod; y rhai a rifodd Moses ac Aaron, wrth orchymyn yr ARGLWYDD.

42A rhifedigion tylwyth meibion Merari, trwy eu teuluoedd, yn ôl tŷ eu tadau;

43O fab dengmlwydd ar hugain ac uchod, hyd fab dengmlwydd a deugain, sef pob un a ddelai mewn swydd i wasanaethu ym mhabell y cyfarfod:

44A’u rhifedigion hwynt trwy eu teuluoedd, oeddynt dair mil a dau cant.

45Dyma rifedigion tylwyth meibion Merari, y rhai a rifodd Moses ac Aaron, wrth orchymyn yr ARGLWYDD trwy law Moses.

46Yr holl rifedigion, y rhai a rifodd Moses ac Aaron, a phenaethiaid Israel, o’r Lefiaid, trwy eu teuluoedd, ac yn ôl tŷ eu tadau;

47O fab dengmlwydd ar hugain ac uchod, hyd fab dengmlwydd a deugain, sef pob un a ddelai i wneuthur gwaith gwasanaeth, neu waith clud ym mhabell y cyfarfod:

48A’u rhifedigion oeddynt wyth mil pum cant a phedwar ugain.

49Wrth orchymyn yr ARGLWYDD, trwy law Moses y rhifodd efe hwy, pob un wrth ei wasanaeth, ac wrth ei glud: fel hyn y rhifwyd hwynt, fel y gorchmynasai yr ARGLWYDD wrth Moses.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help