Deuteronomium 31 - William Morgan Bible with Apocrypha, 1959 Edition

1A Moses a aeth ac a lefarodd y geiriau hyn wrth holl Israel;

2Ac a ddywedodd wrthynt, Mab chwe ugain mlynedd ydwyf fi heddiw; ni allaf mwy fyned allan, a dyfod i mewn: yr ARGLWYDD hefyd a ddywedodd wrthyf, Ni chei fyned dros yr Iorddonen hon.

3Yr ARGLWYDD dy DDUW sydd yn myned drosodd o’th flaen di; efe a ddinistria’r cenhedloedd hyn o’th flaen, a thi a’u meddienni hwynt: Josua hefyd, efe a â drosodd o’th flaen, fel y llefarodd yr ARGLWYDD.

4A’r ARGLWYDD a wna iddynt fel y gwnaeth i Sehon ac i Og, brenhinoedd yr Amoriaid, ac i’w tir hwynt, y rhai a ddinistriodd efe.

5A rhydd yr ARGLWYDD hwynt o’ch blaen chwi; gwnewch chwithau iddynt hwy yn ôl yr holl orchmynion a orchmynnais i chwi.

6Ymgryfhewch, ac ymnerthwch; nac ofnwch, ac na ddychrynwch rhagddynt: canys yr ARGLWYDD dy DDUW sydd yn myned gyda thi; ni’th edy, ac ni’th wrthyd.

7A Moses a alwodd ar Josua, ac a ddywedodd wrtho yng ngolwg holl Israel, Ymgadarnha, ac ymnertha: canys ti a ei gyda’r bobl yma i’r tir a dyngodd yr ARGLWYDD wrth eu tadau hwynt ar ei roddi iddynt; a thi a’i rhenni yn etifeddiaeth iddynt.

8A’r ARGLWYDD hefyd sydd yn myned o’th flaen di; efe a fydd gyda thi; ni’th edy, ac ni’th wrthyd: nac ofna, ac na lwfrha.

9A Moses a ysgrifennodd y gyfraith hon, ac a’i rhoddes at yr offeiriaid meibion Lefi, y rhai a ddygent arch cyfamod yr ARGLWYDD, ac at holl henuriaid Israel.

10A Moses a orchmynnodd iddynt, gan ddywedyd, Yn ôl pob saith mlynedd, ar yr amser nodedig, ar flwyddyn y gollyngdod, ar ŵyl y pebyll,

11Pan ddelo holl Israel i ymddangos gerbron yr ARGLWYDD dy DDUW, yn y lle a ddewiso efe; y darlleni y gyfraith hon o flaen holl Israel, lle y clywant.

12Cynnull y bobl ynghyd, y gwŷr, y gwragedd, a’r plant, a’r dieithrddyn a fyddo o fewn dy byrth; fel y gwrandawont, ac fel y dysgont, ac yr ofnont yr ARGLWYDD eich DUW, ac yr edrychont am wneuthur holl eiriau y gyfraith hon;

13Ac y byddo i’w plant, y rhai ni wybuant ddim, glywed a dysgu ofni yr ARGLWYDD eich DUW, yr holl ddyddiau y byddoch fyw yn y tir yr ydych yn myned iddo dros yr Iorddonen i’w feddiannu.

14A dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses, Wele, nesaodd y dyddiau i ti i farw: galw Josua, a sefwch gerbron ym mhabell y cyfarfod, fel y rhoddwyf orchmynion iddo ef. Yna yr aeth Moses a Josua, ac a safasant gerbron ym mhabell y cyfarfod.

15A’r ARGLWYDD a ymddangosodd yn y babell mewn colofn gwmwl: a’r golofn gwmwl a safodd ar ddrws y babell.

16A dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses, Wele, ti a orweddi gyda’th dadau; a’r bobl yma a gyfyd, ac a buteiniant ar ôl duwiau dieithriaid y tir y maent yn myned i mewn iddo, ac a’m gwrthyd i, ac a dyr fy nghyfamod a wneuthum ag ef.

17A’m dig a ennyn yn eu herbyn y dydd hwnnw; a mi a’u gwrthodaf hwynt, ac a guddiaf fy wyneb oddi wrthynt; a bwyteir ef, a drygau lawer a chyfyngderau a ddigwyddant iddo ef; a’r dydd hwnnw y dywed efe, Onid am nad yw yr Arglwydd yn fy mysg y digwyddodd y drwg hwn i mi?

18Canys myfi gan guddio a guddiaf fy wyneb y dydd hwnnw, am yr holl ddrygioni a wnaeth efe, pan drodd at dduwiau dieithr.

19Ysgrifennwch yr awr hon gan hynny i chwi y gân hon: dysg hi hefyd i feibion Israel, a gosod hi yn eu genau hwynt; fel y byddo y gân hon yn dyst i mi yn erbyn meibion Israel.

20Canys dygaf ef i dir yn llifeirio o laeth a mêl, yr hwn a addewais trwy lw i’w dadau ef; fel y bwytao, ac y digoner, ac yr elo yn fras: ond efe a dry at dduwiau dieithr, ac a’u gwasanaetha hwynt, ac a’m dirmyga i, ac a ddiddyma fy nghyfamod.

21Yna, pan ddigwyddo iddo ddrygau lawer a chyfyngderau, y bydd i’r gân hon dystiolaethu yn dyst yn ei wyneb ef: canys nid anghofir hi o enau ei had ef: oherwydd mi a adwaen ei fwriad y mae efe yn ei amcanu heddiw, cyn dwyn ohonof fi ef i’r tir a addewais trwy lw.

22A Moses a ysgrifennodd y gân hon ar y dydd hwnnw, ac a’i dysgodd hi i feibion Israel.

23Efe a orchmynnodd hefyd i Josua fab Nun, ac a ddywedodd, Ymgryfha, ac ymnertha: canys ti a arweini feibion Israel i’r tir a addewais iddynt trwy lw: a mi a fyddaf gyda thi.

24A phan ddarfu i Moses ysgrifennu geiriau y gyfraith hon ar lyfr, hyd eu diwedd hwynt;

25Yna y gorchmynnodd Moses i’r Lefiaid y rhai oedd yn dwyn arch cyfamod yr ARGLWYDD, gan ddywedyd,

26Cymerwch lyfr y gyfraith hon, a gosodwch ef ar ystlys arch cyfamod yr ARGLWYDD eich DUW; fel y byddo yno yn dyst i’th erbyn.

27Canys mi a adwaen dy wrthnysigrwydd, a’th wargaledrwydd: wele, a myfi eto yn fyw gyda chwi heddiw, gwrthryfelgar yn erbyn yr ARGLWYDD fuoch; a pha faint mwy y byddwch wedi fy marw?

28Cesglwch ataf holl henuriaid eich llwythau, a’ch swyddogion: fel y llefarwyf y geiriau hyn lle y clywont hwy, ac y cymerwyf y nefoedd a’r ddaear yn dystion yn eu herbyn hwy.

29Canys mi a wn, wedi fy marw, gan lygru yr ymlygrwch, ac y ciliwch o’r ffordd a orchmynnais i chwi; ac y digwydda i chwi ddrwg yn y dyddiau diwethaf; am y gwnewch ddrygioni yng ngolwg yr ARGLWYDD, i’w ddigio ef â gweithredoedd eich dwylo.

30A llefarodd Moses lle y clybu holl gynulleidfa Israel eiriau y gân hon, hyd eu diwedd hwynt.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help